Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has added his voice to congratulate Tŷ Pawb on its fifth birthday.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and keen supporter of Wrexham’s successful centre said:
I recently visited Tŷ Pawb, with Cllr Mark Pritchard, the Leader of Wrexham County Borough Council to see for myself how this resource was working for local people and was very impressed.
It is a brilliant concept as it brings together the market and the arts along with several street food stalls and community facilities in the centre of this vibrant city.
Since it first opened its doors way back in May 2018 it has welcomed an amazing 1,240,400 people, which is fantastic and just shows how popular it is. It has also received national recognition and was shortlisted for the prestigious Art Fund Museum of the Year 2022.
It is a great example of what can be done to improve a city centre and offer another attraction to encourage more visitors to this popular city and I would like to congratulate everyone involved.
Tŷ Pawb is a cultural community resource bringing together arts and markets within the same footprint and celebrates the significance of markets within Wrexham’s cultural heritage and identity.
It offers a space for dialogue around subjects including social and civic issues, the environment, health, cultural identity, sustainability and education.
There is also a contemporary programme of welcoming and inclusive exhibitions, socially engaged projects and live performance. The programme emphasises skills and craft, working with emerging and established artists from all backgrounds.
Since opening in May 2018 Tŷ Pawb has displayed 31 exhibitions, featuring over 700 artists. Hosted over 300 performances. And become home to over 30 traders offering a wide range of exciting products and homemade food.
It has also won awards, including the Gold Medal for Architecture at the Llangollen Eisteddfod, Architects Journal Retrofit of the Year & Best Cultural Building under £5m.
Sam Rowlands AS yn canmol canolfan adnoddau cymunedol diwylliannol Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi llongyfarch canolfan Tŷ Pawb ar ei phen-blwydd yn bump oed.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chefnogwr brwd y ganolfan lwyddiannus yn Wrecsam:
Yn ddiweddar, bûm yn ymweld â Thŷ Pawb gyda’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i weld drosof fy hun sut roedd yr adnodd hwn yn gweithio i bobl leol a gwnaeth argraff fawr arnaf i.
Mae’n gysyniad gwych gan ei fod yn dod â’r farchnad a’r celfyddydau at ei gilydd ynghyd â sawl stondin bwyd stryd a chyfleusterau cymunedol yng nghanol y ddinas fywiog hon.
Ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf yn ôl ym mis Mai 2018 mae wedi croesawu 1,240,400 o bobl, nifer anhygoel a gwych sy’n dangos pa mor boblogaidd yw’r ganolfan. Mae hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol a chyrhaeddodd rhestr fer Amgueddfa’r Flwyddyn yr Art Fund 2022.
Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei wneud i wella canol dinas a chynnig atyniad arall i annog mwy o ymwelwyr i’r ddinas boblogaidd hon a hoffwn longyfarch pawb sydd ynghlwm â’r fenter.
Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd at ei gilydd o fewn yr un ôl troed ac yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd yn nhreftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam.
Mae’n cynnig lle i drafod pynciau gan gynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.
Mae rhaglen gyfoes hefyd o arddangosfeydd croesawgar a chynhwysol, prosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol a pherfformiad byw. Mae’r rhaglen yn pwysleisio sgiliau a chrefft, gan weithio gydag artistiaid newydd a’r rhai sydd wedi ennill eu plwyf o bob cefndir.
Ers agor ym mis Mai 2018 mae Tŷ Pawb wedi cynnal 31 o arddangosfeydd, yn cynnwys gwaith dros 700 o artistiaid. Mae hefyd wedi cynnal dros 300 o berfformiadau ac wedi dod yn gartref i dros 30 o fasnachwyr sy’n cynnig ystod eang o gynhyrchion cyffrous a bwyd cartref.
Mae hefyd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Llangollen, gwobr Ôl-osod y Flwyddyn ac Adeilad Diwylliannol Gorau o dan £5m yr Architects Journal.