Sam Rowlands Member of the Welsh Parliament for North Wales is urging people to apply to become police officers in his Region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, and a keen supporter of the work of the police, said:
North Wales Police are currently accepting applications for police officers and I am urging anyone interested to make sure they apply before the cut-off date, on Tuesday August 22.
As a keen and long-time supporter of the police and the valuable work they carry out I am happy to support North Wales Police’s recruitment drive and encourage my constituents to consider this job.
As a police officer you will be given the opportunity to have a really good career, working in one of the safest places to live, work and visit in the UK, with the chance to specialise in many different roles and facing varied challenges every day.
If you are interested in learning more about the role then why not go along to the Recruitment Open Day being held on Monday August 14 from 10am - 3pm at Colwyn Bay Headquarters.
Police Constables are the face and voice of North Wales Police. They are on the ground, working in partnership with the public and organisations in making a difference to the local community, coming from different walks of life, but united by the same goal – to keep communities safe.
As a police officer you will have a key role in supporting victims and witnesses and providing reassurance to individuals who’ve been subjected to crime and anti-social behaviour
Policing is one of the most varied jobs there is. From responding to a 999 call you may be saving a life, conducting traffic stops, preventing domestic abuse, identifying modern slavery, supporting victims, finding vulnerable people, or being the first on the scene in a disaster such as an accident, deceased, public disorders or terrorist attacks. Whatever your day brings, you’ll be in a unique position in making North Wales the safest place in the UK.
The window for applications is currently open until August 22 with an online assessment centre starting September 26. More details can be found on – Police Officers | North Wales Police
Sam Rowlands AS yn galw ar ei etholwyr i ystyried dod yn swyddogion heddlu yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands Aelod o’r Senedd dros y Gogledd yn annog pobl i wneud cais i ddod yn swyddogion heddlu yn ei Ranbarth.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, a chefnogwr brwd o waith yr heddlu:
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n derbyn ceisiadau am swyddogion heddlu ar hyn o bryd a dwi'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud cais cyn y dyddiad cau, sef dydd Mawrth 22 Awst.
Fel cefnogwr brwd a hirdymor i'r heddlu a'r gwaith gwerthfawr maen nhw’n ei wneud, dwi'n fwy na pharod i gefnogi ymgyrch recriwtio Heddlu Gogledd Cymru ac annog fy etholwyr i ystyried y swydd hon.
Fel swyddog heddlu, cewch gyfle i gael gyrfa dda iawn, gan weithio yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â nhw yn y DU, gyda'r cyfle i arbenigo mewn llawer o wahanol rolau ac wynebu heriau amrywiol bob dydd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am y rôl, beth am fynd draw i’r Diwrnod Agored Recriwtio sy'n cael ei gynnal ddydd Llun 14 Awst rhwng 10am a 3pm ym Mhencadlys Bae Colwyn.
Cwnstabliaid yr Heddlu yw wyneb a llais Heddlu Gogledd Cymru. Maen nhw ar lawr gwlad, yn gweithio mewn partneriaeth â'r cyhoedd a sefydliadau i wneud gwahaniaeth i'r gymuned leol. Maent yn dod o wahanol gefndiroedd, ond yn cael eu huno gan yr un nod – i gadw cymunedau'n ddiogel.
Fel swyddog heddlu, bydd gennych chi rôl allweddol wrth gefnogi dioddefwyr a thystion a rhoi sicrwydd i unigolion sydd wedi dioddef trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Plismona yw un o'r swyddi mwyaf amrywiol sydd ar gael. O ymateb i alwad 999 ac efallai achub bywyd, i waith stopio traffig, atal cam-drin domestig, canfod caethwasiaeth fodern, cefnogi dioddefwyr, dod o hyd i bobl fregus, neu fod y cyntaf i gyrraedd lleoliad pan fo trychineb fel damwain, marwolaeth, anrhefn cyhoeddus neu ymosodiadau terfysgol. Beth bynnag a wynebwch mewn diwrnod, byddwch mewn sefyllfa unigryw i sicrhau mai Gogledd Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn y DU.
Mae'r cyfnod ar gyfer ceisiadau ar agor tan 22 Awst ar hyn o bryd gyda chanolfan asesu ar-lein yn dechrau ar 26 Medi. Mae rhagor fanylion yma – Swyddogion Heddlu | Heddlu Gogledd Cymru