Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, fears the Welsh Labour Government is not serious about tackling housing supply in the country.
Speaking in the Senedd during a Welsh Conservative debate on housing supply, Mr Rowlands Shadow Minister for Local Government said:
We've clearly heard many problems and issues around housing outlined but let's be clear: the roots of these issues sit with the Welsh Government and their refusal to enable enough homes to be built for the people of Wales.
Instead of addressing the real problem by tackling the planning backlogs, by backing small developers and turning empty properties into homes, they instead decide to tinker around the edges and then attack others, like those in the tourism industry.
They pretend there is a crisis around self-catering businesses which work hard in that sector to attract people to Wales and provide a place for them to stay, so they can spend money and boost our local economies.
Data shows very clearly that housing supply in Wales remains far below the delivery levels achieved during the 1990s and into the mid 2000s, and the number of planning permissions for new projects is on a downward trend. Sadly, there's very little sign of this changing, despite what Labour at a UK level have to say on this issue.
I was intrigued to read a commitment from UK Labour to blitz planning reform; to build the next generation of new towns; unleash mayors giving them stronger powers over planning control and a planning passport for urban brownfield development.
Many of these things sound fantastic, and if they're truly the Labour plans, I've no idea why they're not doing it here in Wales, where they've been in power for 25 years. It's clear to me that the Cardiff Labour Government and their coalition partners in Plaid Cymru aren't serious at all about building homes and providing a future for the people of Wales.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at broblemau cyflenwad tai yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn ofni nad yw Llywodraeth Lafur Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael â chyflenwad tai y wlad.
Wrth siarad yn y Senedd yn ystod dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y cyflenwad tai, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Rydyn ni’n amlwg wedi clywed llawer o broblemau a materion yn ymwneud â thai yn cael eu disgrifio ond gadewch i ni fod yn glir: mae gwreiddiau'r materion hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru a'u gwrthwynebiad i adeiladu digon o gartrefi ar gyfer pobl Cymru.
Yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem go iawn drwy ddatrys yr ôl-groniadau cynllunio, drwy gefnogi datblygwyr bach a throi eiddo gwag yn gartrefi, maen nhw'n penderfynu llusgo eu sodlau ac yna ymosod ar eraill, fel y rhai yn y diwydiant twristiaeth.
Maen nhw'n esgus bod argyfwng ynghylch busnesau hunanarlwyo sy'n gweithio'n galed yn y sector hwnnw i ddenu pobl i Gymru gan ddarparu lle iddyn nhw aros, fel y gallan nhw wario eu harian a rhoi hwb i'n heconomïau lleol.
Mae data'n dangos yn glir iawn bod cyflenwad tai yng Nghymru yn parhau i fod yn llawer is na'r lefelau cyflenwi a gyflawnwyd yn ystod y 1990au ac i ganol y 2000au, ac mae nifer y caniatadau cynllunio ar gyfer prosiectau newydd yn lleihau. Yn anffodus, prin y gwelwn ni unrhyw arwydd o'r newid hwn, er gwaethaf yr hyn sydd gan Lafur ar lefel y DU i'w ddweud ar y mater hwn.
Roeddwn i’n chwilfrydig darllen ymrwymiad gan Lafur y DU i ddiwygio cynllunio; adeiladu'r genhedlaeth nesaf o drefi newydd; rhoi pwerau cryfach i feiri i reoli cynllunio a phasbort cynllunio ar gyfer datblygu tir llwyd trefol.
Mae llawer o'r pethau hyn yn swnio'n wych, ac os mai dyma gynlluniau Llafur mewn gwirionedd, does gen i ddim syniad pam nad ydyn nhw'n cael eu gwneud yma yng Nghymru, lle maen nhw wedi bod mewn grym ers 25 mlynedd. Mae'n amlwg i mi nad yw Llywodraeth Lafur Caerdydd a'u partneriaid cydweithio ym Mhlaid Cymru o ddifrif o gwbl ynglŷn ag adeiladu cartrefi a darparu dyfodol i bobl Cymru.