Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on residents to share their views and ideas on the development of the new Football Museum for Wales.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, said:
The ‘Museum of Two Halves’ as it is also known, is a fantastic project and something I am very happy to see being developed in Wrexham and I am delighted to see the local council interested in hearing what local people think.
I think it is vitally important for communities to be involved and have a say about major projects in their areas and for their views to be taken into consideration.
I would urge people to take the time to take part in the survey and share their ideas and comments with Wrexham County Borough Council.
The ‘Museum of Two Halves’ is Wrexham Council’s shorthand name to describe the project that will see the development of the Football Museum for Wales and a new Wrexham Museum in the current museum building on Regent Street in Wrexham.
The new football museum will celebrate Welsh football, past and present, in all its diversity, and will host a programme of activities and events to inspire all who visit to learn, be active and achieve their potential.
This survey is an important opportunity to share your ideas and comment on our plans and should take less than 10 minutes to complete.
If you wish to be put into a prize draw for £50 of shopping vouchers you will have the opportunity to give your details at the end. This prize draw is for UK respondents only.
The deadline for completion is 11pm on September 17 2023. The winner will be selected at random and notified by 11pm on September 24 2023. See full terms and conditions outlined at entry.
This is an independent survey being conducted on behalf of Wrexham County Borough Council.
Complete the survey here.
Mae Sam Rowlands AS yn galw ar bobl yn Wrecsam i ddweud eu dweud am gynlluniau ar gyfer amgueddfa newydd y ddinas.
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar drigolion i rannu eu barn a'u syniadau ar ddatblygiad Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Mae'r Amgueddfa Dau Hanner’ fel y'i gelwir hefyd, yn brosiect gwych ac yn rhywbeth rwy'n hapus iawn i'w weld yn cael ei ddatblygu yn Wrecsam ac rwy'n falch iawn o weld bod gan y cyngor lleol ddiddordeb mewn clywed beth mae pobl leol yn ei feddwl.
Byddwn yn annog pobl i roi o’u hamser i gymryd rhan yn yr arolwg a rhannu eu syniadau a'u sylwadau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
'Amgueddfa Dau Hanner' yw enw llaw fer Cyngor Wrecsam i ddisgrifio'r prosiect fydd yn datblygu Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd yn adeilad presennol yr amgueddfa ar Stryd Regent yn Wrecsam.
Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, a bydd yn cynnal rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i ysbrydoli pawb sy'n ymweld i ddysgu, bod yn egnïol a chyflawni eu potensial.
Mae'r arolwg hwn yn gyfle pwysig i rannu’ch syniadau a rhoi sylwadau ar ein cynlluniau a dylai gymryd llai na 10 munud i'w gwblhau.
Os hoffech chi gael eich cynnwys mewn raffl am £50 o dalebau siopa cewch gyfle i roi’ch manylion ar y diwedd. Mae'r wobr hon ar gyfer ymatebwyr yn y DU yn unig.
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau yw 11pm ar 17 Medi 2023. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap a'i hysbysu erbyn 11pm ar 24 Medi 2023. Gweler telerau ac amodau llawn y gystadleuaeth.
Mae hwn yn arolwg annibynnol sy'n cael ei gynnal ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cwblhewch yr arolwg yma.