Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed concern over proposals to change the dates for school holidays.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government asked the Education Minister to provide an update on the plans.
He said:
I am sure you will acknowledge that there are deep challenges with education in Wales, as some of the most recent PISA results being further evidence of that. This points to the life chances of children across Wales being damaged because of those poorer educational outcomes, and it's going to take a huge endeavour to turn this system around.
Instead of using every bit of energy possible to turn this system around, what we are presented with is some tinkering, trying to change the school holidays.
Looking to change school holidays to try and improve educational outcomes doesn't seem to stack up. We know that much better performing European nations, like the Republic of Ireland and Estonia, who have outstanding education results, have significantly longer summer holidays than we do in Wales, with Estonia having around three months of summer holidays.
He asked the Minister, to convince him that considering changing the school holidays was not just a way of tinkering with things, and how he was actually going to tackle the real issues that schools are facing.
The Minister, Jeremy Miles said proposals around the structure of the school year are subject to a public consultation which was published on November 21 2023 and runs until February 12 this year.
Mr Rowlands added:
I am seriously concerned about the way education is going here in Wales and I certainly don’t think tinkering with school holidays is the answer. That should be way down the list.
What is even more worrying that it does not matter what the consultation shows or what the electorate think as the Welsh Labour Government will not listen to the public as shown with the implementation of the disastrous blanket 20mph.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion go iawn sy'n wynebu ysgolion yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi mynegi pryder ynghylch cynigion i newid dyddiadau gwyliau ysgol.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid i'r Gweinidog Addysg rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau.
Meddai:
Rwy'n siŵr y byddwch chi’n cydnabod bod heriau sylweddol yn wynebu addysg yng Nghymru, gyda’r canlyniadau PISA diweddaraf yn tystio ymhellach i hyn. Mae hyn yn dangos bod cyfleoedd bywyd plant ledled Cymru yn dioddef yn sgil y deilliannau addysgol tlotach hynny, a bydd angen cryn ymdrech i gael trefn ar y system hon unwaith eto.
Yn hytrach na defnyddio pob mymryn o egni posib i roi trefn go iawn ar y system, yr hyn welwn ni yw rhyw botsian dibwrpas a cheisio newid gwyliau'r ysgol.
Dyw ystyried newid gwyliau ysgol er mwyn ceisio gwella deilliannau addysgol ddim yn gwneud synnwyr. Gwyddom fod gan wledydd Ewropeaidd sy'n perfformio'n llawer gwell, fel Gweriniaeth Iwerddon ac Estonia, sydd â chanlyniadau addysgol rhagorol, wyliau haf llawer hirach na’n rhai ni yma yng Nghymru, gydag Estonia yn cael tua thri mis o wyliau haf.
Gofynnodd i'r Gweinidog ei argyhoeddi nad dim ond potsian hefo’r system oedd yr ystyriaeth hon i newid gwyliau'r ysgol, a sut y byddai’n mynd ati i fynd i'r afael â'r problemau go iawn sy’n wynebu ein hysgolion.
Dywedodd y Gweinidog, Jeremy Miles fod cynigion ynghylch strwythur y flwyddyn ysgol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2023 ac y bydd yn para tan 12 Chwefror eleni.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n poeni’n fawr am addysg yma yng Nghymru ac yn sicr dydw i ddim yn credu mai potsian gyda’r gwyliau ysgol yw'r ateb. Dylai hynny fod ymhell i lawr y rhestr.
Beth sydd hyd yn oed yn fwy gofidus yw nad oes ots beth mae'r ymgynghoriad yn ei ddangos na beth mae'r etholwyr yn ei feddwl gan na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrando ar y cyhoedd – fe welsom ni hynny’n sicr wrth weithredu'r ddeddfwriaeth 20mya drychinebus.