Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on mechanical and electrical specialists to submit bids to upgrade the OpTIC Centre in St Asaph.
Mr Rowlands was commenting after Wrexham University announced a tender opportunity for the design and construction of a project, which aims to create new opportunities for research and innovation at the OpTIC Technology Centre, located at its St Asaph campus.
He said:
This is a wonderful opportunity for local companies to get involved with a major exciting refurbishment project at the St Asaph campus of Wrexham University and enhance the growing reputation of the OpTIC Technology Centre.
The refurbishment will need specialists in the mechanical and electrical industry and I would urge contractors in North Wales not to miss out on the chance to be part of a major project for the region and submit a bid.
We all know how successful and popular Wrexham University has become and this scheme on the St Asaph campus will only help to further its reputation.
The project will involve a series of mechanical and electrical improvements at the centre and specialists are now being invited to submit bids to help deliver this exciting upgrade and to unlock further world-leading research opportunities in the field of precision optics, particularly in flight and space applications. It
The scheme will reinforce the centre’s position as an industry leader and foster collaboration with other optical, life science and technology businesses that rely on its state-of-the-art facilities.
It forms part of the new Enterprise Engineering and Optics Centre (EEOC), which is being delivered across the University’s Plas Coch campus in Wrexham and the OpTIC Technology Centre. Growth Deal funding, through Ambition North Wales, is providing £11.55m of the total value of the project.
Paul Moran, Capital Projects Manager at Wrexham University, said:
We are excited to be delivering this project as part of our overarching Campus 2025 campus redevelopment programme.
Social value is key to us as part of our civic mission here at the University, so we are extremely keen to hear from local contractors, who are eager to work with us and make a positive contribution to the local community, through the enhancement of our world-class facilities.
Based on the St Asaph Business Park, OpTIC Technology Centre is a unique business and technology centre owned and operated by Wrexham University. It links research and development, industry and academia and has a proven track record in providing technology companies with high-quality facilities and a community spirit to grow and develop their business.
Businesses interested in tendering for this opportunity can download the full tender pack by visiting the Sell2Wales link here. The deadline for this tender is July 5.
Following appointment, the successful contractor is expected to take around three months further design work, with work starting onsite this November and due for completion April 2025.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gyfle i dendro ar gyfer prosiect adnewyddu cyffrous
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar arbenigwyr mecanyddol a thrydanol i gyflwyno ceisiadau i uwchraddio'r Ganolfan OpTIC yn Llanelwy.
Roedd Mr Rowlands yn siarad ar ôl i Brifysgol Wrecsam gyhoeddi cyfle tendro ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiect, sy'n ceisio creu cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil ac arloesi yn y Ganolfan Dechnoleg OpTIC, sydd wedi'i lleoli ar gampws Llanelwy.
Meddai:
Dyma gyfle gwych i gwmnïau lleol gymryd rhan mewn prosiect adnewyddu cyffrous mawr ar gampws Llanelwy, Prifysgol Wrecsam a gwella enw da cynyddol Canolfan Dechnoleg OpTIC.
Bydd angen arbenigwyr yn y diwydiant mecanyddol a thrydanol fel rhan o'r gwaith adnewyddu a byddwn yn annog contractwyr y Gogledd i fachu ar y cyfle i fod yn rhan o brosiect mawr ar gyfer y rhanbarth a chyflwyno cais.
Rydyn ni gyd yn gwybod pa mor llwyddiannus a phoblogaidd mae Prifysgol Wrecsam, a bydd y cynllun hwn ar gampws Llanelwy yn helpu i ddatblygu ei henw da.
Bydd y prosiect yn cynnwys cyfres o welliannau mecanyddol a thrydanol yn y ganolfan ac mae arbenigwyr bellach yn cael eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau i helpu i gyflawni'r gwaith uwchraddio cyffrous hwn a datgloi cyfleoedd ymchwil pellach sy'n arwain y byd ym maes opteg manwl, yn enwedig ym maes hedfan a gofod.
Bydd y cynllun yn atgyfnerthu safle'r ganolfan fel arweinydd blaenllaw'r diwydiant ac yn meithrin cydweithio â busnesau optegol, gwyddorau bywyd a thechnoleg eraill sy'n dibynnu ar ei chyfleusterau o'r radd flaenaf.
Mae'n rhan o'r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter (EEOC) newydd, sy'n cael ei darparu ar draws campws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam a'r Ganolfan Dechnoleg OpTIC. Mae cyllid y Cynllun Twf, trwy Uchelgais Gogledd Cymru, yn darparu £11.55m o gyfanswm gwerth y prosiect.
Dywedodd Paul Moran, Rheolwr Prosiectau Cyfalaf ym Mhrifysgol Wrecsam:
Rydyn ni'n edrych ymlaen at fod yn cyflwyno'r prosiect hwn fel rhan o'n rhaglen ailddatblygu Campws 2025.
Mae gwerth cymdeithasol yn allweddol i ni fel rhan o'n cenhadaeth ddinesig yma yn y Brifysgol, felly rydym yn awyddus iawn i glywed gan gontractwyr lleol, sy'n awyddus i weithio gyda ni a gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned leol, drwy wella ein cyfleusterau o'r radd flaenaf.
Wedi'i lleoli ar Barc Busnes Llanelwy, mae Canolfan Dechnoleg OpTIC yn ganolfan fusnes a thechnoleg unigryw sy'n eiddo i Brifysgol Wrecsam ac yn cael ei gweithredu ganddi. Mae'n cysylltu ymchwil a datblygu, diwydiant a'r byd academaidd ac mae ganddi hanes sicr o ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel i gwmnïau technoleg ac ysbryd cymunedol i dyfu a datblygu eu busnes.
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn tendro ar gyfer y cyfle hwn lawrlwytho'r pecyn tendro llawn trwy ddolen Gwerthwch i Gymru yma. Y dyddiad cau yw 5 Gorffennaf.
Yn dilyn penodiad, disgwylir i'r contractwr llwyddiannus gynnal tua thri mis o waith dylunio pellach cyn i’r gwaith ar y safle gychwyn ym mis Tachwedd eleni a gorffen ym mis Ebrill 2025.