Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for a long term plan to increase the number of dentists.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, and a harsh critic of the Welsh Government’s failure to deal with the lack of NHS dentists in North Wales, was speaking in the Senedd in a debate on dentistry training.
He said:
We know that dentist provision is such an important part of the healthcare system and is a major part of the preventative agenda. Dentistry is such an important part of that in reducing much bigger, more expensive issues further down the line.
We know this is especially important for children, who can and should then be building healthy teeth-cleaning habits into adulthood and I'm particularly concerned about the issues that we're building up here in Wales for young people and adults down the line.
Sadly, for the people I represent here in North Wales the provision simply isn't good enough, and we are left with what some describe as 'dental deserts' across the region. This lack of consistency certainly exacerbates those problems down the line, increasing major issues in the future, and, ultimately, costing taxpayers more as well.
I think it's perfectly reasonable for people paying their taxes to expect to have access to an NHS dentist. I don't think that's beyond what people should be expecting to receive as a basic part of their health needs. But, sadly, too many people are being let down with this most basic of expectations.
The health committee report on dentistry last year contained a number of useful recommendations, one of which was to look at a dental school in North Wales, in partnership with the university. A fully funded and fully functioning dental school in our area in North Wales would certainly go a long way to giving Wales and North Wales the dental workforce that it needs, for those patients that need that service.
It is necessary and fair to recognise that an expansion of training places isn’t without cost, and we have to consider the cost of training, university clinical placement capacity, in addition to having quality academic staff who can design and deliver those courses. But, Cabinet Secretary, I would argue that there must be a strong spend-to-save business case to be made here, and I would urge you to pursue this in the strongest terms possible.
He called for the Cabinet Secretary, Eluned Morgan to increase the number of dentists and support staff alongside traditional dentists.
He added:
I would make increasing those numbers a central plank of this Government’s work, and getting a grip on a broad-ranging long-term plan would certainly go a long way to making this happen, so that our constituents can have access to the NHS dentists that they need.
Sam Rowlands AS yn galw ar y Gweinidog Iechyd i 'fynd i’r afael' â gwasanaethau deintyddiaeth yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi galw am gynllun hirdymor i gynyddu nifer y deintyddion.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, a beirniad llym o fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â diffyg deintyddion y GIG yn y Gogledd, yn siarad yn y Senedd mewn dadl ar hyfforddiant deintyddiaeth.
Meddai:
Rydyn ni'n gwybod bod darpariaeth deintyddion yn rhan mor bwysig o'r system gofal iechyd ac mae'n rhan bwysig o'r agenda ataliol. Mae deintyddiaeth yn rhan mor bwysig o hynny wrth leihau problemau llawer mwy, drutach yn ddiweddarach.
Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn arbennig o bwysig i blant, a all ac a ddylai fod yn datblygu arferion glanhau dannedd iach wrth dyfu’n oedolion, ac rwy'n arbennig o bryderus am y problemau rydyn ni'n eu cronni yma yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc ac oedolion maes o law.
Yn anffodus, i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yma yn y Gogledd, dyw'r ddarpariaeth ddim yn ddigon da, a’r hyn sydd gennym yw’r hyn y mae rhai yn ei ddisgrifio fel 'anialwch deintyddol' ar draws y rhanbarth. Heb os, mae'r diffyg cysondeb hwn yn gwaethygu'r problemau hynny, gan gynyddu problemau mawr yn y dyfodol, ac, yn y pen draw, yn costio mwy i drethdalwyr hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol i bobl sy'n talu eu trethi ddisgwyl cael mynediad at ddeintydd GIG. Dydw i ddim yn credu bod hynny y tu hwnt i'r hyn y dylai pobl fod yn disgwyl ei dderbyn fel rhan sylfaenol o'u hanghenion iechyd. Ond, yn anffodus, mae gormod o bobl yn cael eu siomi gyda'r disgwyliadau mwyaf sylfaenol hyn.
Roedd adroddiad y pwyllgor iechyd ar ddeintyddiaeth y llynedd yn cynnwys nifer o argymhellion defnyddiol, ac un ohonyn nhw oedd ystyried agor ysgol ddeintyddol yn y Gogledd, mewn partneriaeth â'r brifysgol. Byddai ysgol ddeintyddol a fyddai’n cael ei hariannu’n llawn ac yn gweithredu'n llwyr yn ein hardal yn y Gogledd yn sicr yn gwneud cyfraniad sylweddol at roi'r gweithlu deintyddol sydd ei angen ar Gymru a’r Gogledd, ar gyfer y cleifion hynny sydd angen y gwasanaeth hwnnw.
Mae'n angenrheidiol ac yn deg cydnabod bod angen arian i ehangu lleoedd hyfforddi, ac mae'n rhaid i ni ystyried cost hyfforddiant, capasiti lleoliadau clinigol prifysgol, yn ogystal â chael staff academaidd o safon sy'n gallu llunio a darparu'r cyrsiau hynny. Ond, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn i'n dadlau bod yn rhaid cael achos busnes cryf i arbed arian yma, a byddwn yn pwyso arnoch yn daer i fynd ar drywydd hyn.
Galwodd ar Ysgrifennydd y Cabinet, Eluned Morgan i gynyddu nifer y deintyddion a staff cymorth ochr yn ochr â deintyddion traddodiadol.
Ychwanegodd:
Byddwn i’n gwneud cynyddu'r niferoedd hynny’n amcan canolog o waith y Llywodraeth hon, ac yn sicr byddai cael cynllun hirdymor eang yn cyfrannu'n helaeth at wneud i hyn ddigwydd, fel y gall ein hetholwyr gael mynediad at ddeintyddion y GIG sydd eu hangen arnyn nhw.