Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see single malt Welsh whisky has been given protected status.
Mr Rowlands, who recently visited the award winning Penderyn Distillery in Llandudno said:
It was excellent news to hear this week that whisky made in Wales has been given protected status like Welsh lamb. It will certainly safeguard the quality of the product and also its source of origin.
I am proud to say that in North Wales, in the county of Conwy, we have two excellent distilleries, Aber Falls in Abergwyngregyn and Penderyn in Llandudno, both producing award winning Welsh whisky.
I recently had the opportunity to visit Penderyn Whisky Distillery and Visitor Centre in Llandudno to meet with staff and see for myself how award winning whisky is distilled. I also spent some time talking to people from the Aber Falls Distillery manning their stand at the Royal Welsh Show where I was pleased to see their products selling well to visitors.
Single malt Welsh whisky is a fantastic product and continues to grow in popularity and the protected GI status will be a huge boost and help secure jobs and growth.
This is the first new UK spirit to achieve GI status since the UKGI was launched and also becomes Wales’s first GI spirit.
Single malt Welsh whisky is now the 20th member of the Welsh GI family of products, joining the likes of other great produce such as Anglesey Sea Salt PDO (Protected Designation of Origin), PGI Welsh Lamb, PGI Welsh Beef and Welsh Leeks PGI.
The UK GI scheme was established at the beginning of 2021, following the UK’s withdrawal from the EU, and ensures certain food and drink products can continue to receive legal protection against imitation and misuse.
The increase in Welsh Whisky producers has led to a collective of four Welsh distilleries being part of the final application for PGI status - Penderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile, and Coles.
Stephen Davies, Chief Executive at Penderyn said:
The achievement of UKGI status for single malt Welsh whisky is a significant milestone for Penderyn as a producer, and also for the wider Welsh whisky industry.
It’s an exciting step forward and one that puts focus on an industry that has been growing steadily over the last 20 years.
Sam Rowlands AS yn clodfori llwyddiant wisgi Cymreig
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn hynod falch o weld bod wisgi brag sengl Cymreig wedi cael statws gwarchodedig.
Meddai Mr Rowlands, a ymwelodd â Distyllfa Penderyn yn Llandudno, sydd wedi ennill gwobrau'n ddiweddar:
Roedd yn newyddion gwych clywed yr wythnos hon bod wisgi a wnaed yng Nghymru wedi cael statws gwarchodedig fel cig oen Cymru. Bydd yn sicr yn diogelu ansawdd y cynnyrch a hefyd ei ffynhonnell wreiddiol.
Rwy'n falch o ddweud, yng Ngogledd Cymru, yn sir Conwy, fod gennym ni ddwy ddistyllfa ardderchog, Aber Falls yn Abergwyngregyn a Phenderyn yn Llandudno, y ddwy yn cynhyrchu wisgi Cymreig sydd wedi ennill gwobrau.
Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld â Distyllfa a Chanolfan Ymwelwyr Wisgi Penderyn yn Llandudno i gwrdd â staff a gweld drosof fy hun sut mae wisgi arobryn yn cael ei ddistyllu. Treuliais beth amser hefyd yn siarad â phobl o Ddistyllfa Aber Falls ar eu stondin yn Sioe Frenhinol Cymru lle'r oeddwn yn falch o weld eu cynnyrch yn gwerthu'n dda i ymwelwyr.
Mae wisgi brag sengl Cymru yn gynnyrch gwych ac yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd a bydd y statws GI gwarchodedig yn hwb enfawr ac yn helpu i sicrhau swyddi a thwf.
Dyma'r gwirod newydd cyntaf yn y DU i ennill statws Enw Tarddiad ers lansio'r UKGI a hefyd dyma’r wisgi Enw Tarddiad cyntaf Cymru.
Wisgi Cymreig brag sengl bellach yw'r 20fed aelod o deulu cynhyrchion Enw Tarddiad Cymru, gan ymuno â chynnyrch gwych eraill fel PDO (Enw Tarddiad Gwarchodedig) Halen Môr Môn, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Oen Cymru, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Eidion Cymru a Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cennin Cymru.
Sefydlwyd cynllun Enw Tarddiad y DU ar ddechrau 2021, ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, ac mae'n sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i gael amddiffyniad cyfreithiol rhag i eraill eu dynwared a’u camddefnyddio.
Mae'r cynnydd mewn cynhyrchwyr Wisgi Cymreig wedi arwain at gydweithfa o bedair distyllfa o Gymru yn rhan o'r cais terfynol am statws Enw Tarddiad Gwarchodedig - Penderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile, a Coles.
Meddai Stephen Davies, Prif Weithredwr Penderyn:
Mae ennill statws UKGI ar gyfer wisgi brag sengl Cymreig yn garreg filltir arwyddocaol i Penderyn fel cynhyrchydd, a hefyd i'r diwydiant wisgi Cymreig ehangach.
Mae'n gam cyffrous ymlaen ac yn un sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant sydd wedi bod yn tyfu'n gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf.