Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging his constituents to vote for a Wrexham tree which has been shortlisted for a national award.
A Sweet Chestnut Tree in Acton Park, which is thought to be around 490 years old is in the running to be crowned ‘Tree of the Year’ in the latest round of the competition, organised by the Woodland Trust.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and who has a keen interest in nature and the environment said:
I am delighted to see Acton Park’s Sweet Chestnut Tree has been shortlisted by the Woodland Trust, to represent Wales, for this prestigious award.
I think it is fantastic news that a tree in North Wales is one of only 12 shortlisted for this top award with the chance of also going through to represent the UK in Europe.
I am a great supporter of trees in our community and share Wrexham County Borough Council’s view that they should be celebrated in the area.
I would urge everyone to get voting and help crown the Wrexham tree the champion.
Debbie Wallice, Councillor for Borras Park, said:
Acton Park is one of the many jewels in our community’s crown — it’s fantastic to see this ancient and historic tree recognised as a contender for tree of the year.
We’re so lucky to have such a beautiful park on our doorstep. Let’s all get behind this beautiful Veteran Sweet Chestnut, vote it in as tree of the year and ensure it survives for another half millennia.
The Woodland Trust’s panel of tree experts has shortlisted 12 fascinating urban contenders from across the UK for Tree of the Year 2023 – with one additional tree voted for by the public.
This year’s contest shines a spotlight on ancient trees in urban locations; all are in accessible locations and available to visit completely free any time (located in city parks, busy town centres and residential streets). Each one has an amazing story to tell and is loved by locals, as well as providing vital habitat for wildlife, helping to reduce flooding, screen out noise, provide shade, filter air pollution, increase property values and bring cultural capital to our streets and parks.
In Wales, the Woodland Trust has shortlisted a Veteran Sweet Chestnut Tree located in Wrexham’s Acton Park. The tree has an impressive circumference of 6.1m and a height of 24m, indicating that it has been standing for around 490 years. It has withstood many challenges during its half-millennium, from post-war plundering of the park for firewood in the forties to dozens of deadly storms, including that of 2021 when many neighbouring trees lost limbs or were toppled completely. Now a feature of community events like this year’s tree party celebrations, the stately tree is well loved by locals for its history, value and beauty.
The Welsh public are being encouraged to vote for the Wrexham Sweet Chestnut and help to crown it this year’s champion; voting for the Woodland Trust’s 2023 Tree of the Year is open now until Sunday, October 15.
This year’s winner will be announced later this year on Thursday October 19and will go on to represent the UK in the European Tree of the Year competition.
Sam Rowlands AS yn galw ar bobl i bleidleisio dros goeden arbennig mewn cystadleuaeth genedlaethol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog ei etholwyr i bleidleisio dros goeden yn Wrecsam sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.
Mae Coeden Castanwydden Felys ym Mharc Acton, y credir ei bod tua 490 mlwydd oed yn y gystadleuaeth i gael ei choroni’n 'Goeden y Flwyddyn' yn rownd ddiweddaraf y gystadleuaeth, a drefnir gan Coed Cadw.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, sydd â diddordeb brwd mewn natur a'r amgylchedd:
Rwy'n falch iawn o weld bod Coeden Castanwydden Felys Parc Acton wedi cyrraedd rhestr fer Coed Cadw, i gynrychioli Cymru, ar gyfer y wobr fawreddog hon.
Rwy'n credu ei fod yn newyddion gwych bod coeden yma yn y Gogledd yn un o ddim ond 12 ar y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog hon gyda'r cyfle hefyd i gynrychioli'r DU yn Ewrop.
Rwy'n gefnogwr brwd o goed yn ein cymuned ac yn rhannu barn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y dylid eu dathlu yn yr ardal.
Byddwn yn annog pawb i bleidleisio a helpu i goroni coeden Wrecsam yn bencampwr.
Meddai Debbie Wallice, Cynghorydd Parc Borras:
Mae Parc Acton yn un o'r tlysau niferus yng nghoron ein cymuned — mae'n wych gweld y goeden hynafol a hanesyddol hon yn cael ei chydnabod fel cystadleuydd ar gyfer coeden y flwyddyn.
Rydyn ni mor ffodus cael parc mor hardd ar garreg y drws. Gadewch i ni i gyd gefnogi’r goeden Castanwydden Felys hynafol hardd hon, a rhoi ein pleidlais iddi fel coeden y flwyddyn a sicrhau ei bod yn goroesi am hanner mileniwm arall.
Mae’r panel o dri arbenigwr coed Coed Cadw wedi llunio rhestr fer o 12 cystadleuydd trefol diddorol o bob cwr o'r DU ar gyfer Coeden y Flwyddyn 2023 – gyda’r cyhoedd yn pleidleisio dros un goeden ychwanegol.
Mae'r gystadleuaeth eleni’n taflu goleuni ar goed hynafol mewn lleoliadau trefol; maen nhw i gyd mewn lleoliadau hygyrch a gellir ymweld â nhw yn rhad ac am ddim unrhyw bryd (wedi'u lleoli mewn parciau dinasoedd, canol trefi prysur a strydoedd preswyl). Mae gan bob un stori anhygoel i'w hadrodd ac maent yn agos at galonnau’r bobl leol, yn ogystal â darparu cynefin hanfodol i fywyd gwyllt, gan helpu i leihau llifogydd, atal sŵn, cynnig cysgod, hidlo llygredd aer, cynyddu gwerth eiddo a dod â chyfalaf diwylliannol i'n strydoedd a'n parciau.
Yng Nghymru, mae Coed Cadw wedi rhoi hen goeden Castanwydden Felys sydd wedi'i lleoli ym Mharc Acton, Wrecsam ar y rhestr fer. Mae gan y goeden gylchedd trawiadol o 6.1m ac uchder o 24m, sy'n dangos ei bod wedi bod yn sefyll yno am oddeutu 490 o flynyddoedd. Mae wedi gwrthsefyll llawer o heriau yn ystod ei hanner mileniwm, o ysbeilio'r parc ar gyfer coed tân ar ôl y rhyfel yn y pedwar degau i ddwsinau o stormydd angheuol, gan gynnwys storm 2021 pan gollodd llawer o goed cyfagos ganghennau neu gael eu dinistrio’n llwyr. Bellach mae’n nodwedd o ddigwyddiadau cymunedol fel dathliadau parti coed eleni, mae'r goeden urddasol hon yn agos at galonnau’r bobl leol oherwydd ei hanes, ei gwerth a'i harddwch.
Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu hannog i bleidleisio dros y goeden Castanwydden Felys a helpu i'w choroni’n bencampwr eleni; mae'r pleidleisio ar gyfer Coeden y Flwyddyn 2023 Coed Cadw ar agor nawr tan ddydd Sul, 15 Hydref.
Cyhoeddir enillydd eleni yn ddiweddarach eleni, ddydd Iau 19 Hydref a bydd yn mynd ymlaen i gynrychioli'r DU yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.