Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, warns of increasing frustration over looming introduction of the new speed limit
Earlier this week, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and harsh critic of the proposal urged Welsh Government to immediately call a halt to controversial plans to introduce the 20mph default speed limit later this month.
He said:
Councils all over North Wales are struggling to cope with this ridiculous and bonkers idea. Some towns and villages have both 20mph and 30mph signs up. The whole implementation is a complete shambles.
While I do not condone people tampering with signs I think it clearly shows the sheer frustration over this issue.
I have also heard that the new 20mph will not even be monitored as we all know that it be a complete failure and yet another vanity project gone wrong funded by the Welsh Labour Government.
I am sure many people will agree 20mph speed limits outside schools, hospital and other roads where there is clear evidence that lower speed limits are backed by the local community but not as a blanket approach and on arterial roads.
Recently we heard from a retained firefighter and an Assistant Chief Constable who have both said the new speed limit will have an impact yet these concerns fall on deaf ears. I just cannot believe Welsh Government are still refusing to listen to concerns about this ludicrous and bonkers idea.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at broblemau parhaus wrth gyflwyno terfyn cyflymder 20mya cyffredinol ar ffyrdd prifwythiennol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn rhybuddio am fwy o rwystredigaeth ynghylch cyflwyno'r terfyn cyflymder newydd.
Yn gynharach yr wythnos hon, bu Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a beirniad llym o’r cynnig, yn annog Llywodraeth Cymru i roi’r gorau ar unwaith i’r cynlluniau dadleuol i gyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya yn ddiweddarach y mis hwn.
Meddai:
Mae cynghorau ledled Gogledd Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r syniad chwerthinllyd a hurt hwn. Mae gan rai trefi a phentrefi arwyddion 20mya a 30mya. Mae'r holl broses yn draed moch llwyr.
Er nad ydw i’n cymeradwyo pobl yn ymyrryd ag arwyddion, rwy'n credu ei fod yn dangos yn glir y rhwystredigaeth lwyr ynglŷn â’r mater hwn.
Rydw i hefyd wedi clywed na fydd yr 20mya newydd hyd yn oed yn cael ei fonitro gan ein bod ni i gyd yn gwybod ei fod yn fethiant llwyr ac yn brosiect gwirion arall wedi'i ariannu gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn cytuno ar derfynau cyflymder 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai a ffyrdd eraill lle mae tystiolaeth glir bod cyfyngiadau cyflymder is yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol, ond nid fel dull cyffredinol ac ar ffyrdd prifwythiennol.
Yn ddiweddar clywsom gan ddiffoddwr tân a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol sydd wedi dweud y bydd y terfyn cyflymder newydd yn cael effaith. Ac eto mae'r pryderon hyn yn cael eu hanwybyddu’n llwyr. Dydw i ddim yn gallu coelio bod Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod gwrando ar bryderon am y syniad chwerthinllyd a hurt hwn.