Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, claims the local government funding formula is not fit for purpose.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Local Government Minister, was speaking after the Welsh Conservatives held an opposition debate in the Senedd calling for council tax to be kept as low as possible.
He said:
The average resident in Wales is facing a 5.5% hike in their council tax bill, yet councils are holding around £2.75bn in useable reserves. It’s clear that the Welsh Government’s local government funding formula is not fit for purpose.
In our motion we proposed to keep council tax low, introduce referenda for excessive council tax rises, and reform the local government funding formula.
Staggeringly, and during this cost-of-living challenge, Labour, Plaid Cymru, and the Liberal Democrats voted against keeping council tax low for our hard-working residents up and down Wales.
It is even more amazing when we hear Labour leader, Keir Starmer saying he would freeze council tax if his party was in government which is completely at odds with the Welsh Government. Once again we see Labour saying they’ll do one thing, and then actually doing the opposite.
Welsh Conservative Leader, Andrew RT Davies MS added:
Keir Starmer said for what Labour would do in Westminster, look to Wales. Every time they have had the chance to freeze council tax in Wales, they’ve refused to do it, despite the Welsh Conservatives long running campaign to help local people by freezing council tax.
Sam Rowlands AS yn beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am bleidleisio yn erbyn cadw treth cyngor yn isel
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn honni nad yw’r fformiwla ariannu llywodraeth leol yn addas i’r diben.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, yn siarad wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig gynnal dadl gyda’r gwrthbleidiau yn y Senedd yn galw am gadw’r dreth gyngor mor isel â phosib.
Meddai:
Mae’r person cyffredin yng Nghymru yn wynebu cynnydd o 5.5% yn ei bil treth gyngor, ond eto mae cynghorau yn dal tua £2.75bn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Mae’n amlwg nad yw fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru yn addas i’r diben.
Yn ein cynnig fe wnaethom ni gynnig cadw treth gyngor yn isel, cyflwyno refferenda ar gyfer cynnydd gormodol yn y dreth gyngor, a diwygio’r fformiwla ariannu llywodraeth leol.
Mae’n syfrdan, gyda chostau byw fel ydyn nhw, fod Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn cadw’r dreth gyngor yn isel i’n trigolion gweithgar ar hyd a lled Cymru.
Mae hyd yn oed yn fwy anhygoel pan glywn arweinydd Llafur, Keir Starmer, yn dweud y byddai’n rhewi’r dreth gyngor pe bai ei blaid mewn llywodraeth, sydd yn gwbl groes i safiad Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, rydyn ni’n gweld Llafur yn dweud y byddan nhw’n gwneud un peth, ac yna’n gwneud y gwrthwyneb mewn gwirionedd.
Ychwanegodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS:
Dywedodd Keir Starmer wrth bobl am edrych ar Gymru i weld beth fyddai Llafur yn ei wneud yn San Steffan. Bob tro maen nhw wedi cael y cyfle i rewi’r dreth gyngor yng Nghymru, maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny, er gwaethaf ymgyrch y Ceidwadwyr Cymreig i helpu pobl leol drwy rewi’r dreth gyngor.