Sam Rowlands MS for North Wales is urging his constituents to sign up and raise vital funds for charity.
Mr Rowlands, a long-time supporter of any initiatives to fight this disease, is backing the annual ‘Walk All Over Cancer’ fundraiser.
He said:
It is important to remember we all have a vital role in helping to beat cancer and support any moves to help speed up processes so many more lives can be saved.
I fully support this year’s ‘Walk All Over Cancer’ challenge which is a major fundraiser for Cancer Research UK. It is absolutely vital to find more money to fight this dreadful disease and I am totally committed to increasing awareness of all types of cancer.
All proceeds from the fundraising are donated to the charity and I would urge my constituents to sign up to take part in the event.
Cancer Research UK funds research into cancer treatment and prevention across the world, working to develop new cancer drugs and provide the latest cancer information about cancer treatment and prevention to both health professionals and the public.
Participants can share details of their progress using the hashtag #walkallovercancer and walks can be either solo or walkers can challenge their friends and family to join them, or even take part with local walking groups.
The NHS recommends 10,000 steps per day for optimum health, however with increasingly sedentary lives, many people do not reach this amount, and so the challenge is an opportunity to improve your own health as well as raise money for a good cause. By taking 10,000 steps per day, walkers will achieve 150 miles by the end of the month.
Anybody interested in getting involved in Walk All Over Cancer will find further resources including free printable materials and information on fundraising and tracking steps at www.cancerresearchuk.org.
Mae Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch fawr Cancer Research UK fis Mawrth
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru yn annog ei etholwyr i gofrestru a chodi arian hanfodol ar gyfer elusen.
Mae Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd unrhyw fenter sy’n brwydro yn erbyn y clefyd, yn cefnogi’r digwyddiad codi arian “Walk All Over Cancer” blynyddol.
Meddai:
Mae’n bwysig cofio bod gan bawb rôl hollbwysig wrth helpu i drechu canser a chefnogi unrhyw ddatblygiadau sy’n helpu i gyflymu prosesau er mwyn gallu achub llawer mwy o fywydau.
Rwy’n cefnogi ‘Walk All Over Cancer’ eleni sy’n ddigwyddiad codi arian pwysig ar gyfer Cancer Research UK. Mae’n gwbl hanfodol dod o hyd i ragor o arian i frwydro yn erbyn y clefyd afiach hwn ac rwy’n gwbl ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth o bob math o ganser.
Bydd yr holl arian a gesglir yn cael ei roi i’r elusen a byddwn yn annog fy etholwyr i gofrestru a chymryd rhan yn y digwyddiad hwn.
Mae Cancer Research UK yn ariannu ymchwil i drin ac atal canser ym mhedwar ban byd, gan weithio i ddatblygu cyffuriau canser newydd a darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am drin ac atal canser i weithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd.
Gall pawb sy’n gymryd rhan rannu manylion eu cynnydd drwy ddefnyddio’r hashnod #walkallovercancer a gallwch gerdded ar eich pen eich hun neu herio’ch ffrindiau a theulu i ymuno â chi, neu hyd yn oed gymryd rhan gyda grwpiau cerdded lleol.
Mae’r GIG yn argymell 10,000 cam y dydd i fod yn iach, ond gyda bywydau cynyddol eisteddog, nid yw llawer o bobl yn cyrraedd y targed hwn, ac felly mae’r her yn gyfle i wella’ch iechyd eich hun yn ogystal â chodi arian i achos da. Drwy gymryd 10,000 cam y dydd, bydd cerddwyr yn cyrraedd 150 milltir erbyn diwedd y mis.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn Walk All Over Canser ddod o hyd i adnoddau pellach gan gynnwys deunyddiau i’w hargraffu am ddim a gwybodaeth am godi arian ac olrhain camau yn www.cancerresearchuk.org.