Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that a new country park is to be created in Denbighshire.
Mr Rowlands, Chair of the Cross Party Group on Tourism in the Senedd and a keen supporter of attracting more visitors to North Wales is delighted to hear about the venture on woodland and parkland next to Bodelwyddan Castle.
He said:
I am really pleased to hear that Denbighshire County Council has given planning permission for a new country park in my region and look forward to seeing the plans come into fruition.
It will be great to see this historic area of parkland being renovated and re-opened to the public once again and adding to the many tourist attractions we have in the area.
I am delighted that the project has received £900,000 from the UK Government through the Shared Prosperity Fund which is a major part of the UK Government’s Levelling Up agenda and provides £2.6 billion of funding for local investment by March 2025.
It is fantastic to see another project in North Wales benefitting from the fund.
Preparations are now underway to create a new country park on an historic Denbighshire parkland next to Bodelwyddan Castle.
The historic park area will undergo renovation work to reopen the mixture of park lands, woods and orchards to the public once again.
A redeveloped 73 space car park alongside the construction of new paths will take place to support repeat visits to the site by local residents and visitors alongside the introduction of increased biodiversity on the land through wildflower meadows.
The main project work is set to begin on site this summer.
Emlyn Jones, Head of Planning, Public Protection and Countryside Services, said:
We are really pleased to be in a position to start work to unlock this fantastic area to the public once more to support their physical and mental wellbeing by visiting such rich variety of park parkland.
This project will give local residents and visitors a great opportunity to spend time outdoors, enjoying quality facilities, the natural environment, the history and far reaching views across the landscape surrounding the grounds.
Sam Rowlands AS yn falch o weld cynlluniau ar gyfer parc gwledig newydd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu'r newyddion bod parc gwledig newydd am gael ei greu yn Sir Ddinbych.
Mae Mr Rowlands, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth yn y Senedd a chefnogwr brwd yr ymgais i ddenu mwy o ymwelwyr i’r Gogledd yn falch iawn o glywed am y fenter ar goetir a pharcdir ger Castell Bodelwyddan.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed bod Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer parc gwledig newydd yn fy rhanbarth ac edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau'n dwyn ffrwyth.
Bydd yn wych gweld yr ardal hanesyddol hon o barcdir yn cael ei hadnewyddu a'i hail-agor i'r cyhoedd unwaith eto ac ychwanegu at yr atyniadau twristaidd niferus sydd gennym ni yn yr ardal.
Rwyf wrth fy modd bod y prosiect wedi derbyn £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin sy'n rhan fawr o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac a fydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Mae'n wych gweld prosiect arall yn y Gogledd yn elwa ar y gronfa.
Mae paratoadau ar y gweill erbyn hyn i greu parc gwledig newydd ar barcdir hanesyddol yn Sir Ddinbych wrth ymyl Castell Bodelwyddan.
Bydd gwaith adnewyddu’n cael ei wneud yn ardal hanesyddol y parc i ailagor y cymysgedd o dir parc, coedwigoedd a pherllannau i'r cyhoedd unwaith eto.
Bydd maes parcio gyda lle i 73 cerbyd yn cael ei ailddatblygu a llwybrau newydd yn cael eu hadeiladu i gefnogi ymweliadau rheolaidd â'r safle gan drigolion lleol ac ymwelwyr law yn llaw â chyflwyno rhagor o fioamrywiaeth ar y tir trwy ddolydd blodau gwyllt.
Mae disgwyl i'r prif waith prosiect ddechrau ar y safle yn ystod yr haf.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:
Rydyn ni’n falch tu hwnt o fod mewn sefyllfa i ddechrau gweithio i ddatgloi'r ardal wych hon i'r cyhoedd unwaith eto er mwyn cefnogi eu lles corfforol a meddyliol trwy ymweld â pharcdir mor amrywiol a chyfoethog.
Bydd y prosiect yn cynnig cyfle gwych i drigolion lleol ac ymwelwyr dreulio amser yn yr awyr agored, mwynhau cyfleusterau o safon, yr amgylchedd naturiol, yr hanes a golygfeydd hyfryd ar draws y dirwedd gyfagos.