Sam Rowlands MS for North Wales is urging people to get together and enjoy a cuppa and a cake to raise money for Dementia UK.
He said:
I recently had the opportunity to visit the Carers Trust North Wales Dementia Centre in Mochdre where I met with staff and carers to find out more about the services they provide. It was fantastic to see the work being carried out there as the centre not only provides help for those suffering with the disease but it also offers a lifeline to carers and their families.
As a MS for North Wales I also back moves to make the Senedd more dementia friendly and I am always happy to support and help to highlight this disease.
I am now calling on my constituents to get together and take part in the Dementia UK’s ‘Time for a Cuppa’ campaign running from May 1-8. Why not enjoy a cup of tea and a slice of cake and help raise vital funds.
Carers Trust North Wales offers a service providing personalised information, advice and support to people at the point of a dementia diagnosis for individuals, carers and families.
There are Dementia Co-ordinators based in Memory Clinics across North Wales who can assist with: Planning for the Future; emotional support; advice on money/ finances; signposting; information on social activity groups and home visits.
As part of the Dementia Support Service, the trust is now holding monthly local support groups called Taith Ni, for people with dementia and their family and friends in all areas of North Wales.
The groups provide training, information, advice and support. To find out where your nearest Taith Ni group is and when it's next on, please ring 01492 542212.
Dementia is a huge and growing health crisis. By 2025, over one million people in the UK will be living with the condition, and almost all of us will know someone affected, whether it’s a family member or a friend.
You can host an event at home, at work, in a care home or in the community. By taking part and collecting donations, you’ll be helping more families receive the life-changing support of specialist dementia nurses.
If you have any questions about Time for a Cuppa, or would like to talk about your event call the Time for a Cuppa Team on 020 8036 5380 or email [email protected].
Sam Rowlands AS yn galw ar etholwyr i gefnogi digwyddiad elusennol mawr fis nesaf
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i ddod at ei gilydd a mwynhau paned a chacen i godi arian i Dementia UK.
Meddai:
Cefais gyfle yn ddiweddar i ymweld â Chanolfan Dementia Gogledd Cymru Ymddiriedolaeth y Gofalwyr ym Mochdre, gan gyfarfod staff a gofalwyr i ddysgu mwy am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Roedd yn wych gweld y gwaith sy'n cael ei wneud yno gan fod y ganolfan nid yn unig yn rhoi cymorth i'r rhai sy'n dioddef o'r clefyd ond hefyd yn cynnig achubiaeth i ofalwyr a'u teuluoedd.
Fel AS dros ranbarth y Gogledd, rwyf hefyd yn cefnogi camau i wneud y Senedd yn fwy ystyriol o ddementia ac rwyf bob amser yn hapus i gefnogi a helpu i dynnu sylw at y clefyd hwn.
Rwan, rwy'n galw ar fy etholwyr i ddod at ei gilydd a chymryd rhan yn ymgyrch 'Time for a Cuppa' Dementia UK rhwng 1 ac 8 Mai. Beth am fwynhau paned a sleisen o gacen a helpu i godi arian hanfodol.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yn cynnig gwasanaeth sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth personol i bobl ar adeg diagnosis dementia i unigolion, gofalwyr a theuluoedd.
Mae Cydlynwyr Dementia wedi'u lleoli mewn Clinigau Cof ledled y Gogledd, ac maen nhw'n gallu helpu gyda: cynllunio ar gyfer y dyfodol; cymorth emosiynol; cyngor ar arian/cyllid; cyfeirio; gwybodaeth am grwpiau gweithgareddau cymdeithasol ac ymweliadau cartref.
Fel rhan o'r Gwasanaeth Cymorth Dementia, mae'r ymddiriedolaeth bellach yn cynnal grwpiau cymorth lleol misol o'r enw Taith Ni, ar gyfer pobl â dementia a'u teulu a'u ffrindiau ym mhob cwr o'r Gogledd. Mae'r grwpiau'n darparu hyfforddiant, gwybodaeth, cyngor a chymorth. I wybod lle mae'ch grŵp Taith Ni agosaf a phryd maen nhw'n cyfarfod nesaf, ffoniwch 01492 542212.
Mae dementia yn argyfwng iechyd enfawr sy'n tyfu. Erbyn 2025, bydd dros filiwn o bobl yn y DU yn byw gyda'r cyflwr, a bydd bron pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi'u heffeithio, boed perthynas neu gyfaill.
Gallwch gynnal digwyddiad gartref, yn y gwaith, mewn cartref gofal neu yn y gymuned. Drwy gymryd rhan a chasglu rhoddion, byddwch yn helpu mwy o deuluoedd i gael cymorth nyrsys dementia arbenigol sy'n newid bywydau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Time for a Cuppa, neu os hoffech siarad am eich digwyddiad, ffoniwch y tîm ar 020 8036 5380 neu e-bostiwch [email protected]