Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised hard working volunteers for enhancing a wildflower meadow area in Denbigh.
Mr Rowlands, a big supporter of the environment and helping to improve biodiversity said:
I am delighted to hear about this latest initiative to improve an area at the ATS roundabout which is the main route into Denbigh.
It is great to see award winning Denbigh in Bloom volunteers, who recently won the 2023 Wales in Bloom gold award, working with Denbighshire County Council’s biodiversity team on this project.
This team of hard working volunteers have now won Gold and Best Town in Wales for the fourth consecutive time, which is amazing and well done to them all.
Congratulations should also go to group volunteer, Judy Huxley for receiving the Community Champion Award.
Gareth Davies, Member of the Welsh Parliament for the Vale of Clwyd, said:
I’d like to congratulate everybody involved with the wildflower project for winning Gold in the 2023 Wales in Bloom competition along with Prestatyn, also. It proves there are a lot of talented green fingers around Denbighshire County which is something to be proud about.
The ATS roundabout is the first landmark you see when entering Denbigh on the A525 so it's pleasing to see such schemes taking place in the local area making it an attractive visitor destination and promoting high wildlife standards locally.
The Council’s Biodiversity team is working with volunteers and groups across the county to plug plant at nine meadows.
Plug planting more flowers, grown at the Council’s tree nursery, at a number of sites will help create more colourful, diverse meadows and better biodiversity support for our local nature and communities.
Wildflowers in county meadows provide bees and other pollinators with food through the year which supports our own food chain. Taking away this habitat reduces support for nature’s pollinators, impacting on our own food chain as they support the growth of most of our fruit and vegetables
Denbigh and Bloom volunteers, who have won Gold and Best Town in Wales for the fourth consecutive time, have supported the growth of species on the ATS roundabout and have installed a log pile and bug hotel on the site to support insects. Working with the Biodiversity team, they have introduced the benefits of ‘not mowing’ to support the growth of wildflowers.
Lyndsey Tasker Chair of Denbigh in Bloom said:
Volunteers from Denbigh in Bloom were delighted to join Denbighshire County Council’s Biodiversity team to work on this plug planting scheme. We fully support schemes such as these in creating areas within our town which aim to attract a greater variety of insects and wildlife.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at waith gwirfoddolwyr sy’n caru’r tir yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi canmol gwirfoddolwyr gweithgar am wella dôl flodau gwyllt yn Ninbych.
Meddai Mr Rowlands, un o gefnogwyr mawr yr amgylchedd ac sy’n awyddus iawn i helpu i wella bioamrywiaeth:
Rwy'n falch iawn o glywed am y fenter ddiweddaraf hon i wella’r ardal wrth gylchfan ATS, sef y brif ffordd i mewn i Ddinbych.
Mae'n wych gweld gwirfoddolwyr arobryn Dinbych yn Blodeuo, a enillodd wobr aur Cymru yn ei Blodau 2023 yn ddiweddar, yn gweithio gyda thîm bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych ar y prosiect hwn.
Mae'r tîm hwn o wirfoddolwyr gweithgar bellach wedi ennill y wobr Aur a gwobr Tref Orau Cymru am y pedwerydd tro yn olynol, sy'n anhygoel ac yn glod iddyn nhw i gyd.
Llongyfarchiadau hefyd i wirfoddolwr y grŵp, Judy Huxley am dderbyn y Wobr Hyrwyddwr Cymunedol.
Meddai Gareth Davies, Aelod o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd:
Hoffwn longyfarch pawb sy'n rhan o'r prosiect blodau gwyllt am ennill Aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau 2023 ynghyd â Phrestatyn hefyd. Mae'n profi bod llawer o fysedd gwyrdd dawnus yn ardal Sir Ddinbych sy'n destun balchder mawr."
Cylchfan ATS yw'r tirnod cyntaf a welwch wrth ddod i mewn i Ddinbych ar yr A525 felly mae'n braf gweld cynlluniau o'r fath yn digwydd yn yr ardal leol gan ei gwneud yn gyrchfan ddeniadol i ymwelwyr a hyrwyddo safonau bywyd gwyllt uchel yn lleol.
Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau ar draws y sir i blannu planhigion mewn naw dôl.
Bydd plannu mwy o flodau, a dyfir ym mhlanhigfa goed y Cyngor, mewn sawl safle yn helpu i greu dolydd mwy lliwgar ac amrywiol ac yn cynnig gwell cymorth o safbwynt bioamrywiaeth i natur ac i’n cymunedau lleol.
Mae blodau gwyllt yn nolydd y sir yn darparu bwyd i wenyn a pheillwyr eraill trwy gydol y flwyddyn, sy'n cefnogi ein cadwyn fwyd ni hefyd. Mae eu hamddifadu o’r cynefin hwn yn lleihau'r gefnogaeth i beillwyr byd natur, gan effeithio ar ein cadwyn fwyd ni ein hunain wrth iddyn nhw gefnogi twf y rhan fwyaf o'n ffrwythau a'n llysiau.
Mae gwirfoddolwyr Dinbych yn Blodeuo, sydd wedi ennill y wobr Aur a gwobr Tref Orau Cymru am y pedwerydd tro yn olynol, wedi cefnogi twf rhywogaethau ar gylchfan ATS ac wedi gosod pentwr o goed a gwesty i drychfilod ar y safle, gan gynnig cynefin i bryfed. Gan weithio gyda'r tîm Bioamrywiaeth, maen nhw wedi cyflwyno manteision 'peidio torri’r gwair' i gefnogi twf blodau gwyllt.
Meddai Lyndsey Tasker, Cadeirydd Dinbych yn Blodeuo:
Roedd gwirfoddolwyr o Dinbych yn Blodeuo yn falch iawn o ymuno â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i weithio ar y cynllun plannu hwn. Rydyn ni’n llwyr gefnogi cynlluniau o’r fath sy’n creu ardaloedd o fewn ein tref sy'n ceisio denu mwy o amrywiaeth o bryfed a bywyd gwyllt.