Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed concern over the way local authority housing is allocated in Gwynedd.
Speaking in Welsh Parliament, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I'd like to call for a statement from the Minister for Climate Change on local authority housing allocation expectations.
I have heard concerns from residents in Gwynedd, in my region of North Wales, regarding the social housing register. They have shared with me that, when their circumstances change within the house that they are in, or if they move within private rented accommodation, they automatically come off the social housing register.
Then that person has to reapply, go to the bottom of the list, and the whole process starts over and over again.
I have a resident in particular who's had to move a number of times in private rented accommodation, mainly for reasons outside of their control, desperate to get into social housing.
But the way in which the housing allocation works means they are right at the bottom of the list every single time, and it seems to be unfair.
I'd be grateful to receive a statement from the Minister for Climate Change, outlining Welsh Government's expectations when it comes to the allocation of local authority housing.
Trefnydd, Lesley Griffiths said:
The Welsh Government obviously gives all our local authorities guidance in relation to the way they allocate. I think you make a really important point—there can be nothing more disheartening than applying and then going back to the bottom of the list, or indeed reapplying. I will ask the Minister for Climate Change if there are any plans to update that guidance.
Sam Rowlands AS yn pryderu am ddyraniad tai awdurdodau lleol
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi mynegi pryder ynglŷn â'r modd mae tai awdurdodau lleol yn cael eu dyrannu yng Ngwynedd.
Wrth siarad yn Senedd Cymru, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol:
Hoffwn alw am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddisgwyliadau dyrannu tai awdurdodau lleol.
Rwyf wedi clywed pryderon gan drigolion Gwynedd, yn fy rhanbarth i o'r Gogledd, am y gofrestr tai cymdeithasol. Maen nhw wedi dweud wrtha i pan fydd eu hamgylchiadau'n newid o fewn y tŷ maen nhw'n byw ynddo, neu os ydyn nhw'n symud o fewn llety rhent preifat, eu bod yn dod oddi ar y gofrestr tai cymdeithasol yn awtomatig.
Wedyn mae'n rhaid i'r person yna ailymgeisio, mynd i waelod y rhestr, ac mae'r broses gyfan yn dechrau o'r dechrau eto.
Mae gen i breswylydd penodol sydd wedi gorfod symud nifer o weithiau mewn llety rhent preifat, yn bennaf am resymau y tu allan i'w rheolaeth, ac sy'n ysu am gael tŷ cymdeithasol.
Ond mae'r ffordd y mae'r dyraniad tai yn gweithio yn golygu eu bod ar waelod y rhestr bob tro, sy'n ymddangos yn gwbl annheg.
Byddwn yn ddiolchgar i dderbyn datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran dyrannu tai awdurdodau lleol.
Dywedodd y Trefnydd, Lesley Griffiths:
Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau i'n holl awdurdodau lleol mewn perthynas â'r ffordd maen nhw'n dyrannu tai. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn—does dim byd yn fwy digalon na gwneud cais ac yna mynd yn ôl i waelod y rhestr, neu yn wir ailymgeisio. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd a oes unrhyw gynlluniau i ddiweddaru'r canllawiau hynny.