Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges Welsh Government to fix the mess they have made over the introduction of the blanket 20mph speed limits across Wales.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and long-time critic of the policy asked the Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters, for a statement following news that Arriva was changing every bus service in North Wales as a result of Wales' default 20mph speed limit.
He said:
“People who use public transport in North Wales, the region I represent, now find themselves in an even more difficult position as a direct result of Welsh Government's default 20mph speed limit. Bus provider, Arriva, is having to change every one of their bus services in North Wales, not the few perhaps the Deputy Minister wants to allude to, due to, as they describe it, 'challenging operational conditions'.
These changes include a number of locations in my region that are no longer going to be served by a bus, with one example, being the village of Llandegla, and severe reductions for other parts of my region.
The Llandudno to Prestatyn service will now operate hourly and will no longer call into places like Llandudno Junction railway station or into Llysfaen; the Bangor to Beaumaris service is being reduced to operate every 75 minutes. These are significant settlements, Bangor, Llandudno, Prestatyn—tens of thousands of people living in these settlements having their bus services reduced even further.
All this has a significant negative impact on my constituents and it makes their lives more difficult. It's going to affect their jobs, their families, their social lives—all because of an unwanted roll-out of a 20mph default speed limit.
This is in stark contrast to the Welsh Government's stated aim of getting people onto public transport. What has been implemented is a policy that actively forces people not to be able to access that public transport and instead increases dependency on cars.
Welsh Government has, of course, also been overseeing a long decline of buses in Wales and COVID did hasten the decline of bus passengers, but bus journeys per capita in Wales were on the slide way before then.
They declined a quarter between 2005 and 2019 and have been amongst the slowest to recover post pandemic. But it's the implementation of the default 20mph that is pushing them over the edge and, sadly, this whole thing has been predictable. These issues were even raised in the Chamber by myself and others but fell on deaf ears.
We have already seen a huge adjustment this year in funding into public transport from the Welsh Government and the ongoing impact of the default 20mph will only make this worse and it is clear in the evidence we've seen that Welsh Government's public transport policy is failing the people we represent, especially my residents in North Wales.
I would like to know, from the Deputy Minister if he's satisfied with these bus routes in North Wales being slashed and what exactly he's going to do to fix the mess that's been made.
The Deputy Minister said they recognised there would be an impact on some bus services, and were reviewing the guidance issued to local authorities, and impacts on buses were part of that review.
Mr Rowlands added:
I am very disappointed with the Deputy Minister’s response but not surprised. As usual he is failing to accept that this ridiculous blanket 20mph is disastrous in every sense of the word. Not only are motorists being targeted by the Welsh Labour Government but now bus passengers are in the firing line. How on earth they expect people to use public transport when it is not there is beyond me.
It is also totally crazy for any review to be carried out by the same person who recommended the implementation of this policy. They are hardly likely to be impartial.
Sam Rowlands AS yn beirniadu Llywodraeth Cymru am barhau i siomi pobl y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i wneud iawn am lanast maen nhw wedi'i wneud wrth gyflwyno'r cyfyngiadau cyflymder 20mya cyffredinol ledled Cymru.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid ac sydd wedi bod yn feirniadol iawn o’r polisi, i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, am ddatganiad yn dilyn y newyddion bod Arriva yn newid pob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i derfyn cyflymder cyffredinol 20mya Cymru.
Meddai:
Mae pobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gogledd, y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, bellach mewn sefyllfa waeth nag erioed o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiad cyflymder 20mya cyffredinol Llywodraeth Cymru. Mae'r darparwr bysiau, Arriva, yn gorfod newid pob un o'u gwasanaethau bysiau yn y Gogledd, ac nid yr ychydig y mae’r Dirprwy Weinidog eisiau cyfeirio atyn nhw, oherwydd 'amodau gweithredol heriol' fel y maen nhw’n ei ddisgrifio.
Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys nifer o leoliadau yn fy rhanbarth nad ydyn nhw bellach yn mynd i gael eu gwasanaethu gan fws, pentref Llandegla i enwi un enghraifft, a gostyngiadau difrifol i rannau eraill o'm rhanbarth.
Bydd gwasanaeth Llandudno i Brestatyn nawr yn gweithredu bob awr ac ni fydd yn galw i lefydd fel gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno nac i mewn i Lysfaen; mae gwasanaeth Bangor i Fiwmares yn cael ei leihau i fod yn wasanaeth bob 75 munud. Mae'r rhain yn drefi mawr, Bangor, Llandudno, Prestatyn—degau o filoedd o bobl sy'n byw yn yr aneddiadau hyn yn gweld eu gwasanaethau bysiau yn cael eu lleihau ymhellach fyth.
Mae hyn i gyd yn cael effaith negyddol sylweddol ar fy etholwyr ac mae'n gwneud eu bywydau'n anoddach fyth. Mae'n mynd i effeithio ar eu swyddi, eu teuluoedd, eu bywydau cymdeithasol i gyd – a hynny i gyd yn sgil cyflwyno’r terfyn cyflymder cyffredinol 20mya heb fod ei angen.
Mae hyn yn gwbl groes i nod datganedig Llywodraeth Cymru o gael pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yr hyn sydd ar waith yw polisi sy'n gorfodi pobl i beidio â gallu cael mynediad at y drafnidiaeth gyhoeddus honno gan orfodi’r ddibyniaeth gynyddol ar geir.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn goruchwylio dirywiad hir yn hanes bysiau yng Nghymru ac fe wnaeth COVID gyflymu’r gostyngiad mewn teithwyr bws, ond roedd teithiau bws y pen yng Nghymru yn dirywio ymhell cyn hynny.
Rhoddodd chwarter y defnyddwyr y gorau i ddefnyddio bysiau rhwng 2005 a 2019 ac mae’r sector bysiau wedi bod ymhlith yr arafaf i adfer ar ôl y pandemig. Ond cyflwyno’r ddeddfwriaeth 20mya cyffredinol yw’r hoelen olaf yn yr arch ac, yn anffodus, mae'r holl beth wedi bod yn hawdd ei ddarogan. Codwyd y materion hyn hyd yn oed yn y Siambr gennyf i ac eraill ond yn ofer.
Rydyn ni eisoes wedi gweld addasiad enfawr eleni o ran cyllid i drafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a bydd effaith barhaus y 20mya diofyn ond yn gwaethygu hyn. Mae hefyd yn amlwg yn y dystiolaeth sydd wedi’i gweld bod polisi trafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru yn methu'r bobl rydyn ni’n eu cynrychioli, yn enwedig fy nhrigolion yn y Gogledd
Hoffwn wybod, gan y Dirprwy Weinidog os yw'n fodlon gweld y gwasanaethau bysiau hyn yng Ngogledd Cymru yn cael eu cwtogi a beth yn union y mae'n mynd i'w wneud i ddatrys y llanast sydd wedi'i achosi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog eu bod yn cydnabod y byddai effaith ar rai gwasanaethau bysiau, a'u bod yn adolygu'r canllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol, ac roedd yr effeithiau ar fysiau yn rhan o'r adolygiad hwnnw.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n siomedig iawn gydag ymateb y Dirprwy Weinidog ond dydy o ddim yn fy synnu i. Fel arfer mae'n methu derbyn bod y ddeddfwriaeth 20mya chwerthinllyd hon yn drychinebus ym mhob ystyr o'r gair. Nid yn unig mae modurwyr yn cael eu targedu gan Lywodraeth Lafur Cymru ond bellach mae teithwyr bysiau yn ei chael hi hefyd. Sut ar y ddaear maen nhw'n disgwyl i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan nad ydy o ar gael.
Mae hefyd yn hollol wallgo bod adolygiad yn cael ei gynnal gan yr un person ag yr argymhellodd rhoi'r polisi hwn ar waith yn y lle cyntaf. Does fawr o obaith y bydd yn ddiduedd.