Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has urged the Labour Welsh Government to urgently consider changes to help recruit more dentists.
Speaking in the Welsh Conservative debate on dentistry, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government who has been campaigning for better access to NHS dentists in his region said:
The British Dental Association states that 93% of dental practices in Wales are no longer taking on new NHS adult patients. This is the worst rate in the UK and it is numbers like this which have created a need for this debate.
We could talk for a long time about the Labour-run NHS being the worst in the UK, with a bloated two-year waiting list, the dire mismanagement of Betsi Cadwaladr University Health Board, but we are here to highlight the disastrous running of Welsh dentistry, which continues in that Labour Party tradition of mismanagement of the NHS and mismanaging Wales.
Over a third of dentists plan to reduce their Welsh NHS contracts, and I am sure that is a cause for concern for members. These overall statistics are, of course, a cause of serious concern for us, but within these are the individual experiences of people right across Wales, and perhaps I should declare an interest at this point, because my own family can’t get an NHS dentist, including my children.
Every part of Wales is poorly served, and in my region of North Wales, as I shared a few months ago, I decided to conduct some research of my own, and I contacted 69 NHS dentists in my region, spoke to 57 of those practices and the results were staggering: in all of North Wales, with a population of 700,000 people, not one NHS dental practice was able to take on new patients, with just four offering a place on a waiting list, likely to be over two years.
Our residents pay their taxes and should expect to receive decent public services in return. The Welsh Government gets £1.20 to spend on those public services from the UK Government for every £1 spent in England. It is clear that after 25 years, Labour mismanagement and poor leadership has ruined dentistry across the land.
Labour are failing, and a substantive plan needs to be in place to make things better. The Welsh Conservative plan, which includes working closely with the British Dental Association, will ensure that Welsh NHS dental contracts allow dental practices to increase the number of patients, and urgently recruit more dentists by making Welsh NHS dentistry an attractive career.
We would do this by refunding tuition fees for those who work five years in Welsh NHS dental practices. What we are proposing is a practical and pragmatic approach to the recruitment crisis that we all know is in front of us, and we desperately need innovative ideas like this to tackle the problem.
Sam Rowlands AS yn dweud bod angen i Gymru recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i ystyried newidiadau ar frys er mwyn helpu i recriwtio mwy o ddeintyddion.
Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddeintyddiaeth, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol sydd wedi bod yn ymgyrchu dros well mynediad at ddeintyddion y GIG yn ei ranbarth:
Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dweud nad yw 93% o bractisau deintyddol yng Nghymru bellach yn derbyn cleifion newydd sy'n oedolion o'r GIG. Dyma'r gyfradd waethaf yn y DU, a niferoedd fel hyn sydd wedi creu’r angen am y ddadl hon.
Fe allen ni dreulio oriau bwygilydd yn trafod y ffaith taw'r GIG dan law Llafur Cymru yw'r gwaethaf yn y DU, gyda rhestr aros o ddwy flynedd, camreoli dybryd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - ond rydyn ni yma i dynnu sylw at sefyllfa drychinebus deintyddiaeth Cymru, sy'n parhau â thraddodiad y Blaid Lafur o gamreoli'r GIG a chamreoli Cymru.
Mae dros draean o ddeintyddion yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru, ac rwy'n siŵr bod hynny'n destun pryder i aelodau. Mae'r ystadegau cyffredinol yn achos pryder difrifol i ni wrth gwrs, ond o fewn y rhain mae profiadau unigol pobl ledled Cymru, ac efallai y dylwn ddatgan diddordeb ar hyn o bryd, oherwydd dydy fy nheulu i fy hun, gan gynnwys fy mhlant, ddim yn gallu cael deintydd y GIG.
Mae pob rhan o Gymru wedi'i gwasanaethu'n wael, ac yn fy rhanbarth i o'r Gogledd, fel y soniais ychydig fisoedd yn ôl, penderfynais wneud rhywfaint o ymchwil fy hun. Cysylltais â 69 o ddeintyddion y GIG yn fy rhanbarth, fe siaradais â 57 o'r practisau hynny ac roedd y canlyniadau'n syfrdanol: ym mhob cwr o'r Gogledd, sydd â phoblogaeth o 700,000 o bobl, nid oedd yr un practis deintyddol GIG yn gallu derbyn cleifion newydd, gyda dim ond pedwar yn cynnig lle ar restr aros sy'n debygol o fod dros ddwy flynedd.
Mae ein trigolion yn talu eu trethi a dylent ddisgwyl derbyn gwasanaethau cyhoeddus da yn gyfnewid am hynny. Mae Llywodraeth Cymru'n cael £1.20 i'w wario ar y gwasanaethau cyhoeddus hynny gan Lywodraeth y DU am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Mae'n amlwg bod camreoli ac arweinyddiaeth wael Llafur ers 25 mlynedd wedi difetha deintyddiaeth ledled y wlad.
Mae Llafur yn methu, ac mae angen cynllun sylweddol i wella pethau. Bydd cynllun y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n cynnwys gweithio'n agos gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, yn sicrhau bod contractau deintyddol GIG Cymru yn caniatáu i bractisau deintyddol gynyddu nifer y cleifion, a recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys drwy wneud deintyddiaeth GIG Cymru yn yrfa ddeniadol.
Byddem yn gwneud hyn drwy ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n gweithio am bum mlynedd ym mhractisau deintyddol GIG Cymru. Rydyn ni'n cynnig dull ymarferol a phragmatig o ymdrin â'r argyfwng recriwtio sydd o'n blaenau, ac mae gwir angen syniadau arloesol fel hyn i fynd i'r afael â'r broblem.