Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says he is angry that Flintshire Labour politicians have only just got involved over the 20mph concerns in their county.
Mr Rowlands, a harsh critic of the new default 20mph speed limit, which was rolled out on September 17, is furious that Welsh Government is still failing to listen to the public on this issue.
He said:
A petition against this disastrous policy is heading towards half a million signatures and it is only now that Labour politicians in Flintshire are finally taking the public voice seriously.
I really don’t know where they have been for the past 18 months for the people of Buckley who piloted the scheme and were totally against it.
I understand that local councillors are also now beginning to wake up and realise that the public are overwhelmingly against this new default speed limit and have finally realised that people do not want this crazy new law.
It is about time the whole idea was scrapped. It has been less than a month since implementation. It has been a clear disaster and people have had enough. It is time Welsh Government made a U-turn.
Sam Rowlands AS yn beirniadu gwleidyddion Llafur lleol am fethu â chefnogi eu hetholwyr dros gyflwyno’r terfyn cyflymder o 20mya
Dywed Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, ei fod yn flin mai dim ond newydd ymateb i’r y pryderon 20mya yn y sir y mae gwleidyddion Llafur Sir y Fflint.
Mae Mr Rowlands, sy’n un o feirniad llym y terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd, a gyflwynwyd ar 17 Medi, yn gandryll bod Llywodraeth Cymru yn dal i fethu â gwrando ar y cyhoedd ar y mater hwn.
Dywedodd:
Mae deiseb yn erbyn y polisi trychinebus hwn wedi ei harwyddo gan bron i hanner miliwn o bobl, a dim ond nawr y mae gwleidyddion Llafur yn Sir y Fflint o’r diwedd yn cymryd llais y cyhoedd o ddifri.
Dydw i wir ddim yn deall lle maen nhw wedi bod am y 18 mis diwethaf ers i bobl Bwcle dreialu’r cynllun a’i wrthwynebu’n llwyr.
Rwy’n deall bod cynghorwyr lleol bellach yn dechrau deffro a sylweddoli bod y cyhoedd yn gwrthwynebu’r terfyn cyflymder diofyn newydd hwn ac o’r diwedd wedi deall nad yw pobl eisiau’r ddeddf newydd wallgof hon.
Mae’n hen bryd rhoi’r gorau i’r holl syniad. Llai na mis sydd ers i’r ddeddf gael ei gweithredu. Mae’n amlwg iddi fod yn drychinebus, ac mae pobl wedi cael digon. Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol.