Sam Rowlands MS for North Wales is urging people to sign up to make a difference in the community.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government, said:
North Wales Police are currently accepting applications for Police Community Support Officers and I am calling on anyone who is interested in this role to apply.
The job is well worth considering if you have a genuine interest in where you live and thrive on variety and challenge.
As a PCSO you will be a visible and uniformed presence in the community with a focus on crime prevention. It is a rewarding and exciting role and with full and part-time positions available, starting next January, it is a great way to learn new skills, gain confidence and of course, help to reduce crime.
If you want to make a difference in your community then it is definitely worth applying.
As a PCSO you will patrol the streets, break up fights, investigate crimes, maybe even chase people from time to time. But many people do not realise how much time is spent pro-actively problem solving. Community-oriented policing focuses on helping people stay out of the criminal justice system, rather than on putting them into it.
The role is vital and unique, designed to tackle anti-social behaviour and local issues affecting the quality of life and their focus is on crime prevention.
New PCSOs receive nine weeks of initial training, involving role plays and practical sessions to really make sure you understand everything fully. You will also have either three or five days of Welsh training, depending on your current language level.
For the next six weeks you will be mentored by a PCSO who is trained as a tutor and you will be able to put your new skills into practice, under the observation of your experienced colleague. After this your tutor will assess you and if you are ready, you will be assigned to your new rota.
The role will entail post holders working on a shift and weekend rota and successful applicants will be required to provide a two year commitment to this role.
For more information and to apply go to:- https://policejobswales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-7/brand-3/xf-7fbd6e1e312d/candidate/so/pm/6/pl/18/opp/3680-Police-Community-Support-Officer/en-GB
Mae Sam Rowlands AS yn galw ar ei etholwyr i ystyried dod yn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i gofrestru i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig:
Ar hyn o bryd mae Heddlu Gogledd Cymru yn derbyn ceisiadau ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac rwy’n galw ar unrhyw un â diddordeb yn y rôl hon i wneud cais.
Mae’n werth ystyried y swydd os oes gennych chi ddiddordeb go iawn yn yr ardal lle’r ydych chi’n byw ac yn mwynhau amrywiaeth a her.
Fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu byddwch yn bresenoldeb amlwg mewn iwnifform yn y gymuned ac yn canolbwyntio ar atal troseddau. Mae’n swydd werth chweil a chyffrous gyda swyddi llawn amser a rhan-amser ar gael, yn dechrau fis Ionawr nesaf, ac mae’n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a helpu i leihau troseddau.
Os ydych chi am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, yna ymgeisiwch, da chi.
Fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu byddwch yn patrolio’r strydoedd, yn atal cwffio, yn ymchwilio i droseddau, ac efallai hyd yn oed yn rhedeg ar ôl pobl o bryd i’w gilydd. Ond nid yw llawer o bobl yn sylweddoli faint o amser sy’n cael ei dreulio yn datrys problemau’n rhagweithiol. Mae plismona cymunedol yn canolbwyntio ar helpu pobl i gadw allan o’r system gyfiawnder troseddol, yn hytrach na llithro i mewn i fyd o droseddu.
Mae’n rôl hanfodol ac unigryw, sydd wedi’i llunio i drechu ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau lleol sy’n effeithio ar ansawdd bywyd ac mae’r ffocws ar atal troseddau.
Mae Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu newydd yn derbyn naw wythnos o hyfforddiant cychwynnol, sy’n cynnwys chwarae rôl a sesiynau ymarferol i sicrhau eich bod yn deall popeth yn iawn. Byddwch hefyd yn cael tridiau neu bum diwrnod o hyfforddiant Cymraeg, yn dibynnu ar eich sgiliau iaith presennol.
Am y chwe wythnos wedyn byddwch yn cael eich mentora gan Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu sydd wedi hyfforddi fel tiwtor a byddwch yn gallu rhoi’ch sgiliau newydd ar waith, o dan lygad barcud cydweithiwr profiadol. Ar ôl hyn bydd eich tiwtor yn eich asesu ac os byddwch chi’n barod, byddwch yn cael eich aseinio i’ch rota newydd.
Bydd deiliaid y swydd yn gweithio rota shifft a phenwythnos a bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo i’r rôl am ddwy flynedd.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: https://policejobswales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-7/brand-3/xf-d58aaf57076d/candidate/so/pm/6/pl/18/opp/3680-Police-Community-Support-Officer/en-GB