Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging Labour and Plaid members of the Senedd to support their constituents and vote against plans to introduce a blanket nationwide 20mph speed limit across Wales.
On Wednesday the Welsh Parliament is once again to debate the controversial decision by Welsh Government to introduce the law in September, following a backlash from the public and a petition, signed by over 21,000 people calling for the plan to be scrapped.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, and a harsh critic of the proposals has previously said the idea was bonkers and supports campaigners in Buckley, who have continually voiced their concern at the decision.
Earlier this summer, Mr Rowlands asked people living in Buckley and the surrounding areas for their feedback with the overwhelming majority totally against the proposal. Over 600 people responded with the overwhelming majority, with over 98% against the proposals and many of the comments said it was not needed and a total waste of money.
He said:
It really is quite staggering but not surprising that so many people signed the petition against this ridiculous decision to introduce a blanket 20mph on our roads. The petition was growing every day and the Senedd’s Petitions Committee stepped in to stop it and asked the Senedd to look at the matter again.
There is so much overwhelming evidence that this will not be a good thing for the country, not only from a financial point of view but it could also increase pollution as everyone will be driving with higher revs and changing gears all the time. And to top it off, the minister leading the charge on this, Lee Waters, even admitted last week that he “got it wrong”, it is absolutely bonkers.
Like most people I am not against 20mph speed limit outside schools, hospitals and other areas where evidence shows it’s a benefit, but a blanket 20mph speed limit across urban roads in Wales is not the answer.
My inbox is full of emails from concerned residents across North Wales and I would urge my fellow Labour and Plaid MSs to support their constituents and vote against the proposal and together we can put pressure on Welsh Government to scrap this ridiculous plan.
Sam Rowlands AS yn galw am gymorth trawsbleidiol i gael gwared ar derfyn cyflymder 20mya cyffredinol ledled Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog aelodau Llafur a Phlaid Cymru’r Senedd i gefnogi eu hetholwyr a phleidleisio yn erbyn cynlluniau i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ledled Cymru.
Ddydd Mercher bydd y Senedd unwaith eto yn trafod penderfyniad dadleuol Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r gyfraith ym mis Medi, yn dilyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd a deiseb, wedi'i llofnodi gan dros 21,000 o bobl yn galw am ddileu'r cynllun.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, a beirniad llym ar y cynigion wedi dweud yn y gorffennol bod y syniad yn hurt ac yn cefnogi ymgyrchwyr ym Mwcle, sydd wedi lleisio eu pryder yn barhaus am y penderfyniad.
Yn gynharach yr haf hwn, gofynnodd Mr Rowlands i bobl sy'n byw ym Mwcle a'r ardaloedd cyfagos am eu hadborth gyda'r mwyafrif llethol yn gwbl yn erbyn y cynnig. Ymatebodd dros 600 o bobl gyda'r mwyafrif llethol o dros 98% yn erbyn y cynigion a dywedodd llawer nad oedd ei angen a’i fod yn wastraff arian llwyr.
Dywedodd:
Mae'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd ond nid yw'n syndod bod cymaint o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb yn erbyn y penderfyniad chwerthinllyd hwn i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya cyffredinol ar ein ffyrdd. Roedd y ddeiseb yn tyfu bob dydd a chamodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd i'w stopio a gofyn i'r Senedd edrych ar y mater eto.
Mae cymaint o dystiolaeth ysgubol na fydd hyn yn beth da i'r wlad, nid yn unig o safbwynt ariannol ond gallai hefyd gynyddu llygredd gan y bydd pawb yn refio mwy wrth yrru ac yn newid gêr drwy'r amser. Ac i goroni’r cyfan, yr wythnos diwethaf, fe wnaeth hyd yn oed y gweinidog a oedd yn arwain yr ymgyrch o blaid, Lee Waters, ddweud ei fod wedi "cael pethau’n anghywir", mae'n hollol hurt.
Fel y rhan fwyaf o bobl, dydw i ddim yn erbyn terfyn cyflymder o 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill lle mae tystiolaeth yn dangos ei fod o fudd, ond nid terfyn cyflymder 20mya ar draws ffyrdd trefol yng Nghymru yw'r ateb.
Mae fy mewnflwch yn llawn negeseuon e-bost gan drigolion pryderus ledled Gogledd Cymru a byddwn yn annog fy nghyd-Aelodau Llafur ac aelodau Plaid o’r Senedd i gefnogi eu hetholwyr a phleidleisio yn erbyn y cynnig a gyda'n gilydd gallwn roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y cynllun chwerthinllyd hwn.