Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed an initiative to encourage young people to keep fit during the summer holidays.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter of any moves to encourage young people to keep fit and take part in sport said:
I am delighted to hear that Denbighshire libraires will be loaning out sports equipment like cricket bats and tennis racquets to youngsters this summer.
As many people know I actively encourage any moves for children to take part in sports and enjoy outdoor games to keep fit and healthy.
I currently have the Outdoor Education Bill going through the Welsh Parliament which would ensure all young people have the opportunity to experience residential outdoor education during their school years.
I think this is a great scheme and hopefully will encourage children into their local library to pick up equipment and maybe also select some books to read and take part in this year’s Summer Reading Challenge.
All eight of Denbighshire’s Libraries are now offering free sports equipment for young people to loan out during the summer holidays, with equipment kindly provided by Denbighshire Leisure Limited (DLL).
This equipment includes skipping ropes, hockey sticks, cricket bats, tennis racquets, hula hoops and balls, and can be loaned out at the same time as books.
This year’s Summer Reading Challenge is named ‘Ready, Set, Read!’ and is a games and sports themed challenge. In conjunction with this, Denbighshire Libraries want to celebrate play and participation and encourage children to engage in games and sports in any way that best suits them.
Jamie Groves, Managing Director of DLL said:
We are absolutely delighted to help launch the free equipment loan programme at Denbighshire Libraries. Our Active Communities team have worked closely with the Denbighshire libraries to bring this programme to life, and seeing its early success is fantastic, with almost all of the equipment already out on loan!
As we head into the summer holidays, I am delighted that we can extend this service free of charge to all Denbighshire families, especially during these challenging economic times.
Sam Rowland’s Outdoor Education Bill, if it becomes law, will require local authorities to ensure all young people receiving maintained education are provided with the opportunity to experience residential outdoor education at some stage during their school years. It will also make it a requirement for the Welsh Government to provide funding to schools to enable them to do so.
Sam Rowlands AS yn falch o weld llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnig offer chwaraeon am ddim dros wyliau'r haf
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi croesawu menter sy'n annog pobl ifanc i gadw'n heini yn ystod gwyliau'r haf.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a chefnogwr brwd i unrhyw gamau sy'n annog pobl ifanc i gadw'n heini a chymryd rhan mewn chwaraeon:
Rwy'n falch iawn o glywed y bydd llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn benthyg offer chwaraeon fel batiau criced a racedi tennis i bobl ifanc yr haf hwn.
Fel y gŵyr llawer o bobl, rwy'n annog unrhyw gamau sy'n helpu plant i gymryd rhan ym myd y campau a mwynhau chwaraeon awyr agored i gadw'n iach ac yn heini.
Ar hyn o bryd mae fy Mil Addysg Awyr Agored yn mynd drwy Senedd Cymru a fyddai'n sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i brofi addysg breswyl awyr agored yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol.
Rwy'n credu bod hwn yn gynllun gwych a gobeithio y bydd yn annog plant i fynd i'w llyfrgell leol i godi offer a dewis ambell lyfr i'w ddarllen a chymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf.
Mae pob un o'r wyth llyfrgell yn Sir Ddinbych bellach yn cynnig offer chwaraeon am ddim i bobl ifanc eu benthyg yn ystod gwyliau'r haf, gydag offer yn cael ei ddarparu'n garedig gan Denbighshire Leisure Limited (DLL).
Mae'r offer yn cynnwys rhaffau sgipio, ffyn hoci, batiau criced, racedi tenis, cylchoedd hwla a pheli, a gellir eu benthyg ar yr un pryd â llyfrau.
Enw Her Ddarllen yr Haf eleni yw 'Ar eich marciau, darllenwch!' sy'n seiliedig ar fyd gemau a chwaraeon. I gyd-fynd â hyn, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych eisiau dathlu chwarae ac yn annog plant i gymryd rhan mewn gemau a chwaraeon o bob math - beth bynnag sy'n mynd â'u bryd.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL:
Rydym wrth ein bodd o helpu i lansio'r rhaglen benthyca offer am ddim yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych. Mae ein tîm Cymunedau Actif wedi gweithio'n agos gyda llyfrgelloedd Sir Ddinbych i ddod â'r rhaglen hon yn fyw, ac mae'n wych gweld ei llwyddiant cynnar, gyda bron pob un o'r offer eisoes ar fenthyg!
Wrth i wyliau'r haf fynd rhagddynt, rwy'n falch o ymestyn y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i holl deuluoedd Sir Ddinbych, yn enwedig yn ystod y cyfnod economaidd heriol hwn.
Os daw Bil Addysg Awyr Agored Sam Rowlands yn gyfraith gwlad, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod pob person ifanc sy'n derbyn addysg a gynhelir yn cael cyfle i brofi addysg breswyl awyr agored ar ryw adeg o'u blynyddoedd ysgol. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid i ysgolion i'w galluogi i wneud hynny.