Sam Rowlands, a Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for a review on transport links between Anglesey and the rest of Wales.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and an active supporter of Ynys Môn’s campaign to become a freeport said:
I welcome the news that the UK Government plans to establish the two freeports in Wales, and also join the Member for Ynys Môn in highlighting the free port in Anglesey, and also in paying credit to both the work of the local authority and to Stena Line, and also to applaud the efforts of my Conservative colleague Virginia Crosbie, the MP for Ynys Môn, in championing the Holyhead free-port bid in Westminster.
Good transport links will be vital to make sure that the new freeports achieve their potential, creating new jobs, attracting the new investment we want to see and spreading prosperity as well.
Mr Rowlands asked Economy Minister, Vaughan Gething what assessment had been made of the roads review on the current and future transport links between Ynys Môn and the rest of Wales and also, of the third Menai crossing as a result of the announcement last week.
The Minister said “We're not going to be able to make a formal announcement on the basis of the freeport bid moving forward to the next stage. Understanding the level of economic activity that the free port can deliver, we'll have greater clarity on that once the outline business case is returned.
Mr Rowlands added:
I do hope that Welsh Government will take on board the importance of reviewing the transport links, between Anglesey and the rest of Wales and across the border into England as well.
The Holyhead Freeport will create new jobs which will be accessible to people living on Ynys Môn and further afield in North Wales and we need to make sure we do everything we can to make the project a success.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi statws porthladd rhydd Ynys Môn
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, wedi galw am adolygiad ar gysylltiadau trafnidiaeth rhwng Ynys Môn a gweddill Cymru.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a chefnogwr gweithgar o'r ymgyrch i wneud Ynys Môn yn borthladd rhydd:
Rwy'n croesawu'r newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu dau borthladd rhydd yng Nghymru. Rwy’n ymuno ag Aelod Ynys Môn hefyd wrth dynnu sylw at y porthladd rhydd yn Ynys Môn, a chanmol gwaith yr awdurdod lleol a Stena Line, ac rwyf hefyd yn talu teyrnged i ymdrechion Virginia Crosbie, fy nghydweithiwr o’r Blaid Geidwadol ac Aelod Seneddol Ynys Môn, wrth iddi hyrwyddo'r cais am borthladd rhydd yng Nghaergybi yn San Steffan.
Bydd cysylltiadau trafnidiaeth da yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y porthladdoedd rhydd newydd yn cyflawni eu potensial, gan greu swyddi newydd, denu'r buddsoddiad newydd rydyn ni am ei weld a lledaenu ffyniant hefyd.
Gofynnodd Mr Rowlands i Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, pa asesiad oedd wedi'i wneud o'r adolygiad ffyrdd ar y cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Ynys Môn a gweddill Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a hefyd, yr adolygiad o'r drydedd bont dros y Fenai o ganlyniad i'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf.
Dywedodd y Gweinidog "Dydyn ni ddim am allu gwneud cyhoeddiad ffurfiol ar sail y ffaith bod y cais am borthladd rhydd wedi symud ymlaen i'r cam nesaf. Byddwn yn cael mwy o eglurder ar lefel y gweithgarwch economaidd y gall y porthladd rhydd ei gyflwyno ac yn dod i ddeall mwy unwaith y bydd yr achos busnes amlinellol yn cael ei ddychwelyd.”
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pwysigrwydd adolygu'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Ynys Môn a gweddill Cymru a thros y ffin i mewn i Loegr hefyd.
Bydd Porthladd Rhydd Caergybi yn creu swyddi newydd a fydd yn hygyrch i bobl sy'n byw ar Ynys Môn ac ymhellach i ffwrdd yn y gogledd ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl er mwyn i’r prosiect fod yn llwyddiant.