Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales has helped Macmillan Cancer Support promote a major fundraising event.
Mr Rowlands joined staff and volunteers from Macmillan Cancer Support in Wales at the Senedd in Cardiff Bay to mark the charity’s annual Coffee Morning fundraising event.
The event was an opportunity to find out more about how Macmillan in Wales is supporting people living with cancer, as well as meeting with inspirational Macmillan volunteers, fundraisers and professionals.
Mr Rowlands, a keen supporter of the charity said:
The news of a cancer diagnosis can be devastating, and it is a sad fact that one in two of us will face cancer in our lifetime.
Every cup raised supports Macmillan’s incredible work in Wales so that Macmillan can keep doing whatever it takes to help people living with cancer.
This year every penny counts, so whether you raise a few pennies or pounds in your Macmillan Coffee Morning it can still make a difference. We’re living in challenging times but Macmillan Cancer Support, alongside our NHS and other partners, work tirelessly to do whatever it takes for people with cancer.
I’m proud to help support Macmillan’s coffee morning, and to help let people know about that this important fundraising event. I would encourage anyone to get involved, and to sign up to organise a Coffee Morning or contribute to a local coffee morning in the way that suits them best.
This year, the cancer charity is celebrating its 33rd annual Macmillan Coffee Morning which sees millions of pounds raised in events organised in homes, schools, workplaces and community spaces.
Richard Pugh, Head of Services for Macmillan Cancer Support in Wales, said:
The Macmillan Coffee Morning at the Senedd is a special event. It is fantastic to be able to meet our Members of the Senedd and update Members on our activities and future plans to support people living with cancer in Wales. We would like to offer Mr Rowlands MS our heartfelt thanks for his support.
A cancer diagnosis can, in a moment, turn someone’s life upside down. We’re living in challenging times which can exacerbate the impact of a devastating diagnosis. The financial and social impacts from global events such as the pandemic and the energy crisis mean that in our communities in Wales, people living with cancer need Macmillan’s support now more than ever before.
More than 98% of Macmillan’s funding comes directly from donations. Without this collective generosity, thousands of people could miss out on vital care from our nurses, or much needed financial support through our Macmillan grants, or be unable to freely access trusted information and support in-person, online or at the end of the telephone.
As always, there is no single or right way to hold a coffee morning for us – it can be whatever you make it, and it can be held when suits you best. We really hope people will pull out all the stops this year. I’d say to people in Wales – ‘Let’s do coffee and let’s do it for those who can’t.
Macmillan’s Coffee Morning this year fell on Friday September 29 but local events can be held throughout the year. For more details about hosting your Macmillan Coffee Morning, you can visit https://coffee.macmillan.org.uk for hosting ideas, games and baking inspiration.
For information or support relating to cancer, call Macmillan’s Support Line on 0808 808 00 00 (8am to 8pm Monday to Friday) or visit www.macmillan.org.uk.
Sam Rowlands AS yn mwynhau paned ac yn cefnogi bore coffi Macmillan
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi bod yn helpu Cymorth Canser Macmillan i hyrwyddo digwyddiad codi arian mawr.
Ymunodd Mr Rowlands â staff a gwirfoddolwyr Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd i nodi digwyddiad Bore Coffi codi arian blynyddol yr elusen.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i glywed mwy am sut mae Macmillan yng Nghymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â chwrdd â gwirfoddolwyr ysbrydoledig Macmillan, codwyr arian a gweithwyr proffesiynol.
Meddai Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd yr elusen:
Gall y newyddion am ddiagnosis canser fod yn ddinistriol, ac mae'n ffaith drist y bydd un o bob dau ohonom ni’n wynebu canser yn ystod ein hoes.
Bydd pob paned a yfir yn cefnogi gwaith anhygoel Macmillan yng Nghymru fel y gall Macmillan barhau i wneud beth bynnag sydd ei angen i helpu pobl sy'n byw gyda chanser.
Eleni mae pob ceiniog yn cyfri, felly p'un a ydych chi'n codi ychydig geiniogau neu bunnoedd yn eich Bore Coffi Macmillan, gall wneud gwahaniaeth o hyd. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod heriol ond mae Cymorth Canser Macmillan, ochr yn ochr â'n GIG a phartneriaid eraill, yn gweithio'n ddiflino i wneud beth bynnag sydd ei angen i helpu pobl â chanser.
Rwy'n falch o helpu i gefnogi bore coffi Macmillan, a rhoi gwybod i bobl am y digwyddiad codi arian pwysig hwn. Byddwn yn annog unrhyw un i gymryd rhan, ac i gofrestru i drefnu Bore Coffi neu gyfrannu at fore coffi lleol yn y ffordd fwyaf addas iddyn nhw.
Eleni, bydd yr elusen ganser yn cynnal digwyddiadau Bore Coffi Macmillan blynyddol rhif 33 sy'n gweld miliynau o bunnoedd yn cael eu codi mewn digwyddiadau a drefnir mewn cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a mannau cymunedol.
Meddai Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:
Mae Bore Coffi Macmillan yn y Senedd yn ddigwyddiad arbennig. Mae'n wych gallu cyfarfod â'n Haelodau o'r Senedd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gweithgareddau a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol i gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru. Hoffem ddiolch o galon i Mr Rowlands AS am ei gefnogaeth.
Mewn chwinciad, gall diagnosis canser droi bywyd rhywun wyneb i waered. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod heriol a all waethygu effaith diagnosis dinistriol. Mae effeithiau ariannol a chymdeithasol digwyddiadau byd-eang fel y pandemig a'r argyfwng ynni yn golygu bod pobl sy'n byw gyda chanser angen cefnogaeth Macmillan yn fwy nag erioed yma yn ein cymunedau yng Nghymru.
Mae mwy na 98% o gyllid Macmillan yn dod yn uniongyrchol o roddion. Heb yr haelioni hwn, gallai miloedd o bobl golli allan ar ofal hanfodol gan ein nyrsys, neu gymorth ariannol mawr ei angen trwy ein grantiau Macmillan, neu fethu â chael gafael ar wybodaeth a chefnogaeth y gellir ymddiried ynddi yn bersonol, ar-lein neu ar y ffôn.
Wrth gwrs, does ‘na ddim un ffordd ‘iawn’ o gynnal bore coffi – gallwch ei gynnal sut bynnag yr hoffech chi ac ar adeg sy’n gyfleus i chi. Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd pobl yn mynd amdani go iawn eleni. Rwy’n annog pobl Cymru, dewch i ni fynd ati i gael paned a gwneud hynny i’r rhai na fedran nhw wneud hynny.
Roedd Bore Coffi Macmillan eleni ar ddydd Gwener 29 Medi ond gellir cynnal digwyddiadau lleol gydol y flwyddyn. Am ragor o fanylion am gynnal eich Bore Coffi Macmillan, gallwch ymweld â https://coffee.macmillan.org.uk i hel syniadau, gemau ac ysbrydoliaeth i bobi.
Am ragor o wybodaeth neu gymorth sy'n ymwneud â chanser, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu ewch i www.macmillan.org.uk.