Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, supports views of his constituents in North Wales.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister and a harsh critic of many of Welsh Government’s policies recently asked people in Wrexham and Flintshire to take part in his online North Wales Transport Survey.
He said:
I would like to thank everyone who took the time to take part in my survey and I must admit I was not at all surprised with the responses.
By far the biggest bone of contention was still the default 20mph speed limit, with 88% of people calling for it to be scrapped.
The new law is still extremely unpopular with the Welsh Government passing the buck as usual and saying local councils will now decide what roads should be 20mph.
This ludicrous and bonkers idea is still causing major headaches for motorists and the money funding the roll out of this new legislation could have been better spent elsewhere.
In the survey almost 74% of people did not support the Welsh Government’s plans to restrict road building with over 70% very dissatisfied with the road maintenance in their area.
The Welsh Labour Government continues to bury its head in the sand when it comes to new road building, improving train services and public transport in North Wales and the responses I received show that people across North Wales are unhappy with the situation.
We don’t have the luxury of decent transport systems in North Wales with often trains and buses being cancelled or delayed without any notice leaving people with no choice but to drive a car to work.
Mr Rowlands’ survey included questions about what type of public transport people use and how satisfied they are with rail and bus services in North Wales.
There was also a section for comments asking the public what they would do to improve public transport.
Sam Rowlands AS yn dweud bod arolwg yn dangos dyfnder teimlad yn erbyn polisïau Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi barn ei etholwyr yn y Gogledd.
Yn ddiweddar, gofynnodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid a beirniad llym o lawer o bolisïau Llywodraeth Cymru, i bobl Wrecsam a Sir y Fflint gymryd rhan yn ei Arolwg Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar-lein.
Dywedodd:
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn fy arolwg ac mae'n rhaid i mi gyfaddef na chefais fy synnu o gwbl gyda'r ymatebion.
Prif asgwrn y gynnen oedd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya o hyd, gydag 88% o bobl yn galw am gael gwared arno.
Mae'r gyfraith newydd yn parhau i fod yn hynod amhoblogaidd gyda Llywodraeth Cymru yn taflu’r baich fel arfer gan ddweud mai’r cynghorau lleol fydd nawr yn penderfynu pa ffyrdd ddylai fod yn 20mya.
Mae'r syniad chwerthinllyd a gwirion hwn yn dal i achosi cur pen mawr i fodurwyr a gallai'r arian a oedd yn cael ei ddefnyddio i roi’r ddeddfwriaeth newydd hon ar waith fod wedi cael ei wario'n well mewn mannau eraill.
Yn yr arolwg doedd bron i 74% o bobl ddim yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar gynlluniau adeiladu ffyrdd gyda dros 70% yn anfodlon iawn gyda’r gwaith cynnal a chadw i’r ffyrdd yn eu hardal.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i gladdu ei phen yn y tywod o ran adeiladu ffyrdd newydd, gwella gwasanaethau trên a thrafnidiaeth gyhoeddus yn y Gogledd ac mae'r ymatebion a gefais yn dangos bod pobl ledled y Gogledd yn anhapus gyda'r sefyllfa.
Does gennym ni ddim moethusrwydd systemau trafnidiaeth gweddus yn y Gogledd gyda threnau a bysiau'n aml yn cael eu canslo neu eu gohirio heb unrhyw rybudd, gan adael pobl heb ddewis ond gyrru eu car i'r gwaith.
Roedd arolwg Mr Rowlands yn cynnwys cwestiynau am ba fath o drafnidiaeth gyhoeddus y mae pobl yn ei defnyddio a pha mor fodlon ydyn nhw gyda gwasanaethau rheilffordd a bysiau yng Ngogledd Cymru.
Roedd yna hefyd adran ar gyfer sylwadau yn gofyn i'r cyhoedd beth fydden nhw'n ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus.