Sam Rowlands MS for North Wales wants to see more Welsh language education available in his region.
Speaking in the Senedd in both English and Welsh, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, urged Welsh Government to do more to make this happen.
He said:
I have a keen interest in Welsh-language education in Alyn and Deeside as it is important that we enable Welsh-language education and encourage more people to speak and learn Welsh.
But, as we know much of the provision and delivery of Welsh language education is largely down to local authorities working with schools, regional consortia, such as GwE in North Wales.”
Mr Rowlands asked the Education Minister, Jeremy Miles what assessment he has made of the collaboration between local authorities in North Wales, working with GwE, and schools, so that they can work as a team to deliver ambitions around Welsh language education in his region.
The Minister said they wanted to see equal access for all children in Wales to Welsh-medium schools.
Mr Rowlands added:
I was pleased to hear the minister’s positive response and I do hope they continue to work with GwE, which is the North Wales regional school improvement service working alongside, and on behalf of my region’s local authorities.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi mwy o bobl i siarad a dysgu Cymraeg
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, am weld mwy o addysg Gymraeg ar gael yn ei ranbarth.
Gan siarad yn y Senedd yn Gymraeg a Saesneg, gofynnodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Meddai:
Mae gen i ddiddordeb brwd mewn addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy gan ei bod yn bwysig ein bod yn galluogi addysg Gymraeg ac yn annog mwy o bobl i siarad a dysgu Cymraeg.
Ond fel y gwyddom, mae llawer o’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn dibynnu ar yr awdurdodau lleol yn gweithio gydag ysgolion, consortia rhanbarthol, fel GwE yma yn y Gogledd.”
Gofynnodd Mr Rowlands i Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, pa asesiadau y mae wedi’u cynnal i’r cydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn y Gogledd, gweithio gyda GwE, ac ysgolion, er mwyn iddynt allu gweithio fel tîm i wireddu uchelgeisiau ynghylch addysg Gymraeg yn ei ranbarth.
Dywedodd y Gweinidog ei fod am weld mynediad cyfartal i ysgolion Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Roeddwn i’n falch o glywed ymateb positif y Gweinidog ac rwy’n gobeithio y byddant yn dal ati i weithio gyda GwE, sef gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol y Gogledd, sy’n gweithio ar ran a gydag awdurdodau lleol fy rhanbarth.