Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, fears Welsh Government Bill could lead to higher taxes.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter for local authorities to be given more powers, was responding to a statement from Finance Minister, Rebecca Evans in Welsh Parliament.
He said:
I would like to start by focusing on the provision for council tax within the Bill. It states that the Bill would allow Welsh Ministers greater flexibility to create and make changes to discounts and categories of disregard. I am concerned that this could lead Wales towards higher taxes through the back door, further increasing the burden on working people here.
Also I'm not clear how much of the decision-making power in this area would be removed from locally elected councillors, because it looks as though more power is going to Welsh Ministers and perhaps away from local councillors. So, perhaps some clarification on that would be welcome.
I do have some concerns that this Bill could water down the role of locally elected councillors. It looks as though there are a number of powers that Ministers are looking to take on, such as the duty for a single national council-tax reduction scheme. My general ethos is that those being seen to take the taxes should also be the ones responsible for setting that tax, and I'm sure, Minister, you'd want to see local democracy strengthened not weakened. So, I want to know perhaps what you'll do to protect local council powers.
Finance Minister, Rebecca Evans said the Bill made it a duty for Welsh Government Ministers to put in place a council tax reduction scheme in the future, but did not take away the important roles that local authorities have in terms of delivering that scheme, nor take away their local discretion they have in that area.
Mr Rowlands added:
I still remain extremely concerned as we all know the Welsh Labour Government cannot be trusted on tax and I am worried they will find new and different ways to hike taxes.
I remain very uneasy about aspects of this Bill as we all know that Welsh Government like to keep control in Cardiff. They want devolution from Westminster but don’t like local authorities in Wales having too much power.
Sam Rowlands AS yn mynegi pryderon am Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
Mae Sam Rowlands, Aaelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn ofni y gallai Bil Llywodraeth Cymru arwain at drethi uwch.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a chefnogwr brwd i roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol, yn ymateb i ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans yn Senedd Cymru.
Meddai:
Hoffwn ddechrau drwy ganolbwyntio ar y ddarpariaeth ar gyfer y dreth gyngor o fewn y Bil. Mae'n nodi y byddai'r Bil yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i Weinidogion Cymru greu a gwneud newidiadau i ostyngiadau a chategorïau diystyriad. Rwy'n poeni y gallai hyn arwain Cymru tuag at drethi uwch drwy'r drws cefn, gan gynyddu'r baich ar weithwyr yma ymhellach.
Hefyd dwi ddim yn glir faint o'r pŵer gwneud penderfyniadau yn y maes yma fyddai'n cael ei dynnu oddi ar gynghorwyr sydd wedi'u hethol yn lleol, achos mae'n edrych fel petai mwy o bŵer yn mynd i ddwylo Gweinidogion Cymru ac efallai i ffwrdd o gynghorwyr lleol. Byddwn yn croesawu rhywfaint o eglurhad am hynny.
Mae gen i rai pryderon y gallai'r Bil hwn wanhau rôl cynghorwyr a etholwyd yn lleol. Mae'n ymddangos fel pe bai Gweinidogion yn ystyried ysgwyddo llawer o bwerau, fel y ddyletswydd ar gyfer un cynllun cenedlaethol ar ostyngiadau'r dreth gyngor. Fy ethos cyffredinol i yw mai'r rhai sy'n casglu'r trethi ddylai fod yn gyfrifol am osod y dreth honno hefyd, ac rwy'n siŵr, Weinidog, y byddech am weld democratiaeth leol yn cael ei chryfhau nid ei gwanhau. Felly, hoffwn wybod beth fyddwch chi'n ei wneud i ddiogelu pwerau cynghorau lleol.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, fod y Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn y dyfodol, ond nad oedd yn dileu'r rolau pwysig sydd gan awdurdodau lleol o ran cyflawni'r cynllun hwnnw, nac yn dileu eu disgresiwn lleol sydd ganddynt yn y maes hwnnw.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n dal yn poeni'n fawr gan ein bod ni gyd yn gwybod nad oes modd ymddiried yn Llywodraeth Cymru ar fater trethi, a dwi'n poeni y byddan nhw'n chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol i godi trethi.
Rwy'n dal i deimlo'n anghyfforddus iawn am agweddau ar y Bil hwn gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn hoffi cadw rheolaeth yng Nghaerdydd. Maen nhw eisiau datganoli o San Steffan ond dydyn nhw ddim yn hoffi gweld gormod o bwerau gan awdurdodau lleol.