Sam Rowlands MS for North Wales is calling for urgent action to secure the future of religious buildings in Wales.
Mr Rowlands, Trustee of a local church in North Wales, was responding to a Senedd Member’s Debate on Religious Buildings, which received Welsh Government and cross-party support.
He said:
It is extremely concerning that we continue to see the closure of religious buildings up and down Wales, and I am sure all members will agree that faith is an important aspect of Welsh life.
Religious buildings are often the heart of communities, and, at times, bring all parts of our community together. Even for non-believers, faith is what many people reach out to in times of need.
While these buildings are merely structures to hold the church, the significance is beyond bricks and mortar—it is what they represent. These buildings often hold important family and community memories of celebration, memories of grief, and every emotion in between. They have also been the gathering place through generations, the support in dark times and good times, and I argue they will need to be in place for future generations too.
But, sadly, as we know, the future of many buildings of religion and of faith across Wales is not secure. This is also sadly the case in my own region of North Wales, with many important buildings having an uncertain future. For example, St Mary's cathedral in Wrexham, a grade ll listed building, is currently facing a worrying time with the cathedral hall needing a full refurbishment and the heating system needing to be replaced. Also coming to mind is Llanrhychwyn church in the beautiful Conwy valley, which many people claim is the oldest church in Wales.
Now is the time for Welsh Government to work with all denominations in Wales to discuss the future of religious buildings, and most importantly ensure they are here to stay for our future generations.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol adeiladau crefyddol
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw am gamau brys i ddiogelu dyfodol adeiladau crefyddol yng Nghymru.
Roedd Mr Rowlands, Ymddiriedolwr eglwys leol yn y Gogledd, yn ymateb i Ddadl yr Aelodau o’r Senedd ar Adeiladau Crefyddol, a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac yn drawsbleidiol.
Meddai:
Mae’n destun pryder mawr ein bod yn parhau i weld adeiladau crefyddol yn cael eu cau ledled Cymru, ac rwy’n siŵr y bydd pob aelod yn cytuno bod ffydd yn agwedd bwysig ar fywyd yng Nghymru.
Yn aml, adeiladau crefyddol yw calon ein cymunedau, ac ar adegau, maen nhw’n dod â phob rhan o’r gymuned at ei gilydd. Hyd yn oed i bobl nad ydyn nhw’n grefyddol, maen nhw’n aml yn troi at ffydd mewn angen.
Er mai dim ond strwythurau yw’r adeiladau hyn i gynnal yr eglwys, mae’r arwyddocâd y tu hwnt i frics a mortar - mae a wnelo â’r hyn maen nhw’n ei gynrychioli. Yn aml, mae’r adeiladau hyn yn llawn atgofion o ddathlu gyda’r teulu a’r gymuned, atgofion o alar, a’r holl rychwant o emosiynau rhwng y ddau. Maen nhw hefyd wedi bod yn lle i ymgynnull drwy’r cenedlaethau, gan gynnig cefnogaeth yn ystod y dyddiau da a’r dyddiau tywyll, a bydd yn sicr eu hangen ar genedlaethau’r dyfodol hefyd.
Ond, yn anffodus, fel y gwyddom, dydy dyfodol llawer o adeiladau crefyddol a ffydd ledled Cymru ddim yn ddiogel. Mae hyn yn dod i’r amlwg yn fy rhanbarth i yn y Gogledd, gyda llawer o adeiladau pwysig gyda’u dyfodol yn ansicr. Er enghraifft, eglwys gadeiriol y Santes Fair yn Wrecsam, adeilad rhestredig gradd II, sy’n wynebu amser gofidus gyda neuadd yr eglwys angen ei hadnewyddu’n llwyr a’r system wresogi angen ei newid. Hefyd, eglwys Llanrhychwyn yn nyffryn Conwy hyfryd, sef eglwys hynaf Cymru medden nhw.
Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru weithio gyda phob enwad yng Nghymru i drafod dyfodol adeiladau crefyddol, ac yn anad dim, i sicrhau eu bod yma o hyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.