Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says he is worried about a further crackdown on speed limits in Wales.
Mr Rowlands, a harsh critic of the new default 20mph speed limit, which was rolled out on September 17, is urging people to keep signing a petition against the disastrous law.
He said:
The petition against this ridiculous policy is heading towards 400,000 signatures and continuing to grow but still Welsh Government will not listen. However, I do feel we must continue the battle.
I remain extremely concerned about the whole business and feel so sorry for drivers who are suffering because of this legislation.
My inbox is overflowing with angry and frustrated people complaining about the new speed limit and how it is like driving in a funeral procession on our streets.
I even spoke to one woman who said one of her pleasures was to go for a drive and that has now been taken away from her because of confusing road signs, constant changing of gears and braking because of cars going so slowly through our towns.
I will be supporting a vote of no confidence in Mark Drakeford’s Transport Minister, Lee Waters. The disregard the Labour Party have shown for the genuine concern and frustration of people across Wales is staggering.
The Labour Party have even admitted to more 20mph speed changes over the coming months and I fear this is just the tip of the iceberg and he has further speed limit changes on the horizon, with 40mph, 50mph and national speed limits being reviewed.
All of which is bad news for motorists and will certainly not encourage people to come to Wales.
In the Senedd next Wednesday (27/09/23), the Welsh Conservatives are bringing forward a vote of no confidence in the Deputy Minister for Climate Change given the record-breaking number of signatories to the petition.
Sam Rowlands AS yn ofni mai dim ond y dechrau yw’r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol
Dywed Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, ei fod yn poeni am fesurau llym pellach ar derfynau cyflymder yng Nghymru.
Mae Mr Rowlands, beirniad llym o'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol newydd, a gyflwynwyd ar 17 Medi, yn annog pobl i barhau i arwyddo deiseb yn erbyn y gyfraith drychinebus.
Meddai:
Mae'r ddeiseb yn erbyn y polisi chwerthinllyd hwn yn nesu at 400,000 o lofnodion ac yn parhau i dyfu ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gwrando. Fodd bynnag, rwy'n credu bod yn rhaid i ni barhau â'r frwydr.
Rwy'n parhau i fod yn hynod bryderus am yr holl fater ac yn teimlo mor flin dros yrwyr sy'n dioddef oherwydd y ddeddfwriaeth hon.
Mae fy mewnflwch yn llawn i’w ymylon gyda negeseuon gan bobl flin a rhwystredig yn cwyno am y terfyn cyflymder newydd a sut brofiad yw gyrru mewn gorymdaith angladdol ar ein strydoedd.
Fe wnes i hyd yn oed siarad gydag un fenyw a ddywedodd mai un o'i phleserau oedd mynd am dro yn y car ac mae hynny bellach wedi'i gymryd oddi arni oherwydd arwyddion ffyrdd dryslyd, newid gerau a brecio yn gyson oherwydd bod ceir yn mynd mor araf trwy ein trefi.
Byddaf yn cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yng Ngweinidog Trafnidiaeth Mark Drakeford, Lee Waters. Mae'r ffordd y mae’r Blaid Lafur wedi diystyru pryder a rhwystredigaeth wirioneddol pobl ledled Cymru yn syfrdanol.
Mae'r Blaid Lafur hyd yn oed wedi cyfaddef i fwy o newidiadau cyflymder 20mya dros y misoedd nesaf ac rwy'n ofni mai dim ond y dechrau yw hyn ac mae ganddo newidiadau terfyn cyflymder pellach ar y gorwel, gyda 40mya, 50mya a therfynau cyflymder cenedlaethol yn cael eu hadolygu.
Mae hyn oll yn newyddion drwg i fodurwyr ac yn sicr ni fydd yn annog pobl i ddod i Gymru.
Yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (27/09/23), bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn sgil y nifer uchaf erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb.