Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, recently visited the refurbished Minor Injuries Unit and X-ray areas at Denbigh Hospital.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, joined fellow Conservatives Darren Millar MS for Clwyd West and Gareth Davies MS for the Vale of Clwyd on a tour of the new facilities.
He said:
I was delighted to have the opportunity to meet with Matron Hayley Jones who showed us round the much improved refurbished areas.
It was great to see the work that has been done to improve MIU and the X-ray areas and chat to staff who were able to tell us more about how they will make a difference.
We are very fortunate to have such a welcoming community hospital at Denbigh and I am pleased to see continued improvements which will ultimately help the NHS and ease pressures on our main hospitals.
Denbigh Infirmary Community Hospital has been a feature in Denbigh for many years and offers a wide range of services including a Minor Injuries Unit and X-ray department.
It also offers outpatient and inpatient physiotherapy; occupational therapy; audiology services; a day unit and a Macmillan Unit. Staff including midwives, district nurses and health visitors are also based there.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at well gwasanaethau yn Ysbyty Dinbych
Yn ddiweddar, ymwelodd Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, â'r Uned Mân Anafiadau a’r ardaloedd pelydr-X sydd wedi'u hadnewyddu yn Ysbyty Dinbych.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, â'i gyd-Geidwadwr Darren Millar AS dros Orllewin Clwyd a Gareth Davies AS dros Ddyffryn Clwyd ar daith o amgylch y cyfleusterau newydd.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i gwrdd â Metron Hayley Jones a ddangosodd yr ardaloedd sydd wedi'u hadnewyddu i ni.
Roedd hi’n wych gweld y gwaith sydd wedi'i wneud i wella’r Uned Mân Anafiadau a'r ardaloedd pelydr-X a sgwrsio â staff a oedd yn gallu dweud mwy wrthym am sut y byddant yn gwneud gwahaniaeth.
Rydyn ni’n ffodus iawn o gael ysbyty cymunedol mor groesawgar yn Ninbych ac rwy'n falch o weld y gwelliannau parhaus a fydd yn y pen draw yn helpu'r GIG ac yn ysgafnhau’r pwysau ar ein prif ysbytai.
Mae Ysbyty Cymunedol Inffyrmari Dinbych wedi bod yn dirnod amlwg yn Ninbych ers blynyddoedd lawer ac mae'n cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys Uned Mân Anafiadau ac adran pelydr-X.
Mae hefyd yn cynnig ffisiotherapi i gleifion allanol a chleifion mewnol; therapi galwedigaethol; gwasanaethau awdioleg; Uned Ddydd ac Uned Macmillan. Mae staff gan gynnwys bydwragedd, nyrsys ardal ac ymwelwyr iechyd hefyd wedi'u lleoli yno.