Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales has hit out at the Labour Welsh Government’s commissioned Roads Review, which calls for nearly all road schemes in North Wales to be halted, or scrapped altogether.
Responding to the Statement by the Deputy Minister for Climate Change, “The Roads Review and National Transport Delivery Plan”, Sam Rowlands MS said:
Of the 16 projects that are lined up there, the recommendations are for 15 of those to either stop or to be scrapped altogether.
My constituents in north Wales are going to be extremely concerned, not just at this, but also the reports we've heard earlier in regard to the north Wales metro in terms of the amount of investment intended there, compared to what's happening down in south Wales.”
I need assurances for my residents in north Wales that they'll get a fair share of public transport investment, which clearly isn't happening at the moment.
Sam Rowlands MS added:
Instead of slowing Wales down, the Labour Welsh Government should grip the wheel and get Wales moving again with a pro-growth, pro-businesses, pro-worker programme.
Sam Rowlands AS yn rhoi sylwadau ar yr Adolygiad Ffyrdd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi gwawdio’r Adolygiad Ffyrdd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru, sy'n galw am atal bron pob cynllun ffordd yn y Gogledd, neu eu dileu yn gyfan gwbl.
Wrth ymateb i'r Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, "Yr Adolygiad Ffyrdd a'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth", dywedodd Sam Rowlands AS:
O'r 16 prosiect sydd ar y gweill, mae'r Adolygiad yn argymell bod 15 o'r rheini naill ai'n cael eu hatal neu’n cael eu dileu'n gyfan gwbl.
Mae fy etholwyr yn y Gogledd yn mynd i fod yn hynod bryderus, nid yn unig am hyn, ond hefyd yr adroddiadau y clywsom yn gynharach am fetro gogledd Cymru a faint o fuddsoddiad oedd wedi ei fwriadu yno, o gymharu â'r hyn sy'n digwydd i lawr yn y De."
Rwyf angen sicrwydd ar gyfer fy nhrigolion yn y Gogledd y byddan nhw’n cael cyfran deg o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n amlwg ddim yn digwydd ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Sam Rowlands AS:
Yn lle arafu Cymru, dylai Llywodraeth Lafur Cymru roi ei throed ar y sbardun a chael Cymru'n symud eto gyda rhaglen o blaid twf, o blaid busnesau, o blaid gweithwyr.