Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has vowed to carry on campaigning against the new default 20mph default speed limit which became law on Sunday.
He said:
Since the new default speed limit of 20mph came into force on Sunday my inbox has been inundated with messages from extremely frustrated and angry constituents about this.
I am also receiving telephone calls daily from residents who are extremely confused and concerned.
I have been told that many motorists are driving at ridiculously low speeds in 20mph areas causing long tailbacks on roads which have never been affected before.
Many of my constituents don’t understand why Mark Drakeford and his Labour colleagues are spending vast sums of money on implementing the new speed limit instead of using this funding to help people waiting for NHS treatment, or tackling many of our potholed roads.
I know that many people are sceptical of Labour’s claim that the new speed limit will reduce air pollution, whilst it’ll require cars to spend longer on the road, working harder at a lower gear.
As chair of the Cross-Party Group on Tourism, I am also deeply concerned about how this will affect the number of people coming to North Wales.
There is also a lot of confusion over how and when the new default 20mph limit will be enforced which will have a negative effect on attracting tourists. Who is going to come here if they possibly face being fined £100 and receive three points on their licence.
The whole thing is a complete farce and it has been a disastrous roll out. It is about time public opinion was taken into account and the whole idea was scrapped immediately.
Sam Rowlands AS yn galw am ddileu terfyn cyflymder o 20mya ar ôl i dros 188,000 arwyddo deiseb yn ei erbyn
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi addo parhau i ymgyrchu yn erbyn y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol newydd a ddaeth i rym ddydd Sul.
Mae Mr Rowlands, un o feirniaid llym y cynllun bellach yn annog y cyhoedd i arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu a dileu'r gyfraith 20mya.
Meddai:
Ers i'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol newydd ddod i rym ddydd Sul mae fy mewnflwch wedi bod yn llawn dop o negeseuon gan etholwyr hynod rwystredig a dig ynglŷn â hyn.
Rydw i hefyd yn derbyn galwadau ffôn bob dydd gan breswylwyr sy'n hynod ddryslyd ac yn bryderus.
Rydw i wedi cael gwybod bod llawer o fodurwyr yn gyrru ar gyflymder chwerthinllyd o isel mewn ardaloedd 20mya gan achosi ciwiau hir ar ffyrdd nad ydyn nhw erioed wedi cael eu heffeithio o'r blaen.
Dyw llawer o’m hetholwyr ddim yn deall pam mae Mark Drakeford a'i gydweithwyr Llafur yn gwario symiau enfawr o arian ar weithredu'r terfyn cyflymder newydd yn hytrach na defnyddio'r cyllid hwn i helpu pobl sy'n aros am driniaeth y GIG, neu fynd i'r afael â chymaint o dyllau yn ein ffyrdd.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn amheus o honiad Llafur y bydd y terfyn cyflymder newydd yn lleihau llygredd aer, tra bydd yn gofyn i geir dreulio'n hirach ar y ffordd, gan weithio'n galetach ar gêr is.
Fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, rydw i hefyd yn bryderus iawn ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar nifer y bobl sy'n dod i Ogledd Cymru.
Mae yna hefyd lawer o ddryswch ynghylch sut a phryd y bydd y terfyn 20mya cyffredinol newydd yn cael ei orfodi a phryder y bydd yn cael effaith negyddol ar ddenu twristiaid. Pwy sy'n mynd i ddod yma os byddan nhw o bosib yn wynebu dirwy o £100 ac yn derbyn tri phwynt ar eu trwydded?
Mae'r holl beth yn ffars llwyr ac mae’r ffodd y mae wedi’i gyflwyno wedi bod yn drychinebus. Mae'n hen bryd i farn y cyhoedd gael ei hystyried a bod yr holl syniad yn cael ei anghofio unwaith ac am byth.