Sam Rowlands MS for North Wales is urging residents across his region to make sure they don’t lose their right to vote.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and Shadow Minister for Local Government is calling on his constituents to respond to the annual canvass to checks electoral details.
He said:
During August and September councils across North Wales will be sending out letters to residents to check information held on the electoral register is correct. If the information on the form is not right then you need to act.
It is vitally important that people do not miss out and use their right to vote and have a say in decisions which affect us all.
No-one is automatically registered, even if you pay council tax, so it is crucial to check.
To vote in Welsh elections you must be registered and I would encourage everyone to act now and check your details are up to date when you receive your letter.
In Wales, 16 and 17 year olds are able to vote in Senedd and local government elections, which means that 14 and 15 year old need to register too. If you have anyone living at your property aged 14 or older they can now be added to the electoral register so that when they turn 16 they are able to vote in these elections.
All foreign nationals, who are legally living in Wales are also able to vote. Previously it has only ben British, Irish, Commonwealth or EU citizens. This means that if you are from a country other than these you can now vote at these elections.
If you do not receive a letter from the council then you may not be registered. To register go to www.gov.uk/register-to-vote
Sam Rowlands AS yn galw ar bobl i wirio eu manylion etholiadol
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn annog trigolion ar draws ei ranbarth i sicrhau nad ydyn nhw’n colli’r hawl i bleidleisio.
Mae Mr Rowlands, Ceidwadwr Cymreig a’r Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar ei etholwyr i ymateb i’r canfasiad blynyddol i wirio manylion etholiadol.
Meddai:
Yn ystod mis Awst a mis Medi bydd cynghorau ledled y Gogledd yn anfon llythyrau i drigolion i wirio a yw gwybodaeth ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Os nad yw’r wybodaeth ar y ffurflen yn gywir mae’n rhaid i chi weithredu
“Mae’n hollbwysig bod pobl ddim yn colli eu cyfle a’u bod yn defnyddio eu pleidlais er mwyn cael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar bawb ohonom.
Does neb wedi’i gofrestru’n awtomatig, hyd yn oed os ydych chi’n talu’r dreth gyngor, felly mae’n rhaid i chi wirio.
I bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru a byddwn yn annog pawb i weithredu nawr a gwirio bod eich manylion yn gyfredol pan dderbyniwch eich llythyr.
Yng Nghymru, mae pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, sy’n golygu bod angen i bobl ifanc 14 a 15 oed gofrestru hefyd. Os oes gennych chi unrhyw yn byw yn eich eiddo sy’n 14 oed neu’n hŷn gallwch eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol yn awr er mwyn iddynt allu pleidleisio yn yr etholiadau hyn pan fyddant yn 16 oed.
Mae unrhyw wladolion tramor sy’n byw yn gyfreithlon yng Nghymru yn gallu pleidleisio hefyd. Cyn hyn, dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu’r UE oedd yn gallu. Mae hyn yn golygu y gallwch chi bleidleisio yn yr etholiadau hyn erbyn hyn os ydych chi’n dod o wlad arall nad yw wedi ei chynnwys yn y rhestr uchod.
Os nad ydych chi wedi derbyn llythyr gan y cyngor efallai nad ydych wedi’ch cofrestru. I gofrestru, ewch i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio