This week in the Welsh Parliament, Sam Rowlands MS introduced a Bill to ensure every school child in Wales receives a residential outdoor education experience.
Rowlands was first selected in July 2022 to create a Bill, and this week marked the latest milestone in the journey towards that Bill becoming a law.
The Residential Outdoor Education (Wales) Bill has had substantial backing from a variety of groups, including ScoutsCymru and The Outward Bound Trust.
A similar Bill is making its way through the Scottish Parliament, and another was recently started in the UK Parliament at Westminster.
In December and the New Year, the Bill will be scrutinised in Senedd committees before going back to a Parliamentary vote later in 2024.
Sam Rowlands, Senedd Member for North Wales, said:
I was delighted to formally introduce my Residential Outdoor Education Bill to the Welsh Parliament.
My Bill would ensure that all children in Welsh schools are able to have high-quality residential outdoor education experiences, giving those children better educational outcomes and life-changing experiences.
Wales can lead the way on this, so I hope Senedd Members will ensure that all our young people have this great opportunity made available to them.
Sam Rowlands AS yn cyflwyno Bil Addysg Awyr Agored arloesol
Yr wythnos hon yn Senedd Cymru, cyflwynwyd Bil gan Sam Rowlands AS i sicrhau bod pob plentyn ysgol yng Nghymru yn cael profiad preswyl o addysg awyr agored.
Cafodd ei ddewis i greu Bil gyntaf ym mis Gorffennaf 2022, ac yr wythnos hon oedd y garreg filltir ddiweddaraf yn nhaith y Bil hwnnw tuag at ddod yn ddeddf.
Mae Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) wedi cael cefnogaeth sylweddol gan nifer o grwpiau, gan gynnwys ScoutsCymru ac ymddiriedolaeth Outward Bound.
Mae Bil tebyg yn cael ei drafod yn Senedd yr Alban, ac mae un arall wedi dechrau ei daith yn ddiweddar yn Senedd y DU yn San Steffan.
Ym mis Rhagfyr a’r Flwyddyn Newydd, bydd y Bil yn destun craffu gan bwyllgorau’r Senedd cyn mynd yn ôl i bleidlais seneddol yn ddiweddarach yn 2024.
Dywedodd Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru:
Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno’r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl yn ffurfiol i Senedd Cymru.
Byddai’r Bil yn sicrhau bod pob plentyn ysgol yng Nghymru yn gallu cael profiadau addysg awyr agored breswyl o ansawdd uchel, gan roi gwell canlyniadau addysgol a phrofiadau sy’n newid bywyd i’r plant hynny.
Gall Cymru arwain y ffordd yn hyn o beth, felly rwy’n gobeithio y bydd Aelodau o’r Senedd yn sicrhau y bydd y cyfle gwych hwn ar gael i bob un o’n pobl ifanc.