Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has urged Welsh Government to do more to support the development of offshore energy in Wales.
Speaking in the Welsh Conservative Debate on Offshore Renewable Energy, which received Cross-Party support, he said:
Since becoming a Member of the Parliament for North Wales, I've been a huge advocate of the fantastic benefits that offshore renewable energy contains, but also the fantastic natural resources, facilities, skills and unique opportunities that we have here in Wales, much of this being in the region of North Wales.
By utilising our coastal waters, we will help to deliver a revolution in green, renewable energy, and we are expecting to see, by 2050, that surge of 300% in electricity consumption, so there is a very near and present need to see this green revolution take place. Whether it's wind, wave or tidal energy projects, they can all play a crucial role, of course, in delivering a green economy and moving away from our current reliance on oil and gas.
It is estimated that a further 10,000 green jobs could be created if this opportunity is fully and properly grasped. Many of these jobs, of course, are well paid, with long, successful careers, which is essential in terms of certainly supporting our young people staying in some of our more rural communities, having those important jobs.
Offshore renewables can contribute a significant amount towards our wider economy and that all-important supply-chain opportunity that comes with it. This would make such a difference in some of our industrial advanced technology heartlands in North Wales, such as in Deeside and Wrexham.
For the benefits and opportunities of offshore renewable energy to be fully maximised and utilised, we need to see further work from the Welsh Government.
We must ensure that more is done to ensure that these renewable energy projects are encouraged and supported, and any slowdown in renewable energy development, deployment and investment is reversed as quickly as possible.
Sam Rowlands AS yn galw am fwy o gyfleoedd ynni adnewyddadwy ar y môr
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi datblygiad ynni ar y môr yng Nghymru.
Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, a gafodd gefnogaeth Trawsbleidiol, dywedodd:
Ers dod yn Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, rwyf wedi bod yn eiriolwr brwd dros y manteision gwych y mae ynni adnewyddadwy ar y môr yn eu cynnig, ond hefyd yr adnoddau naturiol, cyfleusterau, sgiliau a chyfleoedd unigryw gwych sydd gennym yma yng Nghymru, gyda llawer o’r rhain yn rhanbarth y Gogledd.
Trwy ddefnyddio ein dyfroedd arfordirol, byddwn yn helpu i gyflawni chwyldro mewn ynni gwyrdd adnewyddadwy, ac rydyn ni’n disgwyl gweld cynnydd o 300% yn y defnydd o drydan erbyn 2050, felly mae angen dybryd a brys i weld y chwyldro gwyrdd hwn yn digwydd. Boed yn brosiectau ynni gwynt, tonnau neu lanw, fe allan nhw i gyd chwarae rôl hanfodol, wrth gwrs, wrth ddarparu economi werdd a symud i ffwrdd o'n dibyniaeth bresennol ar olew a nwy.
Yr amcangyfrif yw y gallai 10,000 o swyddi gwyrdd eraill gael eu creu os ydyn ni’n manteisio yn llawn ac yn briodol ar y cyfle hwn. Mae llawer o'r swyddi hyn, wrth gwrs, yn talu'n dda, gyda gyrfaoedd hir, llwyddiannus, sy'n hanfodol o ran cefnogi ein pobl ifanc i aros yn rhai o'n cymunedau mwy gwledig, gan lenwi’r swyddi pwysig hynny.
Gall ynni adnewyddadwy ar y môr gyfrannu swm sylweddol tuag at ein heconomi ehangach a’r gadwyn gyflenwi holl bwysig honno yn sgil hynny. Byddai hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth yn rhai o'n cadarnleoedd uwch-dechnoleg diwydiannol yn y Gogledd, fel yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam.
Er mwyn manteisio’n llawn ar gyfleoedd ynni adnewyddadwy ar y môr, mae angen i ni weld rhagor o waith gan Lywodraeth Cymru.
Rhaid i ni sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod y prosiectau ynni adnewyddadwy hyn yn cael eu hannog a'u cefnogi, a bod unrhyw rwystrau sy’n arafu datblygu ynni adnewyddadwy, y defnydd ohono a’r buddsoddi ynddo yn cael eu dymchwel cyn gynted â phosib.