Sam Rowlands MS for North Wales is urging his constituents to make sure they take up the offer of a Covid booster jab.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and member of the Welsh Parliament, was commenting after Betsi Cadwallader University Health Board said vaccinations would start this week.
He said:
As winter is fast approaching and we hear about Covid cases increasing I would urge people who are offered the jab, to seek this extra protection.
It is vital we protect people, ourselves and those who are at risk and it is important that we continue to reduce Covid cases and help those who are most vulnerable to serious infection.
The booster will help those who have a higher risk of contracting Covid, improve their protection and will ultimately cut down on hospital admissions therefore easing pressure on our already stretched health services in North Wales.
I would also encourage people to get their flu jab which again is added protection against catching any respiratory infections.
From September 11, The health board’s COVID-19 vaccination teams will prioritise people living in care homes, followed by people who are housebound. They will then move onto other eligible groups, beginning with those at highest clinical risk.
To help protect front line staff who deliver essential health and care services, we will also begin vaccinating a number of NHS and social care staff early in our vaccination programme.
As in previous COVID-19 vaccination campaigns, we will contact everyone eligible for an autumn booster vaccination with an appointment when it is their turn. Appointments will take place at a community vaccination centre or a nearby GP surgery near.
Patients should wait to receive an invitation for their vaccination appointment, there is no need to contact the Health Board. Anyone who has received an invitation and has any concerns, queries or needs to change the date or time can do so via our COVID-19 Vaccination Contact Centre on 03000 840 004. Telephone lines are open 8am-6pm Monday to Friday and 9am-2pm on Saturday and Sunday.
If anyone is eligible for a free flu vaccine, their GP surgery will usually contact them to offer an appointment at a flu vaccination clinic. GP surgeries usually invite the most vulnerable patients to get their flu vaccine first.
Some patients may be invited to attend a local community vaccination centre for their flu vaccination. These patients will be contacted directly with details of their appointment including date, time and location. More than 100 community pharmacies in North Wales also offer free flu vaccines to eligible groups.
Sam Rowlands AS yn galw ar bawb sy'n gymwys i gael eu pigiadau atgyfnerthu’r Hydref ar gyfer Covid
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cynnig am bigiad atgyfnerthu Covid.
Roedd Mr Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Ceidwadwyr Cymreig, yn gwneud ei sylw wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddweud y byddai’r brechiadau'n dechrau'r wythnos hon.
Meddai:
Wrth i'r gaeaf prysur agosáu a ninnau’n clywed am achosion Covid yn cynyddu, byddwn yn annog pobl sy'n cael cynnig y pigiad, i dderbyn yr amddiffyniad ychwanegol hwn.
Mae'n hanfodol ein bod yn amddiffyn pobl, ein hunain a'r rhai sydd mewn perygl ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i leihau achosion Covid a helpu'r rhai sydd fwyaf agored i haint difrifol.
Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu'r rhai sydd â risg uwch o ddal Covid, yn gwella eu hamddiffyniad ac yn y pen draw bydd yn lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty ac felly'n ysgafnhau'r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau yng Ngogledd Cymru.
Byddwn hefyd yn annog pobl i gael eu pigiad ffliw sydd eto'n cynnig amddiffyniad ychwanegol rhag dal unrhyw heintiau anadlol.
O 11 Medi, bydd timau brechu COVID-19 y bwrdd iechyd yn blaenoriaethu pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac yna pobl sy'n gaeth i'r tŷ. Yna byddant yn symud ymlaen i grwpiau cymwys eraill, gan ddechrau gyda'r rhai sydd â'r risg glinigol uchaf.
Er mwyn helpu i ddiogelu staff rheng flaen sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol, byddwn hefyd yn dechrau brechu nifer o staff y GIG a gofal cymdeithasol yn gynnar yn ein rhaglen frechu.
Fel mewn ymgyrchoedd brechu COVID-19 blaenorol, byddwn yn cysylltu â phawb sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu'r Hydref gydag apwyntiad pan ddaw eu tro. Bydd apwyntiadau'n cael eu cynnal mewn canolfan frechu gymunedol neu feddygfa gyfagos.
Dylai cleifion aros i dderbyn gwahoddiad ar gyfer eu hapwyntiad brechu, does dim angen cysylltu â'r Bwrdd Iechyd. Gall unrhyw un sydd wedi derbyn gwahoddiad ac sydd ag unrhyw bryderon, ymholiadau neu sydd angen newid y dyddiad neu'r amser wneud hynny drwy ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840 004. Mae'r llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am-2pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Os oes unrhyw un yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim, bydd eu meddygfa fel arfer yn cysylltu â nhw i gynnig apwyntiad mewn clinig brechu rhag y ffliw. Mae meddygfeydd fel arfer yn gwahodd y cleifion mwyaf bregus i gael eu brechu’n gyntaf.
Efallai y bydd rhai cleifion yn cael eu gwahodd i fynd i ganolfan frechu gymunedol leol ar gyfer eu brechiad ffliw. Byddwn yn cysylltu â'r cleifion hyn yn uniongyrchol gyda manylion eu hapwyntiad gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad. Mae dros 100 o fferyllfeydd cymunedol yng Ngogledd Cymru hefyd yn cynnig brechlynnau ffliw am ddim i grwpiau cymwys.