Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a council initiative to encourage volunteers to help support the mental health and wellbeing of others in the southern areas of Denbighshire.
Mr Rowlands said:
This is a great opportunity for anyone, over the age of 18, who has some time on their hands to sign up for this extremely important and worthwhile project.
We live in very challenging times at the moment and now more than ever I am pleased to see that there is help on offer for those suffering with their mental health. Even just sharing a cup of tea or having a chat on the phone will make a difference.
I think this is a great chance to make an impact through volunteering and urge anyone interested to get in touch with the team.
Denbighshire County Council’s Edge of Care Mental Health Team are looking for volunteers to support the mental health and wellbeing of others in the southern areas of Denbighshire. The aim of the project is to help reduce isolation and improve mental health and well-being.
The team welcomes applications from anyone over the age of 18 who feels that they have some spare time to spend with others. The team will look to match volunteers to citizens based on shared interests and hobbies.
Volunteers don’t have to be qualified professionals and can just be a caring person with or without experience who would like to support others. A package of training will be provided and the volunteer coordinator will be there to support potential volunteers throughout the volunteering experience.
Volunteers can support citizens by attending social groups, going for walks, catching up over a cup of tea or even a phone call. Many of the citizens have experienced significant isolation and so the team is open to creative ideas to help to increase socialisation and well-being.
For more information and to register your interest please go to: https://www.denbighshire.gov.uk/en/jobs-and-employees/volunteering/volunteering-with-edge-of-care.aspx
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwad am wirfoddolwyr yn ne Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn cefnogi menter y cyngor i annog gwirfoddolwyr i helpu i gefnogi iechyd meddwl a lles eraill yn ardaloedd de Sir Ddinbych.
Dywedodd Mr Rowlands:
Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un dros 18 oed, sydd â rhywfaint o amser sbâr, i gofrestru ar gyfer y prosiect hynod bwysig a gwerth chweil hwn.
Rydyn ni’n byw mewn cyfnod heriol iawn ar hyn o bryd, a nawr yn fwy nag erioed rwy’n falch o weld bod help ar gael i’r rhai sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl. Bydd dim ond rhannu paned o de neu gael sgwrs ar y ffôn yn gwneud gwahaniaeth hyd yn oed.
Rwy’n credu bod hwn yn gyfle gwych i wneud argraff drwy wirfoddoli ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â’r tîm.
Mae Tîm Iechyd Meddwl Ar Ymyl Gofal Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi iechyd meddwl a lles eraill yn ardaloedd de Sir Ddinbych. Nod y prosiect yw helpu i leihau ynysigrwydd a gwella iechyd meddwl a lles.
Mae’r tîm yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un dros 18 oed sy’n teimlo bod ganddyn nhw rywfaint o amser sbâr i’w dreulio gydag eraill. Bydd y tîm yn ceisio paru gwirfoddolwyr â dinasyddion ar sail rhannu diddordebau a hobïau.
Nid oes angen i wirfoddolwyr fod yn weithwyr proffesiynol cymwys – mae croeso i unigolion gofalgar fynegi diddordeb, nid oes rhaid cael profiad dim ond yr awydd i gefnogi eraill. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu, a bydd cydlynydd gwirfoddolwyr ar gael i gefnogi darpar wirfoddolwyr drwy gydol y profiad gwirfoddoli.
Gall gwirfoddolwyr gefnogi dinasyddion drwy fynychu grwpiau cymdeithasol, mynd am dro, rhannu sgwrs dros baned o de neu hyd yn oed alwad ffôn. Mae llawer o’r dinasyddion wedi profi ynysigrwydd sylweddol, ac felly mae’r tîm yn croesawu syniadau creadigol i roi hwb i gymdeithasu a lles.
Am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/gwirfoddoli/gwirfoddoli-gydag-ar-ymyl-gofal.aspx