Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that Wrexham is hosting international tennis tournaments.
This April and May, Wrexham is set to welcome three national and international tennis competitions, supported by free tennis ‘give it a go’ events for the local community.
Mr Rowlands, a keen supporter of attracting more elite sporting events to North Wales said:
I am delighted to see Wrexham playing host to these international tennis competitions and welcoming over 600 players from across the world. The city is already firmly on the football map and these prestigious tournaments will certainly enhance Wrexham’s reputation as a sports event destination.
I am particularly pleased to see Wrexham Tennis Centre will be hosting the highest-ranked tournament in Wales, the Lawn Tennis Association Junior Welsh Open from 8-16 April with players from across the UK competing in the under 10’s to under 18 category.
It is a fantastic opportunity to watch top young players and maybe budding Wimbledon champions of the future.
The Tennis Europe Junior Tour, which is currently underway until April 8, is the first of three international tennis events taking place in the city with Wrexham representing the Welsh leg of the Europe-wide event series.
Now in its 33rd year, the Junior Tour has become the tournament of choice for the launch of many a successful tennis career. Perhaps most notably, world-class tennis players such as Roger Federer, and Sir Andy Murray.
This month will also see Wrexham Tennis Centre host the highest-ranked tournament in Wales, the LTA Junior Welsh Open from April 8-16. In May, the international courts open once again, welcoming players from across the globe to Wrexham for the ITF World Junior Tour from 20 – 26.
To further support and bolster the tennis scene within the local community Tennis Wales, in partnership with Wrexham Tennis Centre and Wrexham County Borough Council will be hosting a series of free events later in the year, where children and families can pick up a racket and give tennis a go.
With tennis fever sweeping across Wrexham, July 10 – 14 will mark a school’s roadshow where tennis will be taken into 10 schools across the city, giving around 1,000 schoolchildren the chance to try tennis.
Following the roadshow, Wrexham Tennis Centre will host an open day on July 15 where families will be able to enjoy fun-filled tennis activities for free. There are also plans for a pop-up tennis court to be installed in the city centre.
Sam Rowlands AS yn falch o weld chwaraeon rhyngwladol yn cael eu cynnal yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu’r newyddion bod Wrecsam yn cynnal twrnameintiau tennis rhyngwladol.
Fis Ebrill a Mai, bydd Wrecsam yn croesawu tair cystadleuaeth tennis genedlaethol a rhyngwladol, wedi’u hategu gan ddigwyddiadau ‘rhowch gynnig arni’ am ddim ar gyfer y gymuned leol.
Meddai Mr Rowlands, sy’n frwd dros ddenu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon elît i’r Gogledd:
Rwy’n falch iawn o weld Wrecsam yn llwyfan i’r cystadlaethau tennis rhyngwladol hyn ac yn croesawu dros 600 o chwaraewyr o bob cwr o’r byd. Mae’r ddinas eisoes yn amlwg ar y map pêl-droed ac rwy’n sicr y bydd y twrnameintiau mawreddog yma yn gwella enw da Wrecsam fel cyrchfan i ddigwyddiadau chwaraeon.
Rwy’n arbennig o falch o weld Canolfan Tennis Wrecsam yn cynnal y brif bencampwriaeth yng Nghymru, Cystadleuaeth Agored Cymru’r Gymdeithas Tennis Lawnt ar gyfer chwaraewyr iau rhwng 8 a 16 Ebrill, gyda chwaraewyr o bob rhan o’r DU yn cystadlu yn y categori dan 10 i dan 18 oed.
Mae’n gyfle gwych i wylio’r chwaraewyr ifanc gorau, a phwy ŵyr, efallai y bydd darpar bencampwyr Wimbledon yn eu plith.
Taith Iau Tennis Ewrop, sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd hyd 8 Ebrill, yw’r cyntaf o dri digwyddiad tennis rhyngwladol sy’n cael eu cynnal yn y ddinas, gyda Wrecsam yn cynrychioli cymal Cymru o’r gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ledled Ewrop.
Bellach yn ei 33ain flwyddyn, mae’r Daith Iau wedi dod yn bencampwriaeth boblogaidd iawn ar gyfer lansio sawl gyrfa tennis lwyddiannus, yn cynnwys y chwaraewyr dihafal Roger Federer a Syr Andy Murray, neb llai.
Y mis hwn hefyd bydd Canolfan Tennis Wrecsam yn croesawu prif dwrnamaint Cymru, sef Cystadleuaeth Agored Cymru yr LTA ar gyfer chwaraewyr iau rhwng 8 a 16 Ebrill. Ym mis Mai, mae’r cyrtiau rhyngwladol yn agor unwaith eto, gan groesawu chwaraewyr o bob cwr o’r byd i Wrecsam ar gyfer Taith Iau’r Byd yr ITF rhwng 20 a 26 Mai.
Er mwyn cefnogi a chryfhau ymhellach y sin tennis yn y gymuned leol, bydd Tennis Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Tennis Wrecsam a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim yn ddiweddarach yn y flwyddyn, lle gall plant a theuluoedd afael mewn raced a rhoi cynnig ar dennis.
Wrth i dennis gipio dychymyg pobl ledled Wrecsam, ar 10 – 14 Gorffennaf bydd sioe deithiol tennis yn ymweld â 10 ysgol ar draws y ddinas, gan roi cyfle i tua 1,000 o blant ysgol roi cynnig ar dennis.
Yn dilyn y sioe deithiol, bydd Canolfan Tennis Wrecsam yn cynnal diwrnod agored ar 15 Gorffennaf lle bydd teuluoedd yn gallu mwynhau gweithgareddau tennis llawn hwyl am ddim. Mae cynlluniau hefyd i osod cwrt tennis dros dro yng nghanol y ddinas.