Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales has called for more support for ‘our fantastic councillors’.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, highlighted the great work being carried out by councillors despite the demands of the job and the issues they face.
In responding to a Statement by the Finance and Local Government Minister, Rebecca Evans, ‘Diversity in Democracy—Survey Results’ he said:
The decisions councillors make have that real-life impact on our communities across Wales as a whole, and on this side of the benches we certainly welcome support being provided to our fantastic councillors and applaud their efforts to best represent their communities.
There are just three points I'd like to pick up and expand on. You outlined the work that's being done to ensure more flexibility for council meetings. It is crucially important that our local councillors don't lose the focus of the in-person nature of representation as well. Often, some of the best work is undertaken in person. Regretfully, a number of councillors in Wales still aren't meeting flexibly—they're insisting to only meet online and seemingly taking advantage of this way of meeting, which, in my view, does put limits on democratic involvement.
In terms of improving democracy and diversity in democracy, one of the biggest areas of opportunity, is in working with employers to enable their staff to carry out their role as councillors. For my 14 years as a councillor, 10 of those I held a full-time job, but I was lucky to work for a company that saw the benefits of my role as a councillor and allowed me the flexibility to carry out both of those roles. Regretfully, many organisations still don't understand these benefits.
The second point is the abhorrent bad behaviour and abuse that many councillors and candidates receive. There is a risk that abuse becomes normalised and is seen as part of the job, which we must not allow to happen as it really puts people off standing for election and certainly has an impact on diversity in our councils.
The final point is in relation to the level of commitment from many of our councillors. As mentioned in the public survey, 63% of councillors indicated that they were available 24 hours a day, seven days a week, which is a great commitment and a reflection of their work. But I would argue it is a difficult expectation to sustain and this expectation makes it very difficult for councillors and prospective councillors to juggle family life, a career, and then also representing their community.
Mr Rowlands urged the Minister, for more support for councillors and to ensure younger people, who want to become councillors, or who are councillors, had a fair expectation of the time and energy they need to commit to the role.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at waith cynghorwyr lleol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw am fwy o gefnogaeth i'n 'cynghorwyr gwych’.
Wrth siarad yn y Senedd, tynnodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, sylw at y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan gynghorwyr, er gwaethaf gofynion y swydd a'r problemau sy'n eu hwynebu.
Wrth ymateb i Ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, 'Diversity in Democracy—Survey Results’, dywedodd:
Mae'r penderfyniadau mae cynghorwyr yn eu gwneud yn cael effaith go iawn ar ein cymunedau ledled Cymru ac, ar yr ochr hon i'r meinciau, rydym yn sicr yn croesawu unrhyw gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'n cynghorwyr gwych ac yn cymeradwyo eu hymdrechion i gynrychioli eu cymunedau hyd eithaf eu gallu.
Mae tri phwynt yr hoffwn i eu codi ac ehangu arnyn nhw. Fe wnaethoch chi amlinellu'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfarfodydd y cyngor. Mae'n hollbwysig nad yw ein cynghorwyr lleol yn colli ffocws ar natur wyneb yn wyneb y gynrychiolaeth hefyd. Yn aml, mae rhywfaint o'r gwaith gorau yn cael ei wneud wyneb yn wyneb. Yn anffodus, dydy amryw o gynghorwyr yng Nghymru dal ddim yn cyfarfod yn hyblyg—maen nhw'n mynnu dim ond cyfarfod ar-lein ac yn manteisio ar y ffordd hon o gyfarfod sydd, yn fy marn i, yn rhoi cyfyngiadau ar gyfraniad democrataidd.
Yn nhermau gwella democratiaeth ac amrywiaeth mewn democratiaeth, un o'r meysydd cyfle mwyaf yw gweithio gyda chyflogwyr i alluogi eu staff i gyflawni eu rôl fel cynghorwyr. Yn fy 14 mlynedd fel cynghorydd, am 10 o'r rheiny roeddwn i mewn swydd lawn amser, ond roeddwn i'n ffodus i weithio i gwmni a welodd fanteision fy rôl fel cynghorydd ac a roddodd yr hyblygrwydd i mi gyflawni'r ddwy rôl honno. Yn anffodus, dydy llawer o sefydliadau dal ddim yn deall y manteision hyn.
Yr ail bwynt yw'r ymddygiad ffiaidd a'r gamdriniaeth mae nifer o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn eu hwynebu. Mae risg y bydd camdriniaeth yn cael ei normaleiddio ac yn cael ei weld fel rhan o'r swydd, ond rhaid i ni beidio â chaniatáu i hynny ddigwydd gan ei fod yn annog pobl i beidio â sefyll mewn etholiad ac yn sicr yn cael effaith ar amrywiaeth yn ein cynghorau.
Mae'r pwynt olaf yn ymwneud â lefel yr ymrwymiad gan lawer o'n cynghorwyr. Fel y soniwyd amdano yn yr arolwg cyhoeddus, nododd 63% o gynghorwyr eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, sy'n ymrwymiad mawr ac yn adlewyrchiad o'u gwaith. Ond byddwn i'n dadlau ei fod yn ddisgwyliad anodd i'w gynnal ac mae'r disgwyliad hwn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i gynghorwyr a darpar gynghorwyr sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd teuluol, gyrfa a chynrychioli eu cymuned.
Fe wnaeth Mr Rowlands annog y Gweinidog i roi mwy o gefnogaeth i gynghorwyr ac i sicrhau bod gan bobl iau sydd am fod yn gynghorwyr, neu sydd yn gynghorwyr, ddisgwyliad teg o'r amser a'r egni sydd eu hangen arnyn nhw i ymrwymo i'r rôl.