Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging Welsh Government to deal with the lack of NHS dentists in his region as a matter of urgency.
Just over 12 months ago, Mr Rowlands, called on the First Minister to take urgent action to deal with the growing crisis in North Wales, after being inundated with emails from concerned constituents who could not access an NHS dentist.
In March, Mr Rowlands carried out a survey which shockingly revealed the alarming figures for the number of dentists taking on NHS patients.
He said:
I contacted 69 NHS dentists in my region, spoke to 57 of those practices and the results were staggering: in all of North Wales, with a population of 700,000 people, not one NHS dental practice was able to take on new patients, with just four offering a place on a waiting list, likely to be over two years.
Only last month I highlighted the increasing problem in North Wales during a Welsh Conservative debate and urged the Welsh Labour Government to look at ways of solving the issue. Indeed even my own family can’t get an NHS dentist, including my children.
I remain extremely worried about the situation as I am still receiving emails from concerned constituents and the advice from Betsi Cadwaladr University Health Board is to contact dental surgeries direct to see if they are taking on NHS patients.
You used to be able to go online and see which practices are available but the health board says up to date information on practices and open waiting lists change constantly and the only reliable way at the moment is to contact surgeries direct.
They are also advising people needing urgent appointments to call NHS 111 for triage and direction to the correct service.
It clearly is a poor state of affairs and the Welsh Government need to take urgent action for the hundreds of people in North Wales who cannot access an NHS dentist.
People in North Wales pay their taxes and national insurance and deserve to be treated so much better.
Sam Rowlands AS yn beirniadu Llywodraeth Cymru am eu diffyg gweithredu
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i ddelio â'r diffyg deintyddion GIG yn ei ranbarth ar unwaith.
Ychydig dros 12 mis yn ôl, galwodd Mr Rowlands ar y Prif Weinidog i gymryd camau brys i ddelio â'r argyfwng cynyddol yn y Gogledd, ar ôl cael cymaint o e-byst gan etholwyr pryderus nad oedd yn gallu cael mynediad at ddeintydd GIG.
Ym mis Mawrth, cynhaliodd Mr Rowlands arolwg a ddatgelodd ffigurau brawychus ar gyfer nifer y deintyddion sy'n cyflogi cleifion y GIG.
Meddai:
Cysylltais â 69 o ddeintyddion y GIG yn fy rhanbarth, siarad gyda 57 o'r deintyddfeydd hynny ac roedd y canlyniadau'n syfrdanol: yng Ngogledd Cymru gyfan, gyda phoblogaeth o 700,000 o bobl, doedd yr un deintyddfa’r GIG yn gallu derbyn cleifion newydd, gyda dim ond pedwar yn cynnig lle ar restr aros, a fyddai’n debygol o fod dros ddwy flynedd.
Dim ond y mis diwethaf tynnais sylw at y broblem gynyddol yn y Gogledd yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig ac anogais Lywodraeth Lafur Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatrys y mater. Yn wir, ni all hyd yn oed fy nheulu fy hun gael deintydd GIG, gan gynnwys fy mhlant.
Rwy'n parhau i fod yn hynod bryderus am y sefyllfa gan fy mod yn dal i dderbyn e-byst gan etholwyr pryderus a'r cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw cysylltu â deintyddfeydd yn uniongyrchol i weld a ydyn nhw'n derbyn cleifion y GIG.
Roeddech chi'n arfer gallu mynd ar-lein a gweld pa ddeintyddfeydd sydd ar gael ond mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod y wybodaeth ddiweddaraf am ddeintyddfeydd a rhestrau aros agored yn newid yn gyson a'r unig ffordd ddibynadwy ar hyn o bryd yw cysylltu â deintyddfeydd yn uniongyrchol.
Maen nhw hefyd yn cynghori pobl sydd angen apwyntiadau brys i ffonio GIG 111 am gyngor a’u cyfeirio at y gwasanaeth cywir.
Mae'n amlwg ei bod yn sefyllfa wael ac mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys dros y cannoedd o bobl yn y Gogledd nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad at ddeintydd GIG.
Mae pobl y Gogledd yn talu eu trethi a'u hyswiriant gwladol ac yn haeddu cael eu trin gymaint gwell.