Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says the food and drink industry in his region will benefit from UK Government trade deals.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands asked Lesley Griffiths, Minister for Rural Affairs, what she was doing to promote food and drink in his region. However, he expressed concern over the over the possibility of glass being included in a deposit-return scheme.
He said:
Minister. As I'm sure you'd agree, North Wales has some of the best food and drink, which is enjoyed around the world, and certainly will be enjoyed by a greater range of people, thanks to the trade deals being struck by the UK Government now being released from the shackles of the European Union.
One thing breweries and other similar businesses in North Wales are concerned about is the possibility of glass being included in a deposit-return scheme.
In my view, there's a common sense DRS that excludes glass, and would see the scheme and its requirements aligned across the United Kingdom.
You'll be aware that brewers are certainly very concerned, and potentially seeing breweries going out of business if this continues.
So, Minister, can you expand on what you're doing to help reach this sensible UK-wide outcome, instead of doing things perhaps differently just for the sake of it?
The Minister for North Wales, Lesley Griffiths said the Welsh food and drink industry continued to go from strength to strength but accepted there were concerns from some brewers, adding that she had held discussions with the Minister for Economy and members of the drink sector.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ddiwydiant bwyd a diod y Gogledd
Dywed Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, y bydd y diwydiant bwyd a diod yn ei ranbarth yn elwa ar gytundebau masnach Llywodraeth y DU.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands i Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, beth roedd hi'n ei wneud i hyrwyddo bwyd a diod yn ei ranbarth. Fodd bynnag, mynegodd bryder ynghylch y posibilrwydd y bydd gwydr yn cael ei gynnwys mewn cynllun dychwelyd ernes.
Dywedodd:
Weinidog. Fel rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, mae Gogledd Cymru’n gartref i rai o’r bwydydd a’r diodydd gorau sy'n cael eu mwynhau ledled y byd, ac yn sicr bydd mwy o amrywiaeth o bobl yn eu mwynhau, diolch i'r cytundebau masnach a wneir gan Lywodraeth y DU, sydd bellach wedi cael ei rhyddhau o hualau'r Undeb Ewropeaidd.
Un o'r pethau y mae bragdai a busnesau tebyg eraill yng ngogledd Cymru yn bryderus yn eu cylch yw'r posibilrwydd y bydd gwydr yn cael ei gynnwys mewn cynllun dychwelyd ernes.
Yn fy marn i, mae yna gynllun synnwyr cyffredin ar gyfer dychwelyd ernes sy'n eithrio gwydr, ac a fyddai'n golygu bod y cynllun a'i ofynion yn gyson ar draws y Deyrnas Unedig.
Fe fyddwch yn ymwybodol fod bragwyr yn sicr yn bryderus iawn, ac mae'n bosibl y gallai bragdai fynd allan o fusnes os bydd hyn yn parhau.
Felly, Weinidog, a allwch chi ymhelaethu ar yr hyn rydych chi'n ei wneud i helpu i gyrraedd y canlyniad synhwyrol hwn ledled y DU, yn hytrach na gwneud pethau'n wahanol heb fod angen?
Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths bod diwydiant bwyd a diod Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ond ei bod yn derbyn pryderon rhai bragwyr, gan ychwanegu ei bod wedi cynnal trafodaethau â Gweinidog yr Economi ac aelodau'r sector diod.