Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging his constituents to take part in a consultation about the proposals.
Mr Rowlands said:
It is very important that people are able to voice an opinion on whether they want to see another National Park which would encompass the Clwydian Range and the Dee Valley Areas of Outstanding Natural Beauty.
They are both beautiful parts of North Wales and attract hundreds of visitors from all over every year and I can see how they certainly would lend themselves to becoming a National Park.
I welcome the consultation and urge people who have any comments or views on the proposal to make sure they have their say over the next two months.”
Welsh Government has commissioned NRW, acting as Wales’ official Designating Authority, to assess the feasibility of creating a new National Park, focusing on the Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty, AONB. This would be a fourth National Park for Wales, and the first new such park to be established in Wales since 1957.
Designated Landscapes, consisting of National Parks and AONBs, cover approximately 25% of Wales. They are areas legally recognised for their natural beauty, and for National Parks, the opportunities they provide for open-air recreation.
Consultations will take place in October and November, when the public will have the opportunity to attend engagement events in person or online in locations such as Loggerheads Country Park and Llangollen Town Hall.
This will be an early opportunity to learn more about the project, ask questions of the team and share feedback on an early map of the area being assessed.
People from local communities and other key stakeholders are welcome to share their views on the initial Area of Search map. Please note, the map being shared at this point will not be the proposed boundary, it is subject to further changes as the assessment procedure continues.
Ash Pearce, Project Manager, said:
At this stage the map simply defines the area to focus our assessment work, we are interested in listening to and understanding all stakeholders’ points of view. I would urge anyone interested in the project to visit one of our online or in-person drop-in events to find out more about the work we are doing and share your feedback with us by completing a questionnaire.
The case for a new National Park will be considered within the existing Senedd term, 2021-2026.
For more information, to express an interest in the online engagement events, or to contact a member of the team, please email: [email protected]
Sam Rowlands AS yn galw ar bobl i ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn y Gogledd-ddwyrain
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y cynigion.
Meddai Mr Rowlands:
Mae'n bwysig iawn bod pobl yn gallu lleisio’u barn ynghylch a ydyn nhw am weld Parc Cenedlaethol arall a fyddai'n cwmpasu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae'r ddau yn rhannau hardd o Ogledd Cymru ac yn denu cannoedd o ymwelwyr o bell ac agos gydol y flwyddyn a gallaf weld sut y bydden nhw’n sicr yn deilwng o fod yn Barc Cenedlaethol.
Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ac yn annog pobl sydd ag unrhyw sylwadau neu farn ar y cynnig i sicrhau eu bod yn dweud eu dweud dros y ddau fis nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC, gan weithredu fel Awdurdod Dynodi swyddogol Cymru, i asesu dichonoldeb creu Parc Cenedlaethol newydd, gan ganolbwyntio ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Hwn fyddai'r pedwerydd Parc Cenedlaethol i Gymru, a'r parc newydd cyntaf o'i fath i gael ei sefydlu yng Nghymru ers 1957.
Mae Tirweddau Dynodedig, sy'n cynnwys Parciau Cenedlaethol ac AHNE, yn gorchuddio tua 25% o Gymru. Maen nhw’n ardaloedd sy'n cael eu cydnabod yn gyfreithiol am eu harddwch naturiol, ac ar gyfer y Parciau Cenedlaethol, y cyfleoedd y maen nhw’n eu darparu ar gyfer hamdden awyr agored.
Cynhelir ymgynghoriadau ym misoedd Hydref a Tachwedd, pan fydd cyfle i'r cyhoedd fynychu digwyddiadau ymgysylltu yn bersonol neu ar-lein mewn lleoliadau fel Parc Gwledig Loggerheads a Neuadd y Dref Llangollen.
Bydd hwn yn gyfle cynnar i ddysgu mwy am y prosiect, gofyn cwestiynau i'r tîm a rhannu adborth ar fap cynnar o'r ardal sy'n cael ei asesu.
Mae croeso i bobl o gymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill rannu eu barn ar y map Ardal Chwilio cychwynnol. Sylwer, nid y map sy'n cael ei rannu ar hyn o bryd fydd y ffin arfaethedig, mae'n destun newidiadau pellach wrth i'r weithdrefn asesu barhau.
Meddai Ash Pearce, Rheolwr y Prosiect:
Ar hyn o bryd mae'r map yn diffinio'r ardal i ganolbwyntio ein gwaith asesu arni ac mae gennym ddiddordeb clywed safbwyntiau rhanddeiliaid a'u deall. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect i ymweld ag un o'n digwyddiadau galw heibio ar-lein neu wyneb yn wyneb i ddarganfod mwy am y gwaith rydyn ni’n ei wneud a rhannu’ch adborth gyda ni drwy lenwi holiadur.
Bydd yr achos dros Barc Cenedlaethol newydd yn cael ei ystyried yn ystod tymor presennol y Senedd, 2021-2026.
Am ragor o wybodaeth, i fynegi diddordeb yn y digwyddiadau ymgysylltu ar-lein, neu i gysylltu ag aelod o'r tîm, e-bostiwch: [email protected]