Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is supporting a new initiative to encourage more children to read in Wrexham.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, said:
I am really pleased to hear that Xplore, the science discovery centre, has plans to visit local libraries next month to encourage more children to read.
As a parent of three young girls I am always keen to support any moves which will persuade our youngsters to pick up a book.
I am a great supporter of the Summer Reading Challenge and this year Xplore’s interactive sessions will certainly tie in well with this. I would urge anyone interested in any of the sessions or taking part in the challenge to contact their local library.
Xplore! the science discovery centre will be visiting Wrexham libraries to deliver interactive sessions based on the theme Ready, Set, Read!
The sessions will take place between August 14-18 in nine libraries. Places are limited so you will need to make sure you reserve your place.
If you are not able to attend after you have reserved your place, please let them know so someone else can be part of the session. For more details, contact your local library .
The sessions tie in with the Summer Reading Challenge which takes place in libraries every year during the Summer holidays.
You can sign up at your local library, then all you have to do is read six library books of your choice over three visits to complete the Challenge.
There are exclusive rewards to collect along the way, and it’s FREE to take part! You can also keep track of your reading by visiting www.summerreadingchallenge.org.uk where you can find new books to read, take part in competitions and mini challenges, and play games.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ddigwyddiadau i blant mewn llyfrgelloedd yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi menter newydd i annog mwy o blant yn Wrecsam i ddarllen.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig:
Rwy'n falch iawn o glywed bod gan Xplore, y ganolfan darganfod gwyddoniaeth, gynlluniau i ymweld â llyfrgelloedd lleol fis nesaf i annog mwy o blant i ddarllen.
Fel rhiant i dair merch ifanc rwyf bob amser yn awyddus i gefnogi unrhyw ymdrechion a fydd yn perswadio ein pobl ifanc i agor cloriau llyfr.
Rwy'n gefnogwr brwd o Sialens Ddarllen yr Haf ac eleni bydd sesiynau rhyngweithiol Xplore yn sicr yn cyd-fynd yn dda â hyn. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn unrhyw un o'r sesiynau neu'n cymryd rhan yn y sialens i gysylltu â'u llyfrgell leol.
Bydd Xplore!, y Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth, yn ymweld â llyfrgelloedd Wrecsam i gyflwyno sesiynau rhyngweithiol yn seiliedig ar y thema Ar Eich Marciau, Darllenwch!
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 14-18 Awst mewn naw llyfrgell. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cadw eich lle ymlaen llaw.
Os nad ydych chi’n gallu dod ar ôl cadw lle, rhowch wybod i’r llyfrgell fel y gall rhywun arall fod yn rhan o'r sesiwn. Am ragor o fanylion, cysylltwch â'ch llyfrgell leol .
Mae'r sesiynau'n cyd-fynd â Sialens Ddarllen yr Haf sy'n cael ei chynnal mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn yn ystod gwyliau'r Haf.
Gallwch gofrestru yn eich llyfrgell leol, yna'r cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw darllen chwe llyfr llyfrgell o'ch dewis dros dri ymweliad i gwblhau'r Sialens.
Mae gwobrau unigryw i'w casglu ar hyd y ffordd, ac mae'n RHAD AC AM DDIM i gymryd rhan! Gallwch hefyd gadw golwg ar eich darllen drwy ymweld â https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/ lle gallwch ddod o hyd i lyfrau newydd i'w darllen, cymryd rhan mewn cystadlaethau a heriau byr, a chwarae gemau.