Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging constituents to support a major new event for the city.
Mr Rowlands, a keen supporter of the services, is backing the first ever Armed Forces Community Carol Service being held in Wrexham on Tuesday December 5.
He said:
I am delighted to see St Giles Church has been chosen to host this first ever community carol service for our armed forces. What a wonderful opportunity to bring everyone together and show our support for the work they carry out.
These days more than ever we rely on these brave men and women not only to defend our country but they can also be sent all over the world to help in war torn countries.
It is great to honour to be able to hold a special service for them and I would urge anyone wanting to join the celebration to attend.
The free event will take place at St Giles Church on Tuesday, December 5 starting at 7pm, and everyone is welcome.
Councillor Beverley Parry Jones, Wrexham Council’s Armed Forces Champion, said: “Wrexham has such strong links with the armed forces, and we want to do something special to both celebrate Christmas and pay tribute to veterans and the incredible men and women who serve their country.
“It promises to be a lovely evening full of Christmas spirit and music, and we’d love to see as many veterans and members of the public as possible.”
The service will feature The Band of the Prince of Wales, which is one of the 14 regular bands in the British Army. Based in Brecon, the musicians are well-travelled having performed in Germany, Cyprus, Dubai, Kuwait, Sudan, the Falkland Islands and at the FA cup Final at Wembley stadium.
A local choir will also be performing, and donations will go to the charity Scotty’s Little Soldiers.
Cllr Parry-Jones said:
Scotty’s Little Soldiers was inspired by the experience of army widow Nikki Scott, who lost her husband in Afghanistan in 2009.
It provides support to hundreds of children and young people across the UK who’ve lost a parent who has served in the British armed forces at some point during their life, and it does some incredible work.
We’re so proud to support this charity and we hope the people of Wrexham will show their support on December 5 by coming along to the carol service at St Giles.
It’s going to be a lovely evening and we look forward to welcoming everyone.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Gwasanaeth Carolau Cymunedol cyntaf erioed y Lluoedd Arfog yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog etholwyr i gefnogi digwyddiad mawr newydd i'r ddinas.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o'r gwasanaethau, yn cefnogi Gwasanaeth Carolau Cymunedol cyntaf erioed y Lluoedd Arfog yn Wrecsam ddydd Mawrth 5 Rhagfyr.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o weld bod Eglwys San Silyn wedi cael ei dewis i gynnal y gwasanaeth carolau cymunedol cyntaf erioed hwn ar gyfer ein lluoedd arfog. Dyma gyfle gwych i ddod â phawb ynghyd a dangos ein cefnogaeth i'r gwaith y maen nhw’n ei wneud.
Y dyddiau hyn yn fwy nag erioed rydyn ni’n dibynnu ar y dynion a'r menywod dewr hyn nid yn unig i amddiffyn ein gwlad ond hefyd gellir eu hanfon ledled y byd i helpu mewn gwledydd sydd wedi'u rhwygo gan ryfel.
Mae'n anrhydedd mawr gallu cynnal gwasanaeth arbennig iddyn nhw a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau ymuno â'r dathliad i fynychu.
Cynhelir y digwyddiad am ddim yn Eglwys San Silyn ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr am 7pm, ac mae croeso i bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: "Mae gan Wrecsam gysylltiadau mor gryf â'r lluoedd arfog, ac rydyn ni am wneud rhywbeth arbennig i ddathlu'r Nadolig a thalu teyrnged i gyn-filwyr a'r dynion a'r menywod anhygoel sy'n gwasanaethu eu gwlad.
"Mae'n debyg o fod yn noson hyfryd llawn hwyl a cherddoriaeth Nadolig, a bydden ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o gyn-filwyr ac aelodau o'r cyhoedd â phosibl."
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys Band Tywysog Cymru, sy'n un o'r 14 band rheolaidd yn y Fyddin Brydeinig. Wedi'u lleoli yn Aberhonddu, mae'r cerddorion wedi teithio llawer ar ôl perfformio yn yr Almaen, Cyprus, Dubai, Kuwait, Sudan, Ynysoedd y Falkland ac yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA yn stadiwm Wembley.
Bydd côr lleol hefyd yn perfformio, a bydd rhoddion yn mynd i'r elusen Scotty's Little Soldiers.
Meddai’r Cynghorydd Parry-Jones:
Cafodd Scotty's Little Soldiers ei ysbrydoli gan brofiad gweddw y fyddin Nikki Scott, a gollodd ei gŵr yn Afghanistan yn 2009.
Mae'n rhoi cymorth i gannoedd o blant a phobl ifanc ledled y DU sydd wedi colli rhiant sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog Prydain ar ryw adeg yn ystod eu bywydau, ac mae'n gwneud gwaith anhygoel.
Rydyn ni mor falch o gefnogi'r elusen hon ac rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn dangos eu cefnogaeth ar 5 Rhagfyr trwy ddod draw i'r gwasanaeth carolau yn San Silyn.
Mae'n mynd i fod yn noson hyfryd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb.