Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed plans to give a popular Denbighshire riverside park a new look.
Mr Rowlands, chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, said:
I am delighted to hear about all the work which is going to be carried out to enhance and develop Llangollen’s Riverside Park.
The town is an extremely popular tourist destination and as a very keen supporter of attracting visitors to this lovely part of the world it is good to see work being carried out to upgrade recreational spaces.
I am also pleased to see this sort of investment in Llangollen which can only enhance and improve the area for local people and visitors alike.
Contractors are currently working on a raft of new features for the Llangollen site including a new 9-hole bespoke mini golf which is due to be finished end of March with holes representing places and features of interest within Llangollen and the Dee valley. This will include an active travel interpretation map for the area and replaces the old course at the site.
New play equipment for the 5-12 year old age range is also going to be installed early April and work is underway at the bandstand to install electricity power points to increase opportunities for entertainment along with seating block created in to the bank area for spectators.
Green infrastructure has also been introduced sat the park with trees to create shade, wildflower planting and shrub planting around the park. Also a green space area will be extended by introducing grass up to and around the blocked dragon area.
The work has been made possible through the Welsh Government’s Brilliant Basics funding round for 2022/23.
Paul Evans, Plas Newydd Site Manager, said:
While planning this work, we worked closely with Llangollen Fringe along with Llangollen Parks Community group and Llangollen Town Council, who both provided some of the match funding towards the project.
Sam Rowlands AS yn falch o weld gwaith datblygu i wella Parc Glannau’r Afon Llangollen
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu cynlluniau i roi gwedd newydd i barc poblogaidd ar lan yr afon yn Sir Ddinbych.
Meddai Mr Rowlands, cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Rwy'n falch iawn o glywed am yr holl waith sydd ar y gweill i wella a datblygu Parc Glannau’r Afon Llangollen.
Mae'r dref yn gyrchfan ymwelwyr hynod boblogaidd ac fel cefnogwr brwd iawn o ddenu ymwelwyr i'r rhan hyfryd hon o'r byd mae'n dda gweld gwaith yn cael ei wneud i uwchraddio ardaloedd hamdden.
Rydw i hefyd yn falch o weld y math hwn o fuddsoddiad yn Llangollen sydd ond yn gallu gwella'r ardal i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae contractwyr wrthi'n gweithio ar lu o nodweddion newydd ar gyfer safle Llangollen gan gynnwys cwrs golff bach newydd pwrpasol 9 twll a fydd yn cael ei orffen ddiwedd mis Mawrth gyda thyllau yn cynrychioli mannau a nodweddion o ddiddordeb yn Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd hyn yn cynnwys map dehongli teithio llesol ar gyfer yr ardal ac yn disodli'r hen gwrs ar y safle.
Mae offer chwarae newydd ar gyfer plant 5-12 oed hefyd yn mynd i gael ei osod yn gynnar ym mis Ebrill ac mae gwaith ar y gweill yn y ‘bandstand’ i osod pwyntiau pŵer trydan, fel bod mwy o gyfleoedd ar gyfer adloniant ynghyd â bloc eistedd sy’n cael ei greu ar y llethr i wylwyr.
Mae seilwaith gwyrdd hefyd wedi'i greu yn y parc gyda choed i greu cysgod, ac mae blodau gwyllt a llwyni wedi’u plannu. Hefyd bydd ardal werdd yn cael ei hymestyn trwy gyflwyno glaswellt hyd at ac o amgylch ardal y ddraig na ellir cael ati ar hyn o bryd.
Mae'r gwaith wedi bod yn bosibl drwy gylch ariannu Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23.
Dywedodd Paul Evans, Rheolwr Safle Plas Newydd:
Wrth gynllunio'r gwaith hwn, fe wnaethom ni weithio'n agos gyda Gŵyl Ffrinj Llangollen ynghyd â grŵp Cymunedol Parciau Llangollen a Chyngor Tref Llangollen, a ddarparodd rhywfaint o’r cyllid cyfatebol tuag at y prosiect.