Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, recently attended an event to promote and celebrate Welsh wool.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, and keen supporter of the farming industry joined fellow MSs in the Senedd at a Wool Eisteddfod organised by the Welsh Wool Alliance.
He said:
I was delighted to have the opportunity to hear about the future action plan for the Welsh wool industry and learn more about the work of the Welsh Wool Alliance and how they are trying to promote their product.
As a nation we do produce a lot of wool, in fact every year, 10 times more than the USA and Canada combined, which is quite staggering and it was good to hear how this valuable commodity is being used.
When you consider this is a natural sustainable resource it is even more amazing and I fully support any initiatives to promote wool.
The Welsh Wool Alliance said the wonders of this natural fibre are becoming more well-known as it is an abundant renewable sustainable resource.
They believe wool is on everyone’s mind and Wales has the chance to become the global paradigm for a circular sustainable industry.
The WWA set out to align the passion to map out a commercial future and since their last event in November 2022 showcasing the vast potential of this natural resource, they have been working with members of over 400 stakeholders, alongside key partners Cardiff University, UKRI and British Wool and the newly formed Welsh Wool CPG, to roadmap their vision for a future facing industry.
Sam Rowlands AS yn clywed am syniadau arloesol ar gyfer defnyddio gwlân Cymreig
Yn ddiweddar, mynychodd Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, ddigwyddiad i hyrwyddo a dathlu gwlân Cymru.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chefnogwr brwd i’r diwydiant ffermio, â chyd-Aelodau yn y Senedd mewn Eisteddfod Wlân a drefnwyd gan Gynghrair Wlân Cymru.
Dywedodd:
Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i glywed am y cynllun gweithredu ar gyfer diwydiant gwlân Cymru yn y dyfodol a dysgu mwy am waith Cynghrair Wlân Cymru a sut maen nhw’n ceisio hyrwyddo eu cynnyrch.
Fel cenedl, rydyn ni’n cynhyrchu llawer iawn o wlân. A dweud y gwir, 10 gwaith yn fwy bob blwyddyn na’r UDA a Chanada gyda’i gilydd, sy’n eithaf syfrdanol, ac roedd yn braf clywed sut mae’r adnodd gwerthfawr hwn yn cael ei ddefnyddio.
Pan ystyriwch fod hwn yn adnodd naturiol cynaliadwy, mae hyd yn oed yn fwy anhygoel ac rwy’n cefnogi’n gryf unrhyw fenter i hyrwyddo gwlân.
Dywedodd Cynghrair Wlân Cymru fod rhyfeddodau’r ffeibr naturiol hwn yn dod yn fwy adnabyddus gan ei fod yn adnodd cynaliadwy adnewyddadwy toreithiog.
Maen nhw’n credu bod gwlân ar feddwl pawb, a bod gan Gymru gyfle i ddod yn esiampl fyd-eang ar gyfer diwydiant cynaliadwy cylchol.
Nod Cynghrair Wlân Cymru oedd pwyso ar yr angerdd hwn i lunio dyfodol masnachol. Ers eu digwyddiad diwethaf ym mis Tachwedd 2022 yn arddangos potensial helaeth yr adnodd naturiol hwn, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda dros 400 o randdeiliaid, ynghyd â phartneriaid allweddol Prifysgol Caerdydd, UKRI a Gwlân Prydain a Grŵp Trawsbleidiol newydd Gwlân Cymreig, i nodi llwybr eu gweledigaeth ar gyfer diwydiant sy’n edrych tua’r dyfodol.