Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that almost half a million pounds has been secured to keep everyone safe on the streets of Wrexham.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a great supporter of initiatives to help keep people safe on our streets said:
I am delighted to see the city of Wrexham receiving funding which will benefit the community by helping to keep our streets safer for the public.
It is really important that initiatives like the hub at Hafan y Dref, is able to remain open and offer sanctuary for those who need any help on a Friday night.
It is also great to see North Wales Police and Wrexham County Borough Council working together to engage with sixth form colleges and Glyndwr University to raise awareness of domestic abuse.
The funding will enable several initiatives to continue including the hub at Hafan y Dref, which opens on Friday nights to provide welfare and first aid to people enjoying the night-time economy.
Four street marshals will be on hand for the night-time economy for one year to support police officers and PCSOs to offer advice and support and also signpost to Safe Spaces such as Hafan y Dref.
There will be a pop-up police station at Eagles Meadow and a number of Safer Streets Respect days will help target and raise awareness to prevent ASB and Violence Against Women and Girls.
School and community grants directed for intervention projects to tackle youth Anti Social Behaviour will also be available.
North Wales Police and Wrexham Borough Council will also be engaging with Sixth Form colleges and Glyndwr University and the wider public to help increase awareness and signpost individuals to where they can receive support for domestic abuse.
Sam Rowlands AS yn falch o weld bron i £500,000 yn cael ei ddyfarnu i Wrecsam gan y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion bod bron i hanner miliwn o bunnoedd wedi’u sicrhau i gadw pawb yn ddiogel ar strydoedd Wrecsam.
Meddai Mr Rowlands, sy’n Weinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig ac yn gefnogol iawn o fentrau sy’n helpu i gadw pobl yn ddiogel ar ein strydoedd:
Rwy'n falch iawn o weld dinas Wrecsam yn derbyn cyllid a fydd o fudd i'r gymuned drwy helpu i gadw ein strydoedd yn fwy diogel i'r cyhoedd.
Mae'n bwysig iawn bod mentrau fel y ganolfan yn Hafan y Dref, yn gallu aros ar agor a chynnig noddfa i'r rhai sydd angen unrhyw help ar nos Wener.
Mae hefyd yn wych gweld Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydweithio i ymgysylltu â cholegau chweched dosbarth a Phrifysgol Glyndŵr i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig.
Bydd y cyllid yn galluogi sawl menter i barhau gan gynnwys y ganolfan yn Hafan y Dref, sy'n agor ar nos Wener i ddarparu lles a chymorth cyntaf i bobl sy'n mwynhau noson allan.
Bydd pedwar marsial stryd wrth law fin nos am flwyddyn i gefnogi swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i gynnig cyngor a chefnogaeth a hefyd cyfeirio at Fannau Diogel fel Hafan y Dref.
Bydd gorsaf heddlu dros dro yn Eagles Meadow a bydd nifer o ddiwrnodau Parchu Strydoedd Mwy Diogel yn helpu i dargedu a chodi ymwybyddiaeth er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn menywod a merched.
Bydd grantiau ysgolion a chymunedol yn benodol ar gyfer prosiectau ymyrraeth i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid hefyd ar gael.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam hefyd yn ymgysylltu â cholegau Chweched Dosbarth a Phrifysgol Glyndŵr a'r cyhoedd yn ehangach i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a chyfeirio unigolion i’r man cywir i dderbyn cefnogaeth ar gyfer cam-drin domestig.