Sam Rowlands MS for North Wales wants to see extra investment to bring even more major events to his region.
Speaking in the Senedd during the Welsh Conservatives Debate on ‘Major Events’, Mr Rowlands Shadow Minister for North Wales, highlighted the importance of these events for the local economy.
He said:
The debate is so important because, as we know, major events, as a whole, do so much in supporting our economy here in Wales and, of course, in our local communities.
First of all, they boost local economies from increased visitor numbers and spending; they extend the tourist and visitor season by providing a programme of events in the winter months; they can act as a platform for providing positive publicity in local and national media about an area; increase the area's profile locally, nationally and internationally by having such significant events; they can encourage economic growth opportunities by developing the local supply chain; provide opportunities for the community to get involved by volunteering to help develop skills and employment opportunities; and provide local entertainment for the community and additional recreational opportunities for residents across the area.
I am sure members were delighted to read the Federation of Small Businesses' 'Welcoming Communities: Developing tourism in Wales' report, which was published in August. This report highlighted again how important tourism and visitors are to us here in Wales, showing that 17.6% of our gross domestic product is related to tourism, and over 12% of our residents are employed within tourism. The link between tourism, visitors and events is significant for our thriving economy.
When looking at some of the previous major events held in my region, in North Wales, it’s clear to see why they’ve been so successful in boosting the Welsh economy. One example has been the Wales Rally GB, which took place in North Wales in the past. That was calculated to have an annual impact of around £10 million on the economy in north Wales—that’s £10 million of new money and new jobs.
From my experience, these events wouldn’t have happened without an ambitious and intentional vision in a local authority and to be fair, without the partnership working with Welsh Government, and both partners, whether it be private sector or public sector, being willing to invest to attract these events to the region.
We must make sure we don’t lose sight of an ambitious vision for what’s worked well here in Wales, and so that we also don’t lose those important skills, experience and passion that already exist, and can be built upon in our communities, to make the most of major events here in Wales.
Sam Rowlands AS yn canmol pwysigrwydd digwyddiadau mawr i economi'r Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, am weld buddsoddiad ychwanegol er mwyn denu mwy fyth o ddigwyddiadau mawr i'w ranbarth.
Wrth siarad yn y Senedd yn ystod Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar 'Ddigwyddiadau Mawr', fe wnaeth Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru, dynnu sylw at bwysigrwydd y digwyddiadau hyn i'r economi leol.
Meddai:
Mae'r ddadl mor bwysig oherwydd, fel y gwyddom, mae digwyddiadau mawr at ei gilydd yn gwneud cymaint i gefnogi'n heconomi ni yma yng Nghymru ac, wrth gwrs, yn ein cymunedau lleol.
Yn gyntaf oll, maen nhw'n hybu economïau lleol trwy ddenu mwy o ymwelwyr a gwariant; maen nhw'n ymestyn y tymor twristaidd ac ymwelwyr drwy ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau dros fisoedd y gaeaf; gallant fod yn llwyfan i ddarparu cyhoeddusrwydd cadarnhaol am yr ardal, yn y wasg a'r cyfryngau lleol a chenedlaethol; mae proffil yr ardal yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn cael hwb drwy gael digwyddiadau o bwys yma; gallant annog cyfleoedd twf economaidd drwy ddatblygu'r gadwyn gyflenwi leol; rhoi cyfleoedd i'r gymuned gymryd rhan drwy wirfoddoli er mwyn helpu i feithrin sgiliau a chyfleoedd gwaith; a darparu adloniant lleol i'r gymuned yn ogystal â chyfleoedd hamdden ychwanegol i drigolion yr ardal.
Rwy'n siŵr bod aelodau wrth eu boddau'n darllen adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach, 'Cymunedau Croesawgar: Datblygu Twristiaeth yng Nghymru' a gyhoeddwyd ym mis Awst. . Unwaith eto, roedd yr adroddiad yn amlygu pa mor bwysig yw twristiaeth ac ymwelwyr i ni yma yng Nghymru, gyda 17.6% o'n cynnyrch domestig gros yn gysylltiedig â thwristiaeth, a 12% a mwy o'n trigolion yn cael eu cyflogi yn y maes twristiaeth. Mae'r cysylltiad rhwng twristiaeth, ymwelwyr a digwyddiadau yn arwyddocaol i'n heconomi ffyniannus.
Wrth edrych ar rai o'r digwyddiadau mawr blaenorol a gynhaliwyd yn fy rhanbarth i, y Gogledd, mae'n amlwg pam y buon nhw mor lwyddiannus wrth roi hwb i economi Cymru. Un enghraifft yw Rali GB Cymru, a gynhaliwyd yn y Gogledd yn y gorffennol. Cyfrifwyd bod hynny'n cael effaith flynyddol o tua £10 miliwn ar economi'r Gogledd — dyna i chi £10 miliwn o arian newydd a swyddi newydd.
O 'mhrofiad i, fyddai'r digwyddiadau yma ddim yn bosib heb weledigaeth uchelgeisiol a bwriadol awdurdodau lleol ac i fod yn deg, heb waith partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a heb fod y ddau bartner, boed yn bartner o’r sector preifat neu'r sector cyhoeddus, yn barod i fuddsoddi i ddenu'r digwyddiadau yma i'r rhanbarth.
Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn colli'r weledigaeth uchelgeisiol hon sydd wedi gweithio'n dda yma yng Nghymru, fel nad ydym yn colli'r sgiliau, y profiad a'r brwdfrydedd hollbwysig hynny sydd eisoes ar waith yn ein cymunedau, i elwa i'r eithaf ar ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru.