Sam Rowlands MS for North Wales is calling for immediate action to encourage investors and developers to a key site in his region.
Speaking in the Senedd, he said:
In terms of the importance of the former Anglesey Aluminium site not only to Anglesey, but also to the North Wales region as a whole, it can make a huge amount of difference if that site is properly developed.
I have mentioned it a few times in this Chamber and it is regretful that we have not seen it realised yet, for all sorts of different reasons, I understand.
Some of the resources we have in North Wales and the opportunities that we have around energy, in particular on wind, solar, marine, nuclear, energy projects, and possible manufacturing projects that would support a greener economy and create those well-paid jobs, are there ready to be taken. This site, I believe, could play a key part in that future development.
Mr Rowlands asked the Minister for Economy, Vaughan Gething what action he was taking highlight and advertise the opportunities of this site to investors and developers, to encourage them to come over to Anglesey and to see them develop the former Anglesey Aluminium site.
The Minister said there had dozens of enquiries about the site and agreed it was a significant but they had to make sure the interest was not speculative.
Mr Rowlands added:
I really do hope Welsh Government actively pursue developers and investors for this area. This is a key site for economic activity in North Wales and I am disappointed to see this potential still hasn't been realised.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at y cyfleoedd eithriadol ar hen safle Alwminiwm Môn
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar weithredu ar unwaith er mwyn denu buddsoddwyr a datblygwyr i safle allweddol yn ei ranbarth.
Yn siarad yn y Senedd, dywedodd:
O ran pwysigrwydd hen safle Alwminiwm Môn, nid yn unig i Ynys Môn, ond hefyd i ranbarth y Gogledd yn gyffredinol, gall wneud gwahaniaeth enfawr os yw’r safle hwnnw yn cael ei ddatblygu’n briodol.
Rwyf wedi crybwyll hyn sawl gwaith yn y Siambr hon ac yn anffodus nid yw hyn wedi digwydd eto - am wahanol resymau o’r hyn rwy’n ei ddeall. Mae rhai o’r adnoddau sydd ar gael i ni yn y Gogledd a’r cyfleoedd o ran ynni, yn enwedig gwynt, solar, morol, niwclear, prosiectau ynni a phrosiectau gweithgynhyrchu posibl a fyddai’n cefnogi economi mwy gwyrdd a chreu swyddi sy’n talu yn dda, yno’n barod i rywun fanteisio arnynt. Yn fy marn i, gallai’r safle hwn wneud cyfraniad allweddol at y datblygiad hwnnw yn y dyfodol.
Gofynnodd Mr Rowlands i Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, pa gamau roedd yn eu cymryd i hysbysebu a thynnu sylw buddsoddwyr a datblygwyr at y cyfleoedd ar y safle hwn, er mwyn eu hannog i ddod dros y bont i Ynys Môn a’u gweld yn datblygu hen safle Alwminiwm Môn.
Dywedodd y Gweinidog bod dwsinau o ymholiadau wedi bod am y safle a chytunodd ei fod yn bwysig ond bod yn rhaid sicrhau nad oedd y diddordeb yn rhywbeth ar hap yn unig.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwyf wir yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ddatblygwyr a buddsoddwyr ar gyfer yr ardal hon. Mae hwn yn safle allweddol ar gyfer gweithgarwch economaidd yn y Gogledd a siomedig yw gweld nad yw’r potensial hwn wedi’i wireddu hyd yma.