Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging his constituents to make sure they recycle this festive season.
He has added his voice to Wrexham County Borough Council’s advice on recycling as we approach Christmas.
Mr Rowlands, a keen supporter of improving the environment and recycling, said:
With the festive season nearly upon us, it is good to see a timely reminder from the local council about what we can and cannot recycle.
It is always worth remembering when you are buying wrapping paper, gifts or cards to make sure, as much as possible, that the material is recyclable. Most things we buy nowadays can be recycled but it is worth double checking so that you make sure everything is put in the correct bin.
I would also like to mention the Nightingale House reuse shop in Bryn Lane recycling centre which will be happy to accept donations of unwanted Christmas gifts and also take older models of televisions and blue ray players.
Recycling can be a bit of a minefield but it is important for our future that we all listen to the advice on offer.
For example Wrexham council urges residents to stay away from wrapping paper with foils, glitters, laminated paper and any plastic add-ons and also to remove any sticky tape before recycling.
Christmas cards, without glitter and any bows removed, as well as envelopes can be recycled in your along with card gift bags as long as non-recyclable handles are removed.
Cardboard can also be recycled but make sure to remove any tape, staples, bubble wrap, plastic film etc.
Christmas also means lots of turkey bones and leftovers that can be recycled in your food caddy, so don’t neglect food recycling. For a reminder on what foods are recyclable, please take a look at this.
Christmas trees can also be recycled at the council’s recycling centres, if they won’t fit in your green bin.
Remember you can take many other items to the council’s recycling centres to be recycled. Take a look at this list of materials which can be recycled at our recycling centres.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gyngor ar ailgylchu cyn y Nadolig
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o'r Seneddol dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i sicrhau eu bod yn ailgylchu yn ystod tymor yr ŵyl.
Mae wedi ychwanegu ei lais at gyngor Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ailgylchu wrth i ni nesáu at y Nadolig.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o wella'r amgylchedd ac ailgylchu:
Gyda thymor yr ŵyl yn agosáu, mae'n dda gweld atgof amserol gan y cyngor lleol am yr hyn y gallwn ni ei ailgylchu a'r hyn na allwn ni ei ailgylchu.
Mae bob amser yn werth cofio, wrth brynu papur lapio, anrhegion neu gardiau i sicrhau, cymaint â phosibl, bod deunydd yn un sy’n gallu cael ei ailgylchu. Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o'r pethau rydyn ni'n eu prynu heddiw ond mae'n werth gwirio eto fel eich bod chi'n sicrhau bod popeth yn cael ei roi yn y bin cywir.
Hoffwn sôn am siop ailddefnyddio Tŷ'r Eos hefyd yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane a fydd yn falch o dderbyn rhoddion o anrhegion Nadolig diangen. Maen nhw'n cymryd modelau hŷn o setiau teledu a chwaraewyr blue ray hefyd.
Gall ailgylchu fod yn dipyn o her ac mae’n gymhleth ond mae'n bwysig i'n dyfodol ni ein bod ni i gyd yn gwrando ar y cyngor sydd ar gael.
Er enghraifft, mae cyngor Wrecsam yn annog trigolion i droi cefn ar bapur lapio sy'n cynnwys ffoil, gliter, papur wedi'i lamineiddio ac unrhyw ychwanegion plastig ac i gael gwared hefyd ag unrhyw dâp gludiog cyn ailgylchu.
Gellir ailgylchu cardiau Nadolig heb gliter, ar ôl tynnu unrhyw rubanau ac ati oddi arnynt, yn ogystal ag amlenni a bagiau anrhegion cerdyn cyhyd â bod dolenni na ellir eu hailgylchu yn cael eu tynnu i ffwrdd.
Gellir ailgylchu cardbord hefyd ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ag unrhyw dâp, styffylau, deunydd lapio swigod, ffilm blastig etc.
Mae llawer o fwyd, yn cynnwys twrci, angen ei ailgylchu adeg y Nadolig hefyd a gellir rhoi gweddillion bwyd yn eich cadi bwyd felly peidiwch ag anghofio am hynny. I’ch atgoffa pa fwydydd y mae modd eu hailgylchu, cymerwch olwg ar hwn.
Gellir ailgylchu coed Nadolig yng nghanolfannau ailgylchu'r cyngor hefyd, os nad oes lle iddynt yn eich bin gwyrdd.
Cofiwch y gallwch fynd â llawer o eitemau eraill i ganolfannau ailgylchu'r cyngor i'w hailgylchu. Edrychwch ar y rhestr hon o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu.